Agenda item

CYNNIG GOFAL PLANT CYMRU

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar Gynnig Gofal Plant Cymru, ei nod oedd cefnogi teuluoedd i ddarparu gofal plant hyblyg, fforddiadwy o ansawdd uchel i hyrwyddo adfywio economaidd, lleihau'r pwysau ar incwm teuluoedd a helpu rhieni i gymryd rhan mewn gwaith, a thrwy hynny lleihau risg y teulu o dlodi.  At hynny, cafodd y cynllun, a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2019, ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rhieni cymwys gan geisio gwella llesiant plant drwy ddarparu profiadau gofal plant cadarnhaol a chyfoethog.

 

Darparwyd crynodeb o gyflwyniad y cynllun i'r Pwyllgor, a oedd yn cynnwys cyflwyno gwasanaeth digidol y Cynnig Gofal Plant Cenedlaethol yn Haf 2022 i ddarparu proses mwy syml ac unffurf o ran cofrestru a chyflwyno cais, a gwasanaeth hawliadau taliadau cyflym wythnosol i ddarparwyr. 

 

Roedd yr adroddiad yn nodi ystadegau ar gyfer nifer y ceisiadau a gymeradwywyd ac yn manylu ar y cymorth sydd ar gael ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol drwy'r Grant Cymorth Ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Adolygodd y Pwyllgor y taliadau a wnaed i Ddarparwyr Gofal Plant Sir Gaerfyrddin a oedd yn cynrychioli arbediad sylweddol i lawer o deuluoedd lleol sy'n gweithio gan helpu i gynnal darparwyr gofal plant lleol, yn enwedig yn ystod pandemig y coronafeirws.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:-

 

Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant,  o ystyried y meini prawf cymhwysedd, y byddai'n anodd cael ffigurau cywir ynghylch nifer y rhieni/gwarcheidwaid nad oeddent wedi gwneud cais ar gyfer y cynnig gofal plant.  Fodd bynnag, roedd y pwyllgor wedi cael sicrwydd drwy nodi bod yr adran wedi defnyddio strategaeth farchnata a chyfathrebu gadarn i hyrwyddo'r cynllun mewn modd cyson ac yn unol â'i nodau a'i amcanion.   

 

Yn dilyn ymholiad, ystyriwyd bod y meini prawf cymhwysedd mewn perthynas â'r isafswm o oriau a weithiwyd yn cael eu hystyried yn un o'r prif rwystrau i gael mynediad i'r cynllun.  Fodd bynnag, tynnwyd sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi ymestyn y meini prawf cymhwysedd i gynnwys y rhai mewn addysg uwch, gweithwyr tymhorol a rhieni plant mabwysiedig.

 

Mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan Aelod, dywedwyd er bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fyddai'n adolygu'r gyfradd dalu am flwyddyn arall, bod yr Awdurdod yn monitro'r sefyllfa'n agos yn dilyn pryderon a godwyd nad oedd cyfradd y taliad yn gynaliadwy i rai darparwyr, ac o ganlyniad yn golygu bod rhai rhieni yn gwneud taliadau atodol.

 

Holwyd a oedd dosbarthiad darparwyr ledled Sir Gaerfyrddin wedi arwain at rieni/gwarcheidwaid yn gorfod defnyddio darpariaeth gofal plant y tu allan i'r ardal leol, a thrwy hynny gael effaith ganlyniadol ar y dewis o ysgolion a ddewisir.  Dywedodd Rheolwr y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant fod dadansoddiad o fylchau yn y ddarpariaeth gofal plant ar draws y sir yn cael ei gynnal bob 5 mlynedd a nodwyd bod gostyngiad yn nifer y gwarchodwyr plant mewn ardaloedd gwledig ers pandemig y coronafeirws.  Er y cydnabuwyd y gallai'r diffyg darpariaeth gofal plant mewn rhai ardaloedd ddylanwadu ar y dewis o ysgolion a ddewisir gan rieni/gwarcheidwaid, cydnabuwyd hefyd y gellid priodoli amrywiaeth o amgylchiadau i'r ysgolion a ddewisir.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: