Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD HEFIN JONES I'R CYNGHORYDD ALUN LENNY, YR AELOD CABINET DROS ADNODDAU

“Wrth nodi'r meini prawf tebygol o ran cael mynediad i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn y dyfodol, cadarnhaodd gweinidogion Llywodraeth Cymru, a'r Prif Weinidog ei hun, yn ddiweddar y byddai'n debygol y byddai angen i 10% o dir mentrau ffermio  sy'n cael ei ffermio fod o dan orchudd coed, a 10% arall fod fel tir cynefin. Yn ogystal, mae posibilrwydd cryf y bydd angen i fusnesau ffermio weithredu ystod o ddulliau atafaelu carbon ar dir y maent yn ei reoli i liniaru eu hallyriadau eu hunain, a/neu geisio ymgymryd â gwaith rheoli cynefinoedd yn unol â chynlluniau cymorth i sicrhau cynaliadwyedd. 

 Hefyd mae gan awdurdodau lleol uchelgeisiau mewn perthynas â choedwigo, ynghyd â dyheadau a thargedau ar gyfer lleihau a lliniaru allyriadau.

 

A wnaiff yr aelod cabinet dros adnoddau roi sicrwydd NA FYDD Cyngor Sir Caerfyrddin yn ceisio defnyddio tir sy'n ffurfio rhan o ddaliadau ffermio'r Cyngor ar gyfer prosiectau coedwigo i gyflawni ei uchelgeisiau ei hun neu i gyflawni ei dargedau ei hun, a sicrhau bod mentrau ffermio a chynhyrchu cynradd sy'n cael eu rhedeg gan denantiaid ar ystadau gwledig y cyngor yn cael y cyfle gorau posibl i fod yn gynaliadwy ac yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr i'n cymunedau gwledig yn y sir hon?” 

Cofnodion:

[Sylwer: Gan iddi ddatgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ailddatganodd y Cynghorydd C. A. Davies ei buddiant a gadawodd y cyfarfod yn ystod y trafodaethau. ]

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd Jones:

 

"Wrth nodi'r meini prawf tebygol o ran cael mynediad i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn y dyfodol, cadarnhaodd gweinidogion Llywodraeth Cymru, a'r Prif Weinidog ei hun, yn ddiweddar y byddai'n debygol y byddai angen i 10% o dir mentrau ffermio sy'n cael ei ffermio fod o dan orchudd coed, a 10% arall fod fel tir cynefin. Yn ogystal, mae posibilrwydd cryf y bydd angen i fusnesau ffermio weithredu ystod o ddulliau atafaelu carbon ar dir y maent yn ei reoli i liniaru eu hallyriadau eu hunain, a/neu geisio ymgymryd â gwaith rheoli cynefinoedd yn unol â chynlluniau cymorth i sicrhau cynaliadwyedd.

 

Hefyd mae gan awdurdodau lleol uchelgeisiau mewn perthynas â choedwigo, ynghyd â dyheadau a thargedau ar gyfer lleihau a lliniaru allyriadau.

 

A wnaiff yr Aelod Cabinet dros Adnoddau roi sicrwydd NA FYDD Cyngor Sir Caerfyrddin yn ceisio defnyddio tir sy'n ffurfio rhan o ddaliadau ffermio'r Cyngor ar gyfer prosiectau coedwigo i gyflawni ei uchelgeisiau ei hun neu i gyflawni ei dargedau ei hun, a sicrhau bod mentrau ffermio a chynhyrchu cynradd sy'n cael eu rhedeg gan denantiaid ar ystadau gwledig y cyngor yn cael y cyfle gorau posibl i fod yn gynaliadwy ac yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr i'n cymunedau gwledig yn y sir hon?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Alun Lenny - yr  Aelod Cabinet dros Adnoddau:-

 

Diolch Gadeirydd a diolch am y cwestiwn, Hefin. Yn wahanol i'r mater blaenorol, mae hwn yn fater y mae gennym reolaeth lwyr drosto.  I roi cyd-destun ac i atgoffa aelodau, mae'r Cyngor yn berchen ar bron i 2,500 erw o dir ar 23 o ffermydd - a hynny ers dros ganrif.  Yn y gorffennol bu tueddiad i osod ffermydd i denantiaid newydd wrth iddynt ddod yn wag, heb fawr o ystyriaeth i ddefnydd y tir.

 

Nawr, cefais fy magu ar fferm fechan, gan weithio'r tir nes fy mod i'n 24 oed - yn ôl yn oes y bêls bach, ond mae amaethyddiaeth wedi newid yn sylweddol ers hynny ac yn dal i wneud hynny.  Felly, mae'r cyngor bellach yn trafod defnydd pob fferm yn unigol wrth i'r denantiaeth ddod i ben, gan ymgynghori ac ystyried sut y gallwn fod yn gynaliadwy i'r tenant newydd a sut y gallwn fod o fudd i'r gymuned wledig.  Mae un, er enghraifft, wedi dechrau prosiect peilot gyda phartneriaid eraill i dyfu llysiau a ffrwythau - fel rydym wedi'i glywed yn gynharach y bore yma.

 

Rydym hefyd am greu coetir ar wahanol dir sy'n eiddo i'r Cyngor i gyrraedd y targed o liniaru'r effaith y mae carbon yn ei chael ar yr amgylchedd.  Oherwydd yr hyn sydd yn y fantol, wrth gwrs, yw dyfodol dynoliaeth.  Mewn araith bwerus yn COP28 rhybuddiodd y Brenin Charles hyn: ‘’The world is dreadfully far off track on addressing climate change and unless we rapidly repair and restore nature's harmony and balance, our economy and survivability will be imperilled.’’ Ni feddyliais erioed y byddwn i'n dyfynnu'r Brenin yn y Siambr hon!

 

Mae plannu coed yn un rhan fach o adfer harmoni natur, ond nid trwy ddinistrio ffermydd cyfan gan gwmnïau mawr er elw masnachol mae gwneud hynny.  I ateb cwestiwn Hefin yn glir, mae’r cyngor hwn sy'n gweinyddu 23 o ffermydd ar ran pobl Sir Gaerfyrddin, am wneud ei orau glas i sicrhau bod tenantiaid a'u teuluoedd yn cael pob cyfle i wneud bywoliaeth deg ar ffermydd cynaliadwy. Os yw hynny'n golygu trosglwyddo hawliau lliniaru i'r tenant megis plannu coetir a chymryd camau lliniaru eraill yna mae hynny'n iawn.  Gobeithiaf fod hynny'n ateb y cwestiwn, Gadeirydd.

 

Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.