Agenda item

CYNLLUNIAU DARPARU GWASANAETHAU IS-ADRANNOL DRAFFT 2024-25

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorydd B.W. Jones,  wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ac arhosodd yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried].

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Cynlluniau Cyflawni Gwasanaeth Is-adrannol Drafft sy'n berthnasol i'r gyfarwyddiaeth Addysg a Gwasanaethau Plant ar gyfer 2024/25 fel a ganlyn:

 

·   Mynediad i Addysg

·   Gwasanaethau Plant

·   Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant

·   Strategaeth a Chymorth i Ddysgwyr

 

Roedd y Cynlluniau Cyflawni Gwasanaeth Is-adrannol Drafft yn pennu'r camau a'r mesurau strategol i'w gweithredu ym mhob isadran er mwyn i'r Cyngor wneud cynnydd mewn perthynas â'i amcanion llesiant, ei flaenoriaethau thematig a blaenoriaethau'r gwasanaeth. 

 

O ran y Cynllun Cyflawni Gwasanaeth - Gwasanaethau Plant, roedd yr adroddiad yn cynnwys yr elfennau sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg ac yn ymwneud â'r meysydd canlynol:

 

·       Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion

·       Seicoleg Addysg

·       Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae

 

Eglurodd y Pennaeth Mynediad i Addysg fod y pandemig coronafeirws, Brexit a Rhyfel Wcráin wedi cyfrannu at gynnydd sylweddol mewn costau adeiladu, sydd wedi rhwystro cyflawni prosiectau sy'n gysylltiedig â'r Rhaglen Moderneiddio Addysg.

 

Mewn ymateb i ymholiad, rhoddodd y Pennaeth Mynediad i Addysg ddiweddariad ar gyflwyno'r ddarpariaeth Prydau Ysgol am Ddim i bob Plentyn Ysgol Gynradd y disgwylid iddo gwblhau ym mis Chwefror 2024. Yn hyn o beth, rhoddodd y Pennaeth Mynediad i Addysg ganmoliaeth i'r tîm Arlwyo ac adrannau eraill yn yr Awdurdod a oedd wedi cynorthwyo i ddarparu'r ddarpariaeth.

 

Dywedwyd ymhellach, er bod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu gwerth y Prydau Ysgol Am Ddim i bob Plentyn Ysgol Gynradd o £2.90 i £3.20, nid oedd y swm yn adlewyrchu'r gwir gost i'r Awdurdod am ddarparu prydau ysgol maethlon o ansawdd uchel i bob ysgol gynradd.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod trafodaethau'n parhau â Llywodraeth Cymru mewn ymdrech i gymhwyso lefelau ariannu pwrpasol ar draws gwahanol siroedd o ystyried y costau ychwanegol a ysgwyddir gan ardaloedd gwledig.  I gefnogi ymdrechion y Swyddogion, gofynnodd Aelod i deimladau'r Pwyllgor gael eu cyfleu i Lywodraeth Cymru o ran y fformiwla ariannu Prydau Ysgol am Ddim fel rhan o unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wneir mewn perthynas â'r gyllideb (cofnod 4 uchod).

 

Mewn ymateb i gais, rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, drosolwg o'r lleoliadau noddedig ar raglen Gradd Gwaith Cymdeithasol / Gradd Meistr y Brifysgol Agored, a'i nod oedd lliniaru’r prinder cenedlaethol o weithwyr cymdeithasol.  Croesawodd y Pwyllgor yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael i weithwyr presennol a newydd i ddod yn weithwyr cymdeithasol cymwys yn y sir.

 

Mewn ymateb i ymholiad, rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant wybodaeth i'r Aelodau am y sefyllfa bresennol mewn perthynas â chefnogi gwell ymddygiad ar draws ysgolion y sir.  Roedd y mater cenedlaethol ynghylch safonau ymddygiad yn dirywio wedi dod yn fwy cyffredin yn dilyn pandemig y coronafeirws, a waethygwyd ymhellach gan ôl-groniad cyflyrau niwrolegol yn dilyn diagnosis gan y gwasanaeth iechyd.  Roedd yr Aelodau wedi’u sicrhau bod strategaeth glir ar waith i reoli ymddygiad mewn ysgolion a oedd yn defnyddio'r dull Team Teach i reoli ymddygiad a oedd hefyd yn cymeradwyo ymyrraeth gynnar fel elfen allweddol. 

 

Darparodd y Pennaeth Strategaeth a Chymorth Dysgwyr grynodeb o rôl yr Ymgynghorydd Addysg Awyr Agored i sicrhau diogelwch pobl ifanc sy'n mynychu gweithgareddau awyr agored. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

6.1

Bod y Cynlluniau Cyflawni Gwasanaeth Is-adrannol Drafft sy'n berthnasol i'r gyfarwyddiaeth Addysg a Gwasanaethau Plant ar gyfer 2024/25 yn cael eu cymeradwyo;

 

6.2

Bod teimladau'r Pwyllgor y cyfeirir atynt uchod o ran y fformiwla ariannu Prydau Ysgol am Ddim yn cael eu cyfleu i Lywodraeth Cymru fel rhan o unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wneir mewn perthynas â'r gyllideb [cofnod 4 uchod].

 

Dogfennau ategol: