Agenda item

CYFRIF REFENIW TAI A PHENNU RHENTI TAI 2024/25

Cofnodion:

[NODER: A hwythau wedi datgan buddiant yn yr eitem hon, gadawodd y Cynghorwyr M. Donoghue, A. Evans, H.A.L. Evans, J.P. Hart, P.M. Hughes, J.D. James, D. Price, S.L. Rees, E. Skinner, D. Thomas a G.B. Thomas y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried ac i benderfyniad gael ei wneud arni.]

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2024 [gweler cofnod 9], wedi adolygu'r cynigion Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhent Tai ar gyfer 2024/25cyn iddynt gael eu hystyried gan y Cyngor.  Roedd yr adroddiad, a baratowyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ar y cyd â swyddogion o'r Adran Cymunedau, yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf ar gyfer Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai am 2024/25 i 2026/27 ac yn manylu ar gynnydd arfaethedig i renti tai ar gyfer 2024/25.

 

Cyfeiriwyd at Atodiad D yr adroddiad a oedd yn nodi barn y Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio ar ôl ystyried a chymeradwyo'r cynigion yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2023, fel rhan o'r broses ymgynghori ar y gyllideb.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, mynegodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau yr heriau a wynebir gan yr Awdurdod wrth geisio cael y cydbwysedd cywir rhwng pennu'r rhent yn unol â pholisi presennol y Llywodraeth ar lefel sy'n fforddiadwy i denantiaid ar un llaw, gan gyflawni uchelgeisiau'r Awdurdod ar gyfer tai ar y llaw arall.  Ymhellach, pwysleisiwyd pe bai'r Cyngor yn mabwysiadu argymhellion y Cabinet, y byddai hyn yn golygu cynnydd cyfartalog o 6.5% i renti tai, a oedd ychydig yn is na chap Llywodraeth Cymru o 6.7%.  Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau y byddai'r cynnydd yn cyfateb i rent tai cyfartalog o £105.90 yr wythnos i'w tenantiaid ac yn gyfystyr ag un o'r lefelau rhent isaf allan o'r 11 Awdurdod sy'n cadw stoc yng Nghymru, ac yn sylweddol is na rhenti tai'r sector preifat. 

 

Wrth gloi, adroddodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y cynigion yn ceisio cael cydbwysedd rhwng y pwysau ar aelwydydd yn ystod argyfwng costau byw a'r angen i barhau â Rhaglen Datblygu Tai yr Awdurdod, gan sicrhau bod eiddo'n parhau i gael eu cynnal i Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy(CHS+).  

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:

 

7.1.1

cynyddu'r rhent tai cyfartalog gan 6.5% (£6.47) fesul preswylfa yr wythnos oddi mewn i baramedrau Polisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru (gan gynnwys y camau cynnydd ar gyfer tenantiaid sy'n is na'r rhenti targed)

            - bod cynnydd o 6.39% yn digwydd i renti eiddo sydd ar y rhenti targed

- bod eiddo lle mae'r rhent yn is na'r rhent targedyn cynyddu gan 6.39% yn ogystal â'r cynnydd mwyaf posibl o £1.00

- caiff y rhenti hynny sy'n uwch na'r targed eu rhewi hyd nes eu bod yn unol â'r  targed

a fydd yn creuCynllun Busnes cynaliadwy, yn cynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (CHS+) ac yn gwireddu Cynllun Cyflawni'r Awdurdod ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai;

 

7.1.2

parhau â'r camau cynnydd mwyaf posibl o £1 a ganiateir ar gyfer rhenti sy'n is na'r rhenti arfaethedig ar gyfer pob math o stoc;

 

7.1.3

cynyddu rhenti garejis 6.5% o £9.00 i £9.60 a sylfeini garejis o £2.08 i £2.22;

 

7.1.4

gweithredu'r Polisi Taliadau am Wasanaethau sydd wedi'i ddiwygio i sicrhau bod y tenantiaid sy'n elwa ar wasanaethau penodol yn talu am y gwasanaethau hynny (Atodiad C o'r adroddiad);

 

7.1.5

cynyddu'r taliadau am ddefnyddio ein gwaith trin carthffosiaeth yn unol â'r cynnydd mewn rhenti;

 

7.1.6

cymeradwyo Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2024/27 (cyllidebau dangosol oedd rhai 2025/26 a 2026/27) fel y nodwyd yn Atodiad A o'r adroddiad;

 

7.1.7

cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig a'r cyllid perthnasol ar gyfer 2024/25 a'r gwariant dangosol ar gyfer 2025/26 hyd 2026/27, fel y'u nodwyd yn Atodiad B o'r adroddiad.”

 

Dogfennau ategol: