Agenda item

GORFODI RHEOLAU CYNLLUNIO

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ynghyd â chyflwyniad a oedd yn rhoi trosolwg ar ddulliau Gorfodi Cynllunio y Cyngor a'r cynnydd o ran hynny.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio, gan dynnu sylw at y ffaith bod gan y Cyngor rôl ddewisol o ran cymryd pa gamau gorfodi bynnag oedd eu hangen yn ei ardal fel yr Awdurdod Cynllunio Lleol er budd y cyhoedd. Pwysleisiwyd pwysigrwydd gwasanaeth gorfodi cynllunio effeithiol wrth geisio sicrhau bod polisïau cynllunio cenedlaethol a lleol yn cael eu gweithredu'n gadarn ac yn rhesymol.

 

I gefnogi'r adroddiad, aeth yr Uwch-reolwr Datblygu a Gorfodi â'r Pwyllgor drwy'r cyflwyniad a oedd wedi'i atodi i'r adroddiad.  Roedd y cyflwyniad yn rhoi trosolwg o'r system gorfodi cynllunio ac yn manylu ar y prosesau a'r pwerau gorfodi oedd ar gael i'r Cyngor.

 

Ymatebwyd fel a ganlyn i'r sylwadau a roddwyd:-

 

·       Mewn ymateb i ymholiadau yngl?n â'r gyllideb a'r costau mewn perthynas â gorfodi, a phryd nad oedd er budd y cyhoedd i fynd ar drywydd achos, eglurodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd nad oedd cyllideb wedi'i neilltuo'n benodol ar gyfer Gorfodi Cynllunio.  Priodolir costau oedd ynghlwm wrth achosion cyn mynd i'r llys drwy gyllideb yr adran. Yn yr achosion sy'n mynd i'r Llys a allai fod yn destun erlyniad/gwaharddeb, byddai achos busnes yn cael ei ddatblygu a byddai cyllid yn cael ei geisio gan gronfeydd wrth gefn yr adran. Fodd bynnag, safbwynt yr Awdurdod oedd ceisio costau o'r llys, ond yn anffodus nid oedd y trywydd hwn yn ddibynadwy.  O ran achosion budd y cyhoedd, pwysleisiodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd fod dilyn achosion gorfodi yn rhan o brawf budd y cyhoedd ynghyd ag ystyried y niwed y gallai achosion ei gael ar fudd cyhoeddus ehangach.

 

·       Cyfeiriwyd at y graff a oedd yn darparu data mewn perthynas â chanlyniadau o fwy neu lai nag 84 diwrnod. Gofynnwyd beth oedd y cyfartaledd dros 84 diwrnod? Dywedodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd ei fod yn credu bod y cyfartaledd hwnnw tua 400 diwrnod. Eglurwyd bod y cyfartaledd yn cael ei gofnodi pan gâi achos ei ddatrys, ond bod effaith anghymesur ar y ffigurau cyfartalog yn y data gan fod hen achosion oedd newydd eu datrys wedi eu cynnwys. Fodd bynnag, er mwyn monitro perfformiad, dadansoddodd yr adran y data trwy eithrio'r data mewn perthynas ag hen achosion. Esboniodd yr Uwch-swyddog Gorfodi a Monitro y data yn fanylach gan gynnwys y data apelio.

 

·       Ers cyflwyno'r Hwb, dywedwyd bod yn rhaid i Aelodau Lleol bellach fynd drwy'r un broses â thrigolion eu wardiau er mwyn cael ymateb i faterion gorfodi.  Awgrymwyd y gallai gwella'r cyfathrebu ag aelodau lleol osgoi drwgdeimlad posibl yn y materion emosiynol hyn.  Dywedodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd fod y mater hwn yn cael ei ailystyried fel prosiect ar hyn o bryd, a byddai'r awgrymiadau gan yr aelodau yn cael eu hystyried i wella'r broses gyfathrebu o ran gorfodi.

 

·       Gofynnwyd pa mor hir roedd yn ei gymryd i swyddogion ymweld â safle ar ôl yr hysbysiad gorfodi cychwynnol? Eglurodd yr Uwch-reolwr Datblygu a Gorfodi y byddai pob achos gorfodi dilys yn destun proses brysbennu.  Lluniwyd y broses brysbennu gan dair lefel flaenoriaeth a oedd yn cynnwys ystyried yr effaith sylweddol ar yr amgylchedd, ar amwynder person, ac ar y niwed posibl. Mae'r lefelau blaenoriaeth yn cynnwys; Blaenoriaeth 1 – ymateb ar unwaith, Blaenoriaeth 2 – rhwng 5 a 10 diwrnod, Blaenoriaeth 3 – rhwng 10 a 15 diwrnod

 

·       Gan fod cyfathrebu yn allweddol, yn enwedig mewn materion yn ymwneud â gorfodi, awgrymwyd y byddai'n ddefnyddiol pe bai aelodau lleol yn cael mwy o wybodaeth er mwyn gallu cael sgyrsiau gwybodus gyda'r achwynwyr ac atal cynifer o e-byst dilynol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad Gorfodaeth Cynllunio.

 

 

Dogfennau ategol: