Agenda item

ADOLYGIAD O'R STRATEGAETH DDIGIDOL - CYNGOR SIR CAERFYRDDIN

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad Archwilio Cymru ar Adolygiad Strategaeth Ddigidol Sir Gaerfyrddin. Er bod yr adolygiad wedi'i gynnal fel rhan o Adolygiad Cenedlaethol, roedd adroddiadau unigol wedi'u paratoi ar gyfer pob cyngor. Ar gyfer Sir Gaerfyrddin, roedd yr adroddiad yn ystyried i ba raddau yr oedd ei dull strategol o ymdrin â gwasanaethau digidol wedi'i ddatblygu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy a'r gobaith oedd y byddai'n helpu i sicrhau gwerth am arian wrth ddefnyddio adnoddau'r Cyngor. Dyma oedd y canfyddiadau allweddol:

 

·       Mae gan y Cyngor ddull strategol clir o ymdrin â digidol, sy'n cael ei lywio gan ddealltwriaeth dda o dueddiadau'r presennol a'r dyfodol ac sy'n cael ei ddeall gan aelodau etholedig allweddol a swyddogion.

·       Mae trefniadau llywodraethu cryf i fonitro cynnydd prosiectau digidol a gefnogir gan gynlluniau gweithredu sy'n cynnwys cerrig milltir a mesurau perfformiad.

·       Mae'r Cyngor hefyd wedi adolygu effaith pandemig COVID-19 ar gyflawni ei strategaeth ddigidol ac wedi cymhwyso dysgu o hyn i lywio ei ddull strategol.

·       Gallai trefniadau'r Cyngor gael eu cryfhau ymhellach trwy ymgysylltu'n well â'r cyhoedd, gan egluro sut y gallai gyfrannu at y nodau llesiant cenedlaethol ac archwilio cyfleoedd ar gyfer gweithio mewn partneriaeth ymhellach.

·       Nod y Cyngor hefyd yw monitro gwerth am arian trwy adolygiadau ôl-weithredu prosiectau, fodd bynnag, nid yw'r rhain bob amser wedi'u cwblhau, ac nid yw cyflawni arbedion bob amser yn cael ei fonitro.

 

Roedd yr adroddiad hefyd wedi nodi pedwar argymhelliad (fel y manylwyd yn yr adroddiad) ac atodwyd ymateb y Cyngor i'r adroddiad:

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

Cyfeiriwyd at Atodiad 1 yr adroddiad a oedd yn manylu ar y cwestiynau yr oedd Archwilio Cymru yn ceisio eu hateb, ynghyd â'r meini prawf a ddefnyddiwyd i gyrraedd ei ganfyddiadau. Canfu'r Pwyllgor fod yr Atodiad yn rhoi llawer o wybodaeth gan ddarparu eglurder a nodi'r fframwaith ar gyfer cynnal yr archwiliad.

 

Er y cydnabuwyd na ellid defnyddio dull unffurf i gynnal gwerthusiad o unrhyw strategaeth yn gyffredinol, gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut y byddai'r Cyngor yn gwerthuso'r Strategaeth Ddigidol. Cadarnhawyd mai monitro yw'r allwedd i werthuso, ac y byddai'r cyngor yn trafod ag Archwilio Cymru ynghylch y ffordd orau o wneud hynny. Un peth sy’n allweddol i hynny fyddai monitro cyfraddau bodlonrwydd, yn feintiol ac yn ansoddol, ar gyfer gwasanaethau a ddarperir yn fewnol i adrannau'r cyngor ac yn allanol i drigolion y cyngor.

 

O ran cwestiwn ynghylch monitro argymhellion yr adroddiad, cadarnhawyd y byddai hynny'n rhan o adroddiadau cynnydd i'r Pwyllgor yn y dyfodol ynghylch argymhellion rheoleiddiol, fel y nodir yn eitem 8 o'r agenda.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am faterion cysylltedd yn y sir, yn enwedig yr ardaloedd mwy gwledig, derbyniwyd bod problem a bod dros £15m wedi'i fuddsoddi yn y maes hwnnw yn ystod y tair blynedd diwethaf, a byddai'r Strategaeth Ddigidol newydd, a fydd yn cael ei llunio ar gyfer 2024, yn canolbwyntio ar gynyddu cysylltedd i weddill y sir. Byddai'r Strategaeth hefyd yn canolbwyntio ar adfywio digidol, gan gynnwys gwella sgiliau digidol a chynhwysiant i drigolion y sir.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad a nodi ymatebion y Cyngor i'r argymhellion.

Dogfennau ategol: