Agenda item

CYNLLUN BUSNES 2024-27 Y CYFRIF REFENIW TAI RHAGLEN BUDDSODDIADAU TAI SIR GAERFYRDDIN

Cofnodion:

[SYLWER:

·       Ar ôl datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, nid oedd y Cynghorydd H.A.L. Evans yn bresennol tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried ac wrth i benderfyniad gael ei wneud arni.

·       A hwythau wedi datgan buddiant yn yr eitem hon, arhosodd y Cynghorwyr J. D. James ac E. Skinner yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried ac wrth i benderfyniad gael ei wneud arni.]

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2024 [gweler cofnod 8], wedi ystyried Cynllun Busnes 2024-27 y Cyfrif Refeniw Tai - Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin a oedd yn esbonio gweledigaeth a manylion Rhaglen Buddsoddiadau Tai'r Cyngor dros y tair blynedd nesaf ac a oedd yn cynnwys cynlluniau gwella'r stoc dai, y rhaglen adeiladu newydd a darparu mwy o dai fforddiadwy, ynghyd â datblygu safonau newydd i fodloni egwyddorion carbon sero net yr Awdurdod. 

 

Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Gartrefi grynodeb o'r pum thema allweddol a nodwyd yn y cynllun busnes a rhoddodd drosolwg o'r blaenoriaethau a fyddai'n diffinio'r cyfeiriad y byddai'r Awdurdod yn mynd iddo dros y tair blynedd nesaf, fel a ganlyn:

 

·       Darparu cynnig rheoli ystadau a thenantiaethau newydd i sicrhau bod swyddogion tai yn fwy gweladwy a hygyrch ar ystadau'r Awdurdod. Byddai'r cynnig hefyd yn ceisio cael cydbwysedd rhwng cefnogaeth i denantiaid y Cyngor a gweithgarwch gorfodi lle bo hynny'n briodol. Byddai hyn hefyd yn cyd-fynd â gweithredu cynllun peilot "tasgmon" newydd ar ystadau sydd â blaenoriaeth;

 

·       Parhau i gadw nifer yr eiddo gwag yn isel a lleihau nifer yr atgyweiriadau o ddydd i ddydd sy'n aros i gael eu gwneud trwy ddarparu gwell gwasanaeth atgyweirio o ddydd i ddydd, a chywiro'r rhaniad presennol rhwng contractwyr mewnol ac allanol;

 

·       Parhau i fuddsoddi mewn cartrefi i wneud yn si?r eu bod yn rhatach i'w rhedeg ar gyfer tenantiaid y Cyngor gyda'r nodau hirdymor o ddatgarboneiddio cartrefi;

 

·       Caffael mwy o dir yn yr ardaloedd lle mae'r angen mwyaf, gan gynnwys safleoedd mwy i'w defnyddio'n unig ar gyfer tai Cyngor i ddiwallu'r angen digynsail am gartrefi;

 

·       Buddsoddiad pellach mewn tai o fath arbenigol (e.e. anabledd dysgu, tai â chymorth i bobl h?n a phobl ifanc) i sicrhau bod anghenion yn cael eu diwallu yn y ffordd fwyaf priodol. Byddai'r buddsoddiad hwn hefyd yn sicrhau symud i ffwrdd o leoliadau drud ac amhriodol y tu allan i'r sir ar gyfer rhai grwpiau o gleientiaid; a

 

·       Caffael fframwaith mân waith newydd ar gyfer gwaith atgyweirio o ddydd i ddydd a phrosiectau gwella ehangach i sicrhau ymateb cyflymach ac i gefnogi contractwyr lleol llai ledled y Sir.

 

Tynnodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Gartrefi at y ffaith y byddai'r incwm a dderbynnir o renti tenantiaid ac o ffynonellau cyllid eraill dros y tair blynedd nesaf yn galluogi'r Awdurdod i ddatblygu rhaglen gyfalaf o dros £110m a fyddai'n cael effaith gadarnhaol ar denantiaid ac ymdrechion y presennol a'r dyfodol. Wrth gloi, estynnodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Gartrefi ei diolch i'r rheiny a gyfrannodd at ddatblygu cynllun cynhwysfawr ac uchelgeisiol yr Awdurdod.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch polisi'r Cyngor ar leithder a'r llwydni, cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Gartrefi sylw'r Aelodau at y Polisi Cydymffurfiaeth Safonau Tai a bennir yn Atodiad F i'r adroddiad a Thema 2 y Rhaglen Buddsoddiadau Tai, a oedd yn cynnwys saith maes gwaith allweddol, gan gynnwys camau arfaethedig y Cyngor i leihau amlygiad i leithder a llwydni.  Nodwyd ymhellach fod gan denantiaid gyfrifoldeb hefyd i hysbysu'r Cyngor o faterion o'r fath.

 

Cyfeiriwyd at y cynnig rheoli ystadau a thenantiaethau newydd trwy'r hwn y gwnaed cais i swyddogion fynd ati yn rhagweithiol i weithio gydag Aelodau mewn dull partneriaeth i wella amodau byw i denantiaid.

 

Gwnaethpwyd y sylw bod ymdrechion yr Awdurdod i fynd i'r afael â'r argyfwng tai, gan fuddsoddi'n sylweddol yn ystod cyfnodau o gyni a chyfyngiadau cyllidebol, yn rhywbeth a oedd i'w ganmol.

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd ynghylch cartrefi ag amodau byw a oedd yn cael eu hystyried yn annerbyniol oherwydd achosion difrifol o lwydni, dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Gartrefi y gellid cyfeirio ymholiadau ati er mwyn ymchwilio ymhellach iddynt.

 

Yn dilyn ymholiad, rhoddodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Gartrefi sicrwydd bod gwaith adfer mewn perthynas â chael gwared ar ddeunydd inswleiddio waliau ceudod yn cael ei wneud gan y Cyngor, yn ôl yr angen.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Cabinet:

 

7.2.1

cadarnhau'r weledigaeth ar gyfer y rhaglenni buddsoddiadau tai dros y tair blynedd nesaf;

 

7.2.2

cytuno bod Cynllun Busnes 2024/25 yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru; 

 

7.2.3

nodi'r cynnig newydd o ran rheoli ystadau a thenantiaethau a fydd yn sicrhau bod ein swyddogion tai yn fwy gweladwy a hygyrch, gan gydbwyso'r cymorth sydd ei angen ar denantiaid a'r angen i gymryd camau gorfodi pan fo angen;

 

7.2.4

cytuno i weithredu cynllun peilot "tasgmon" newydd ar ystadau sydd â blaenoriaeth;

 

7.2.5

nodi ymrwymiad yr Awdurdod i gadw nifer yr eiddo gwag mor isel â phosibl;

 

7.2.6

cadarnhau ymrwymiad yr Awdurdod i leihau nifer yr atgyweiriadau o ddydd i ddydd sydd yn aros i'w gwneud trwy ailgydbwyso'r rhaniad rhwng contractwyr mewnol ac allanol, a datblygu fframwaith gwaith bach newydd;

 

7.2.7

cadarnhau blaenoriaeth yr Awdurdod i brynu tir ychwanegol a datblygu safleoedd mawr ar gyfer tai Cyngor yn unig a nodi'r cyfraniad y mae'r cynllun hwn yn ei wneud i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy;

 

7.2.8

nodi ymrwymiad yr Awdurdod i wneud ein holl dai yn fwy effeithlon o ran ynni i denantiaid, gan sicrhau sgôr perfformiad ynni Band C o leiaf, gosod paneli solar ar doeau fel rhan o'n rhaglen gosod toeau newydd, a datblygu achos busnes dros osod ar raddfa fwy helaeth baneli solar ar gartrefi tenantiaid a chefnogi egwyddorion carbon sero net y Cyngor;

 

7.2.9

cadarnhau ymrwymiad yr Awdurdod i barhau i gynyddu'r cyflenwad o dai arbenigol yn y sir;

 

7.2.10

nodi pwysigrwydd y buddsoddiad sydd wedi'i gynnwys yn y cynllun hwn a'i rôl o ran ysgogi'r economi leol a chreu swyddi a chyfleoedd hyfforddi lleol.”

 

Dogfennau ategol: