Cofnodion:
[Sylwer: Roedd y Cynghorydd B. W. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r mater gael ei drafod ond ni phleidleisiodd].
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa bresennol mewn perthynas â recriwtio a chadw staff mewn ysgolion.
Yn hyn o beth, roedd yr adroddiad yn nodi ystadegau ar gyfer y sir, ynghyd â ffigurau cymharol ar lefel genedlaethol yn ymwneud â recriwtio a chadw athrawon, nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg, nifer y myfyrwyr sy'n gwneud cais am Dystysgrifau Ôl-raddedig yn Gymraeg a Saesneg a'u cwblhau a throsolwg o'r cyd-destun arweinyddiaeth presennol.
Wrth adolygu'r adroddiad, rhoddwyd crynodeb i'r Pwyllgor o'r amrywiaeth o fesurau sy'n cael eu harchwilio i fynd i'r afael â'r heriau sylweddol yng nghyd-destun rhaglenni datblygiad proffesiynol, ymgyrchoedd marchnata a'r broses recriwtio o fewn y Cyngor. Rhoddwyd ystyriaeth fanwl i'r argymhellion cyffredinol a nodwyd yn yr adroddiad.
Rhoddwyd sylw i nifer o arsylwadau ac ymholiadau, fel a ganlyn:
Mewn ymateb i ymholiad, nododd yr Arweinydd Strategol ar gyfer Effeithiolrwydd Ysgolion fod prinder cenedlaethol o bobl â diddordeb mewn addysgu fel gyrfa. Cyfeiriwyd at dystiolaeth anecdotaidd o addysgu yn dod yn broffesiwn llai dymunol am amrywiaeth o resymau yr oedd angen mynd i'r afael â hwy, gan gynnwys y gydnabyddiaeth ariannol am swyddi Cynorthwyydd Addysgu sy'n deilwng o ofynion y rôl. Roedd yr Arweinydd Strategol ar gyfer Effeithiolrwydd Ysgolion yn rhoi sicrwydd bod Gr?p Ymgynghorol wedi'i sefydlu o fewn yr Awdurdod i adolygu pob agwedd ar y strwythur addysgu a'i fod yn cynnwys cyfran fertigol o weithwyr sy'n ymwneud ag addysg disgyblion Sir Gaerfyrddin. Cydnabuwyd y gellid gwneud mwy o waith ar lefel genedlaethol i fanteisio ar y cyfoeth o brofiad sydd ar gael, a fydd, yn ei dro, yn cyfrannu'n gadarnhaol at y profiad dysgu.
Mewn ymateb i gais am ragor o wybodaeth am y cynnig dysgu proffesiynol, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Academi Arweinyddiaeth Sir Gaerfyrddin wedi'i chyd-adeiladu ag arweinwyr ysgolion ac y byddai'n cael ei chefnogi gan lwyfan canolog ar-lein i gynorthwyo ysgolion i flaenoriaethu gofynion hyfforddiant i feysydd o angen. Rhoddwyd sicrwydd bod cymorth ychwanegol ar gael gan y Tîm Gwella Ysgolion i'r ysgolion llai sydd â strwythur arweinyddiaeth estynedig cyfyngedig.
Rhoddwyd awgrym i ymgymryd ag adolygiad gorchwyl a gorffen ar ffederasiynau ysgolion i archwilio'r cysylltiad rhwng recriwtio a goblygiadau cyllideb yng nghyd-destun Rhaglen Moderneiddio Addysg. Dywedodd y Cadeirydd y gellid adolygu'r angen am gr?p gorchwyl a gorffen os yw'n briodol, ar ôl cyflwyno'r gweithdy ar ffederasiynau ysgolion i'r Pwyllgor yn ystod Gwanwyn 2024. Amlygodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg fod y Cabinet ar hyn o bryd yn adolygu ôl troed yr ysgol fel rhan o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg i fynd i'r afael â'r heriau sylweddol y mae ysgolion yn eu hwynebu ar hyn o bryd.
Yn dilyn ymholiad ar effaith costau cynnal a chadw adeiladau ysgolion ar gyllidebau ysgolion, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant y byddai gwybodaeth yn cael ei dosbarthu i'r Pwyllgor am gyfrifo'r fformiwla ariannu a'r dyraniad cyllideb ysgolion y pen. Cadarnhawyd mai Cyrff Llywodraethu oedd yn gyfrifol am sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio i ddiwallu anghenion eu hysgol berthnasol. Fodd bynnag, cydnabuwyd nad oedd y cyllid yn talu'r holl gostau a ysgwyddwyd gan rai ysgolion, yn enwedig o ran atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau gan fod y dyraniad cyllideb yn seiliedig yn bennaf ar nifer y disgyblion. Roedd mentrau fel y gwasanaeth tasgfan wedi'u cyflwyno i ysgolion cynradd mewn ymdrech i leddfu baich ysgolion yn hyn o beth.
PENDERFYNWYD:
5.1 |
nodi'r adroddiad;
|
5.2 |
rhannu gwybodaeth am gyfrifo'r fformiwla ariannu a'r dyraniad cyllideb ysgolion y pen â'r Pwyllgor;
|
5.3 |
bod y sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor mewn perthynas â recriwtio a chadw staff mewn ysgolion yn cael eu nodi gan yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg a'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant. |
Dogfennau ategol: