Agenda item

CYNLLUN BUSNES 2024-27 Y CYFRIF REFENIW TAI RHAGLEN BUDDSODDIADAU TAI SIR GAERFYRDDIN

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad ar Gynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai 2024-27 Rhaglen Buddsoddiadau Tai Sir Gaerfyrddin, a oedd yn

 tynnu sylw at bwysigrwydd bod y Cyngor yn cefnogi ei denantiaid a'i breswylwyr ym mhopeth y mae'n ei wneud, gan nodi'r pum thema allweddol ganlynol fel rhai sy'n gyrru'r busnes am y tair blynedd nesaf:-

 

-        Thema 1 – Ein Cynnig Rheoli Ystadau a Thenantiaethau.

-        Thema 2 – Buddsoddi mewn Cartrefi.

-        Thema 3 - Hyrwyddo cynhesrwydd fforddiadwy a datgarboneiddio ein stoc dai.

-        Thema 4 - Darparu rhagor o dai.

-        Thema 5 - Yr Economi Leol, Budd i'r Gymuned a Chaffael

 

Cefnogwyd y pum thema hynny gan y camau canlynol:

·   Cyflwyno "cynnig" rheoli ystadau a thenantiaethau newydd a fydd yn sicrhau bod swyddogion tai yn fwy gweladwy a hygyrch ar ein hystadau. Bydd y "cynnig" hwn yn cydbwyso cefnogaeth i'n tenantiaid gyda gweithgareddau gorfodi lle mae'n briodol gwneud hynny. Bydd hyn hefyd yn cyd-fynd â gweithredu cynllun peilot "tasgmon" newydd ar ystadau blaenoriaeth yng Nghaerfyrddin, Rhydaman, Llanelli ac ardaloedd gwledig.

·   Parhau i gadw nifer yr eiddo gwag ar lefel isel a lleihau'r ôl-groniad presennol o waith atgyweirio o ddydd i ddydd. Rydym yn bwriadu cynyddu ein darpariaeth fewnol o ran gwaith atgyweirio o ddydd i ddydd ac ail-gydbwyso'r rhaniad presennol rhwng contractwyr mewnol ac allanol.

·   Parhau i fuddsoddi i sicrhau bod cartrefi yn rhatach i'w rhedeg ar gyfer ein tenantiaid, ac yn ogystal â gosod paneli solar wrth i ni osod toeau newydd, byddwn yn datblygu achos busnes ar gyfer cyflwyno rhaglen ehangach o baneli solar ar doeau ar ystadau.

·   Oherwydd y galw sylweddol am gartrefi sy'n cael eu hadeiladu o'r newydd, byddwn yn mynd ati i brynu rhagor o dir. Bydd hyn yn cynnwys safleoedd mwy o faint a ddefnyddir ar gyfer tai Cyngor yn unig. Bydd hyn yn cynyddu cyflymder a graddfa ein rhaglen ddatblygu;

·   Buddsoddi pellach mewn tai o fath arbenigol (e.e. anabledd dysgu, tai â chymorth i bobl h?n a phobl ifanc) i sicrhau bod anghenion yn cael eu diwallu yn y ffordd fwyaf priodol. Bydd hyn yn cynnwys llety llai, mwy gwasgaredig mewn gwahanol wardiau. Bydd y buddsoddiad hwn hefyd yn sicrhau symud i ffwrdd o leoliadau drud ac amhriodol y tu allan i'r sir ar gyfer rhai grwpiau o gleientiaid; a

·   Caffael fframwaith mân waith newydd ar gyfer gwaith atgyweirio o ddydd i ddydd a phrosiectau gwella ehangach i sicrhau ymateb cyflymach ac i gefnogi contractwyr lleol llai ledled y Sir.

 

Nododd y Pwyllgor fod incwm gafwyd drwy renti tenantiaid a ffynonellau cyllid eraill yn galluogi llunio rhaglen buddsoddiadau gwerth mwy na £277m (Cyfalaf - £113m a Refeniw - £164m) i gynnal gwasanaethau dros gyfnod y cynllun. I gynnal y lefel honno o fuddsoddiad, drwy gynllunio ariannol gofalus, lefel y cynnydd  rhent rhagamcanol ar gyfer 2024/25 oedd 6.5%, a oedd yn is na chyfradd chwyddiant mis Medi o 6.7% a'r cynnydd rhent uchaf a bennir gan y Gweinidog Tai ar gyfer 2024/25. Roedd y cynllun hefyd yn cynnwys £330k o arbedion effeithlonrwydd refeniw dros y tair blynedd nesaf ynghyd â chais i Lywodraeth Cymru am grant Lwfans Atgyweiriadau Mawr o £6.2m.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·       Mewn ymateb i gwestiynau a godwyd yn ymwneud â'r ôl-groniad atgyweiriadau a thai gwag, cafodd y Pwyllgor ei hysbysu o'r mesurau amrywiol a oedd yn cael eu cymryd gan yr adran i leihau'r materion hynny. Roedd y rheiny'n cynnwys cynyddu'r gweithlu o fewn y tîm mewnol ac ailosod y Fframwaith Gwaith Eiddo er mwyn galluogi contractwyr lleol llai i wneud cais i gael eu cynnwys yn y fframwaith a gwneud gwaith atgyweirio. Ar hyn o bryd o ranlefelau'r tai gwag, roeddent wedi gostwng i 187, sy'n cynrychioli 2% o'r stoc dai, gyda 100 o'r rheini wedi'u neilltuo i gontractwyr.

·       Croesawyd y cynnig i benodi rheolwyr ystadau a dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai pob rheolwr yn gyfrifol am oddeutu 500 o gartrefi.

·       Croesawyd y cynllun peilot 'tasgmon', a chafodd y Pwyllgor wybod am ei nodau a'i ddyheadau i gadw ystadau'n daclus ac mewn cyflwr da a fydd, gobeithio, yn helpu i annog tenantiaid i ymfalchïo yn eu hystâd ac, yn ei dro, arwain at wella cyflwr y stoc dai dros amser.

·       O ran y £616k o gyllid a dderbyniwyd gan gronfa Bargen Ddinesig Bae Abertawe – Cartrefi yn Orsafoedd P?er, cadarnhawyd bod £300k o hynny wedi'i ddyrannu i ategu rhaglen adeiladu newydd y Cyngor gan gynnwys gosod pympiau gwres o'r awyr, paneli ffotofoltäig solar a'r batris sydd eu hangen i storio'r p?er a gynhyrchir.

 

PENDERFYNWYD ARGYMELL I'R CABINET/CYNGOR:-

 

5.1

Cadarnhau gweledigaeth y Rhaglen Buddsoddiadau Tai dros y tair blynedd nesaf;

5.2

Cytuno y gellir cyflwyno Cynllun Busnes 2024/25 i Lywodraeth Cymru

5.3

Nodi'r cynnig newydd o ran rheoli ystadau a thenantiaethau a fydd yn sicrhau bod ein swyddogion tai yn fwy gweladwy a hygyrch, gan gydbwyso'rcymorth sydd ei angen ar denantiaid a'r angen i gymryd camau gorfodi pan fo angen;

5.4

Cytuno i weithredu cynllun peilot "tasgmon" newydd ar ystadau sydd â blaenoriaeth.

5.5

Nodi ein hymrwymiad i gadw nifer yr eiddo gwag mor isel â phosibl.

5.6

Cadarnhau ein hymrwymiad i leihau nifer yr atgyweiriadau o ddydd i ddydd sydd yn aros i'w gwneud trwy ailgydbwyso'r rhaniad rhwng contractwyr mewnol ac allanol, a datblygu fframwaith gwaith bach newydd.

5.7

Cadarnhau ein blaenoriaeth i brynu tir ychwanegol a datblygu safleoedd mawr ar gyfer tai Cyngor yn unig a nodi'r cyfraniad y mae'r cynllun hwn yn ei wneud i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy.

5.8

Nodi ein hymrwymiad i wneud ein holl dai yn fwy effeithlon o ran ynni i denantiaid, gan sicrhau sgôr perfformiad ynni Band C o leiaf, gosod paneli solar ar doeau fel rhan o'n rhaglen gosod toeau newydd, a datblygu achos busnes dros osod ar raddfa fwy helaeth baneli solar ar gartrefi tenantiaid a chefnogi egwyddorion carbon sero net y Cyngor.

5.9

Cadarnhau ein hymrwymiad i barhau i gynyddu'r cyflenwad o dai arbenigol yn y sir.

5.10

Nodi pwysigrwydd y buddsoddiad sydd wedi'i gynnwys yn y cynllun hwn a'i rôl o ran ysgogi'r economi leol a chreu swyddi a chyfleoedd hyfforddi lleol.

 

Dogfennau ategol: