Agenda item

DOMICILIARY CARE PERFORMANCE UPDATE

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yr oedd wedi gofyn amdano yn ymwneud â'r pwysau presennol ar ofal cartref, a'r effaith yr oedd hyn yn ei chael ar ryddhau cleifion o ysbytai.  Bwriad yr adroddiad oedd rhoi sicrwydd bod cleifion yn cael cefnogaeth ddiogel i adael yr ysbyty ac roedd yn amlinellu'r pwysau a sut roedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymateb i'r pwysau hynny.

 

Yr adroddiad hwn oedd y trydydd diweddariad yr oedd y Pwyllgor wedi'i gael a oedd yn cynnwys y data diweddaraf a gasglwyd hyd at ddiwedd Medi 2023.

 

Amlygodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod gwelliannau wedi bod, yn enwedig ers mis Awst 2023, a bod hyn yn cyd-fynd ag ail-lansio'r Fframwaith Gofal Cartref ac ychwanegu 4 darparwr gofal newydd a oedd wedi cynyddu capasiti'r sector ymhellach.   O ganlyniad, roedd twf cyffredinol wedi bod yn nifer yr oriau a gomisiynwyd ar gyfer gofal cartref, a gostyngiad mewn oriau ac yn nifer y bobl oedd yn aros yn y gymuned ac mewn ysbytai.

 

Nodwyd, er bod cynnydd wedi'i wneud, fod cryn dipyn o angen heb ei ddiwallu o hyd yr oedd angen ei fonitro er mwyn sicrhau bod pobl yn parhau i fod yn ddiogel wrth aros am ofal.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod cyfarfod yn cael ei gynnal bob pythefnos i adolygu arosiadau hir mewn ysbytai er mwyn sicrhau bod yr holl opsiynau wedi'u hystyried, gan leihau nifer y bobl oedd yn gorfod aros am gyfnod hir yn yr ysbyty. Hefyd, roedd paneli uwchgyfeirio yn cael eu cynnal ddwywaith yr wythnos a chai'r holl achosion anodd eu cyfeirio iddynt. Roedd yr adolygiadau hyn o gleifion arhosiad hir wedi lleihau'n sylweddol y niferoedd â hyd arhosiad o fwy na 100 diwrnod, a fyddai yn ei dro yn cael effaith gadarnhaol ar gomisiynu gofal cymdeithasol.

 

Nodwyd bod yr Awdurdod hefyd yn cynnig Delta CONNECT a thaliadau uniongyrchol i'r sawl oedd angen y gofal, a hefyd i'r gofalwr a oedd yn darparu gofal i gefnogi unigolion tra oeddent yn gofalu am rywun oedd yn aros am ofal.

 

Dywedwyd bod y twf yn nifer yr oriau a gomisiynwyd ar gyfer gofal cartref oddeutu 7% ar gyfer 6 mis cyntaf 2023-2024. Tua £1m oedd y gorwariant a ragwelwyd ar gyfer y flwyddyn bresennol - gan dybio byddai twf pellach yn Hydref - Mawrth.  Cafodd hyn ei wrthbwyso'n rhannol gan y gostyngiad yn yr oriau roedd ein gwasanaeth mewnol yn eu darparu.  Rhagamcanwyd tanwariant yn y gwasanaeth mewnol o £727k (adeg monitro'r gyllideb yn Awst 2023) o achos problemau recriwtio staff.

 

Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n ag ail-lansio'r fframwaith Gofal Cartref a'r sefyllfa cwympo'n ôl ar gyfer y gwasanaethau a ddarperir gan y comisiynu, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod cael 4 asiantaeth Gofal Cartref yn fanteisiol, oherwydd pe bai un yn mynd yn fethdalwr byddai tair asiantaeth arall ar gael.  Rhoddwyd sylw i bwysigrwydd cael gwasanaeth mewnol i ddarparu parhad gofal ac ystyriwyd bod hynny'n elfen hanfodol o ddarpariaeth gofal.

 

Mewn ymateb i'r cyfeiriad at ystadegau'r Bwrdd Iechyd ynghylch rhyddhau cleifion o'r ysbyty a'r rhai oedd yn aros am ofal, dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig fod gwaith yn cael ei wneud wrth 'ddrws ffrynt yr ysbyty' i adnabod y bobl fregus ac i'w cynorthwyo i dychwelyd i'r gymuned.  Roedd data'n dangos gwelliant o ran y nifer oedd yn cael eu rhyddhau o fewn 72 awr.

 

Ar ran y Pwyllgor estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i dîm Gartref yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin, a oedd wedi ennill rownd derfynol Cymru yng Ngwobrau Gofal Prydain eleni. 

 

Mynegodd y Pwyllgor ddiolch hefyd i swyddogion am ansawdd yr adroddiad a oedd wedi cael ei lunio.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: