Agenda item

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2023/24

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar  31 Hydref 2023, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2023/24.

 

Roedd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhagweld gorwariant o £9,740k ar y gyllideb refeniw. Dangosodd y prif amrywiadau ar gynlluniau cyfalaf amrywiant disgwyliedig o -£49k yn erbyn cyllideb net o £1,906k ar brosiectau gofal cymdeithasol, ac amrywiad o -£184k yn erbyn cyllideb net prosiectau'r Gwasanaethau Plant o £517k.

 

Amlygodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y gorwariant cyllidebol a ragwelir ar Wasanaethau Plant o bryder sylweddol i sefyllfa'r gyllideb gorfforaethol, ac wrth gydnabod hyn sefydlwyd gweithgor i ymchwilio a nodi camau cywirol lle bo hynny'n bosibl.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt. Dyma'r prif faterion:

 

·    Mynegwyd pryder ynghylch cost ormodol staff asiantaeth mewn cartrefi preswyl a gofynnwyd pa fesurau diogelu oedd ar waith i sicrhau na fyddid yn dibynnu ar staff asiantaeth yn yr un modd yn y flwyddyn ariannol nesaf. Dywedodd swyddogion fod gweithgor wedi'i sefydlu i helpu i gael dealltwriaeth o'r gofynion gwaith. Y gobaith oedd y byddai gwelliant yn y sefyllfa ariannol yn amlwg yn yr adroddiad monitro nesaf. Gwnaed gwaith i sefydlu cronfa hyblyg fewnol o staff achlysurol ac, os bydd hyn yn llwyddiannus, byddai'n lleihau'r ddibyniaeth ar staff asiantaeth. 

·    Mewn ymateb i bryderon ynghylch y gorwariant o £9.7m a beth fyddai'r sefyllfa debygol ar ddiwedd y flwyddyn, dywedwyd wrth y Pwyllgor, er bod y ffigur yn peri pryder, ei fod ar gyfer yr adrannau o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor hwn a bod y rhagolwg yn is yn gorfforaethol oherwydd y tanwariant yn Adran y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol. Nodwyd hefyd bod tanwariant o ran y Taliadau Cyfalaf. Unwaith eto, atgoffwyd y Pwyllgor fod y gwaith monitro yn mynd i'r afael â'r 'perfformiad gwirioneddol' yn seiliedig ar ddata hyd at ddiwedd mis Hydref a bod y cyfrifwyr wedi gweithio'n agos gyda'r holl adrannau gwasanaeth i adolygu'r tueddiadau a'r meysydd lle mae gorwariant. Dywedwyd bod y cynnydd yn y defnydd o staff asiantaeth wedi'i nodi fel rhan o'r broses fonitro a nodwyd y byddai'r sefyllfa ariannol yn dirywio ymhellach oni bai bod camau unioni yn cael eu rhoi ar waith.

·    Gan gyfeirio at Atodiad B, gofynnwyd beth oedd ystyr 'ffyrdd eraill o weithio'. Dywedodd swyddogion fod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori'n ddiweddar ar bapur gwyn ar ailgydbwyso gofal a chymorth a oedd yn ystyried sut yr oedd y broses gomisiynu yn cael ei chynnal gyda mwy o bwyslais ar liniaru methiannau yn y farchnad. Enghraifft o hyn fyddai datblygu mwy o gapasiti mewnol, a rhoddwyd enghraifft benodol sef cartref gofal Plas y Bryn a gaeodd y llynedd ac a gafodd ei brynu gan yr Awdurdod Lleol yn dilyn hynny. Nodwyd hefyd fod uchelgais i ddatblygu cyfleusterau plant mewnol i liniaru cost ormodol lleoliadau'r tu allan i'r sir.

·    Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y grant a dderbyniwyd ar gyfer Plant heb Gwmni Oedolyn sy'n Ceisio Lloches, dywedodd swyddogion fod yr arian a dderbyniwyd oddi wrth y Swyddfa Gartref yn incwm sy'n gysylltiedig â phob plentyn heb gwmni oedolyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: