Agenda item

CYFRIF REFENIW TAI A PHENNU RHENTI TAI 2024/25

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar Gyllideb y Cyfrif Refeniw Tai a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2024/25 a gyflwynir fel rhan o broses ymgynghori'r gyllideb a ddygai ynghyd y cynigion diweddaraf ar gyfer y cyllidebau Refeniw a Chyfalaf ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai a fydd yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor er mwyn iddynt benderfynu yn eu cylch.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd wedi'u cynnwys yng Nghynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu a chynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol. Roedd y buddsoddiad arfaethedig a geir yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni STSG erbyn 2015 (i'r cartrefi hynny lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith), wedi darparu buddsoddiad i gynnal STSG+ ac wedi parhau â'r buddsoddiad yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar sut y byddai rhenti'n cynyddu ar gyfer 2024/25 gyda chyllideb y Cyfrif Refeniw Tai yn cael ei gosod i adlewyrchu'r canlynol:-

 

·       Y Polisi Rhenti Tai Cymdeithasol (a bennir gan Lywodraeth Cymru)

·       Cynigion yng Nghynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai Sir Gaerfyrddin

·       Cynllun Cyflawni ar gyfer Adfywio a Datblygu Tai

 

O ran pennu Rhenti Tai, atgoffwyd y Pwyllgor fod yr Awdurdod wedi mabwysiadu Polisi Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar 24  Chwefror 2015 am gyfnod o bedair blynedd hyd at 2018/19, a roddodd gysondeb dros y cyfnod hwnnw. Roedd Llywodraeth Cymru wedi darparu polisi interim ar gyfer 2019/20 wrth iddi aros am ganlyniadau'r Adolygiad o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy.Yn dilyn yr adolygiad hwnnw, roedd Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cadw'r polisi am gyfnod pellach o 5 mlynedd o 2020/21 gyda rhai gofynion ychwanegol/diwygiedig, fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Roedd y polisi hwn yn caniatáu i awdurdodau lleol gynyddu cyfanswm y rhent gan y CPI +1% ar gyfer pob un o'r pum mlynedd o 2020/21 i 2024/25. Roedd hefyd yn caniatáu i lefel y rhent ar gyfer tenantiaid unigol godi hyd at £2 ychwanegol ar ben CPI+1% ar gyfer cysoni rhenti, ar yr amod na fyddai cyfanswm yr incwm rhent a gasglwyd gan y landlord cymdeithasol yn cynyddu mwy na CPI+1%.

 

Fodd bynnag, os bydd CPI y tu allan i'r ystod o 0% i 3%, mae'r polisi'n darparu i'r Gweinidog â chyfrifoldeb am Dai benderfynu ar y newid priodol i lefelau rhent i'w gymhwyso ar gyfer y flwyddyn honno yn unig. Gan fod CPI yn 6.7% ym mis Medi 2023, roedd y cymal hwnnw wedi'i actifadu eleni ac roedd Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Newid yn yr Hinsawdd wedi dweud na ddylai'r cynnydd mwyaf yn yr amlen rent ar gyfer unrhyw awdurdod lleol fod yn fwy na 6.7%.

 

O ystyried yr uchod, roedd yr adroddiad yn argymell cynnydd rhent tai cyfartalog o 6.5% (£6.47) fesul preswylfa yr wythnos. Pe bai'r Pwyllgor yn cymeradwyo'r cynnydd hwnnw, byddai'n arwain at warged o £293m ar y Cyfrif Refeniw Tai. Fodd bynnag, cynlluniwyd ar gyfer hynny yn y cynllun tymor hir, gan adael balans o £12.6m ar ddiwedd 2024/25. Dywedwyd hefyd, fel y manylwyd yn Atodiad A, fod angen balansau i gefnogi'r strategaeth bresennol o ariannu gwariant cyfalaf a pharhau i wneud y cynllun busnes yn fforddiadwy dros gyfnod o 30 mlynedd.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·       Cyfeiriwyd at yr effaith bosibl y gallai'r cynnydd arfaethedig ei chael ar rai tenantiaid yn yr hinsawdd economaidd bresennol.

 

     Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod hwn wedi'i sefydlu fel rhan o baratoadau'r gyllideb. Ar hyn o bryd roedd 34% o denantiaid yn derbyn Credyd Cynhwysol, 24% yn derbyn budd-dâl tai llawn, 15% budd-dâl tai rhannol a 27% ddim yn derbyn unrhyw fudd-daliadau. Cydnabuwyd hefyd y byddai lefel y budd-daliadau yn cynyddu ym mis Ebrill 2024 ond nad oedd Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi lefel y cynnydd eto. Fodd bynnag, roedd hynny fel arfer yn cynyddu yn ôl cyfradd y CPI yn y mis Medi blaenorol a oedd wedi aros ar 6.7%.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod gan y Cyngor brosesau a gweithdrefnau ar waith i gynorthwyo tenantiaid oedd yn wynebu anawsterau ariannol, o ystod o wahanol grantiau i'w helpu i gael gafael ar y budd-daliadau yr oedd ganddynt hawl iddynt ond nad oeddent yn eu hawlio. Yn hynny o beth, roedd tîm cyn-llety'r adran dai wedi cynorthwyo dros 1,000 o denantiaid i gael mynediad i dros £800k o fudd-daliadau. Pwysleisiwyd fodd bynnag fod gan y Cyngor bolisi peidio â throi allan o ran tenantiaid nad oeddent yn gallu talu eu rhent. Byddai'r adran hefyd yn cyflogi rheolwyr ystâd a fyddai'n gallu rhoi cymorth a chefnogaeth i denantiaid. Yn bwysicaf oll, pe bai tenantiaid yn wynebu anawsterau ariannol, dylent gysylltu â'r adran yn gynnar i gael yr help a'r cyngor oedd ar gael iddynt.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CABINET/CYNGOR:

 

5.1

bod y rhent tai cyfartalog yn cael ei gynyddu 6.5% (£6.47) ar gyfer pob preswylfa yr wythnos yn unol â Pholisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru h.y.:

 

o   Bydd cynnydd o 6.39% yn digwydd i renti eiddo sydd ar y rhenti targed

o   Bydd eiddo lle mae'r rhent yn is na'r rhenti targed yn cynyddu gan 6.39% yn ogystal â'r cynnydd mwyaf posibl o £1.00

o   Bod y rhenti hynny sy'n uwch na'r targed yn cael eu rhewi hyd nes eu bod yn unol â'r targed.

 

Gan arwain felly at Gynllun Busnes cynaliadwy, cynnal STSG+, a darparu adnoddau ar gyfer y Cynllun Cyflawni Adfywio a Datblygu Tai, ac roedd yn cael ei gynnal gan y Tîm Strategol Adfywio a Thai;

 

5.2

Cynyddu rhenti garejis 6.5% o £9.00 i £9.60 a sylfeini garejis o £2.25 i £2.40;

5.3

Rhoi'r Polisi ynghylch Taliadau am Wasanaethau ar waith er mwyn sicrhau bod y tenantiaid sy'n cael gwasanaethau penodol yn talu am y gwasanaethau hynny;

5.4

Cynyddu'r taliadau am ddefnyddio gwaith trin carthffosiaeth y Cyngor, yn unol â'r cynnydd mewn rhenti;

5.5

Cymeradwyo Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai am 2024/27 (cyllidebau dangosol oedd rhai 2025/26 a 2026/27), fel y nodwyd yn Atodiad A;

5.6

Cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig a'r cyllido perthnasol ar gyfer 2024/25, a'r gwariant mynegiannol a bennwyd ar gyfer 2025/26 hyd 2026/27, fel y'u nodwyd yn Atodiad B i'r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: