Agenda item

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2024/25 TAN 2026/27

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd H. Shepardson wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac arhosodd yn y cyfarfod tra bo ystyriaeth yn cael ei rhoi iddi)

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar Strategaeth Cyllideb Refeniw y Cyngor 2024/25 hyd at 2026/27, fel y'i cymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2024. Roedd yr adroddiad yn darparu'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2024/2025, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2025/2026 a 2026/2027, yn seiliedig ar ragamcanion ynghylch gofynion gwariant y swyddogion ac yn ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 20 Rhagfyr 2023.

 

Dywedodd y Pwyllgor, er bod y setliad amodol a gyhoeddwyd yn cynrychioli cynnydd cyfartalog o 3.1% ledled Cymru ar setliad 2023/24, fod cynnydd Sir Gaerfyrddin wedi bod yn 3.3% (£11.0m) gan felly gymryd y Cyllid Allanol Cyfun i £349,441m ar gyfer 2024/25. Er bod y setliad ychydig yn uwch na ffigur arfaethedig y Cyngor, sef cynnydd o 3.0%, ac yn darparu £0.9m yn fwy na rhagdybiaeth wreiddiol y Cyngor, ac roedd hyn i'w groesawu, roedd y cynnydd o ran chwyddiant, codiadau cyflog a phwysau eraill ar y gwasanaeth yn llawer uwch na'r cyllid a ddarparwyd. Yn ei gyd-destun, cyfanswm y cyllidebau ychwanegol oedd eu hangen yn 2024/25 i dalu costau codiadau cyflog yn unig oedd £15m.

 

Tra bo cynigion y gyllideb yn tybio bod yr holl gynigion am arbedion yn cael eu cyflawni'n llawn, nodwyd byddai angen gwneud gwaith pellach i ddatblygu'r gostyngiadau mewn costau ar gyfer blynyddoedd ariannol 2025/26 a 2026/27 er mwyn gallu cynnal y Strategaeth Cyllideb a'r lefel Treth Gyngor presennol. 

 

Dywedwyd, o ystyried risgiau presennol Strategaeth y Gyllideb a'r cefndir parhaus o ran chwyddiant ynghyd â gwasgfeydd cyllidebol eraill, fod y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2024/25 wedi'i osod yn 6.5% i liniaru gostyngiadau i wasanaethau critigol. Fodd bynnag, roedd y strategaeth yn cynnwys diffyg o £801k y byddai angen mynd i'r afael ag ef er mwyn i'r  Cyngor bennu cyllideb gytbwys.  Ym mlynyddoedd 2 a 3 roedd y darlun ariannol dal yn ansicr, ac, o'r herwydd, roedd codiadau dangosol enghreifftiol o 4% a 3% yn y Dreth Gyngor wedi cael eu gwneud at ddibenion cynllunio'n unig, gan geisio taro cydbwysedd gyda'r gostyngiadau yn y gyllideb. Byddai'r cynigion hynny yn cael eu hystyried gan y Cyngor wrth bennu lefel y Dreth Gyngor ar gyfer 2024/25 yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror, 2024. Yn ogystal, roedd ffigur setliad terfynol Llywodraeth Cymru i gael ei gyhoeddi ar 27 Chwefror 2024 a byddai unrhyw ddiwygiadau yr oedd yn ofynnol eu hystyried i strategaeth y gyllideb o'r cyhoeddiad hwnnw hefyd yn cael eu hystyried gan y Cyngor ar 28 Chwefror.

 

Nodwyd ymhellach, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid ychwanegol i Awdurdodau Lleol Lloegr, y gobaith oedd y byddai Llywodraeth Cymru yn cael £28m ychwanegol drwy Fformiwla Barnett a bod sylwadau'n cael eu gwneud i'r cyllid ychwanegol hwnnw gael ei ddarparu i Awdurdodau Lleol Cymru.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:

 

·       Atodiad A(i)  – Crynodeb o'r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden, Lle a Chynaliadwyedd a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai.

·       Atodiad A(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer y Gwasanaethau Lle a Chynaliadwyedd, - dim un ar gyfer meysydd Adfywio, Hamdden Lle a Chynaliadwyedd a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai.

·       Atodiad B – adroddiad monitro'r Gyllideb ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden, Lle a Chynaliadwyedd a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai.

·       Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden, Lle a Chynaliadwyedd a Gwasanaethau Taiheblaw'r Cyfrif Refeniw Tai.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·       O ran cynigion y gyllideb i gynyddu incwm o fewn y gwasanaethau hamdden, cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden eu bod yn ymwneud yn bennaf â chynyddu gweithgarwch a'r math o gynhyrchion a gynigir i ehangu'r sail incwm yn hytrach na chynyddu prisiau. Fodd bynnag, er bod y gyllideb hamdden wedi'i gosod gyda chynnydd o 4% mewn prisiau, rhoddwyd ystyriaeth ofalus i'r gwahanol resymau dros y cynnydd a'r effaith bosibl y gallai'r rheiny ei chael ar allu rhai preswylwyr i dalu, ac nad oedd prisiau wedi cynyddu mewn rhai achosion. Yn ogystal, roedd y Cyngor yn gweithredu polisi rhatach i gynnig cyfraddau is i'r rheiny sydd â'r angen mwyaf ond roedd angen adolygu hynny er mwyn sicrhau cysondeb wrth ei ddefnyddio.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y gostyngiad arfaethedig i ran y defnydd o asiantaethau yng Nghartrefi Gofal Preswyl y Cyngor, dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd, er bod y Cyngor yn defnyddio staff asiantaeth yn ei gartrefi preswyl, mai'r farn oedd y gellid sefydlu a gweithredu asiantaeth fewnol am gostau is.

Yn hynny o beth, byddai cynllun peilot yn cael ei dreialu yn y pedwar cartref mewnol yn Llanelli rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2024 ac, os yw'n llwyddiannus, gellid ei ymestyn drwy weddill y portffolio mewnol ar draws y sir ac, o bosibl, ei ymestyn i gynnwys gofal cartref. Byddai'r cynllun yn cael ei wneud fesul cam i sicrhau bod yr arbedion arfaethedig yn cael eu cyflawni. Cadarnhawyd hefyd y cafwyd trafodaethau â Dinas a Sir Abertawe a oedd wedi sefydlu asiantaeth fewnol debyg,a'r farn oedd y gallai'r ddarpariaeth fewnol arfaethedig fod yn llwyddiannus a chael ei gweithredu am gost is na’r hyn sy'n cael ei wario ar hyn o bryd.

·      O ran y cynnig ar gyfer adlinio grantiau a ffynonellau cyllid eraill i gefnogi swyddi rheng flaen a gwasanaethau eraill, cadarnhaodd y Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd mai'r farn oedd bod yr adlinio'n cydymffurfio ag amodau'r grant ac y byddai'n gynaliadwy am nifer o flynyddoedd i ddiogelu'r gwasanaethau rheng flaen.

·       Dywedodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd, mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y gostyngiadau yn y gyllideb amddiffyn rhag llifogydd, y gallai'r Cyngor wneud ceisiadau i Lywodraeth Cymru am gyllid ychwanegol ac, yn amodol ar gael cadarnhad, ei fod wedi sicrhau cyllid ar gyfer y flwyddyn bresennol i wrthbwyso'r gostyngiad i'r gyllideb graidd.

·       O ran effaith Covid ar y gwasanaeth hamdden, cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden, er bod rhai gwasanaethau wedi'u hadfer yn gyflymach nag eraill, roedd yr adferiad cyffredinol yn gadarnhaol ac roedd y gwasanaeth ar ben ffordd eto, gyda thwf mewn rhai meysydd. Fodd bynnag, roedd yn rhaid gwerthfawrogi bod llawer o ffactorau eraill fel prisiau tanwydd byd-eang, ansefydlogrwydd, chwyddiant a chostau byw hefyd wedi effeithio ar weithgarwch hamdden.

·       Cadarnhawyd, er bod y gyllideb yn cynnwys darpariaeth o £2m fel ffactor swyddi gwag i helpu i bontio'r diffyg yn y gyllideb, er enghraifft drwy gael trosiant staff arferol a dal gafael ar swyddi gwag i helpu i gyflawni'r targed o ran arbedion, yr ystyriwyd bod modd rheoli'r cynigion.

 

PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CABINET/CYNGOR: -

 

4.1

Bod yr Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw 2024/25 – 2026/27 yn cael ei dderbyn.

4.2

Bod y Crynoadau Taliadau ar gyfer y meysydd Adfywio, Hamdden, Lle a Chynaliadwyedd a Gwasanaethau Tai heblaw'r Cyfrif Refeniw Tai, fel y manylir yn Atodiad C i'r adroddiad, yn cael eu derbyn.

 

Dogfennau ategol: