Cofnodion:
[SYLWER: Gan ei fod wedi datgan budd personol a rhagfarnol yn y mater hwn yn gynharach, nid oedd y Cynghorydd A. Evans yn bresennol yn y cyfarfod]
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi data am absenoldeb salwch ar gyfer y cyfnod cronnol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2023 ynghyd â Chwarter 2 2023/24 gyda throsolwg o'r cymorth llesiant gweithwyr a ddarparwyd.
Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:
· Dywedodd y Rheolwr Adnoddau Dynol (Partneriaeth Busnes) wrth y Pwyllgor fod gweithio hybrid, yn ddull o weithio gartref ac mewn gwahanol leoliadau ar draws y Sir, yn amodol ar ystyriaethau o ran cyflawni gwasanaethau. Er nad yw trefniadau gweithio hybrid o fudd i staff gweithredol, gallent ofyn am i opsiynau gwaith gwahanol gael eu hystyried.
· Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod staff wedi cymryd 11.55 o ddiwrnodau salwch ar gyfartaledd yn 2022-23, sef bron i ddau ddiwrnod yn fwy na tharged y Cyngor o 10.65, a'r rhesymau mwyaf dros absenoldeb oedd materion yn ymwneud â straen ac iechyd meddwl, gyda rhai ffactorau y tu allan i'r gwaith hefyd yn cyfrannu at hyn.
· Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau, oherwydd amseroedd aros hir yn y GIG, fod meddygon teulu yn cynghori cleientiaid i ofyn am help trwy wasanaethau Iechyd Galwedigaethol eu cyflogwyr.
· O ran Iechyd Galwedigaethol a'r gofynion ar y gwasanaeth, nodwyd y bydd achos busnes yn cael ei drafod gyda'r Prif Weithredwr i ddarparu Rheolwr Masnachol, ac fel un o'r prosiectau allweddol, bydd yn gweithio gyda'r tîm Iechyd Galwedigaethol i edrych ar ffyrdd o fasnacheiddio'r busnes. Bydd canlyniad yr achos busnes yn cael ei adrodd yn ôl i'r Pwyllgor.
· Eglurodd y Rheolwr Llesiant Gweithwyr fod tri Chydlynydd Iechyd a Llesiant yn cael eu cyflogi ar draws yr Awdurdod ac yn gweithio gydag adrannau i ddarparu ymyriadau pwrpasol, fel rhan o gynlluniau gweithredu'r adran i reoli presenoldeb. Hefyd mae grwpiau iechyd a llesiant allweddol ar gael sy'n cael eu cefnogi gan y cydlynwyr.
· Nodwyd bod gostyngiad wedi bod o ran nifer y problemau cyhyrysgerbydol y rhoddir gwybod amdanynt. Hyfforddiant ar godi a chario ar gyfer gweithwyr allweddol ac asesiadau o gyfarpar oedd rhai o'r meysydd a oedd yn cynorthwyo i gadw staff yn ddiogel mewn amgylchedd gwaith. Roedd gwasanaeth ffisiotherapi ar gael i'r staff drwy'r Uned Iechyd Galwedigaethol.
· Roedd cynnydd o 50% o ran nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer cymorth iechyd meddwl y rhoddwyd gwybod amdanynt yn ystod y cyfnod diwethaf. Nodwyd bod 8 ymarferydd Iechyd Meddwl o fewn yr Uned Iechyd Galwedigaethol.
· Nododd y Pwyllgor fod gwelliant o ran absenoldeb salwch mewn ysgolion cynradd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod absenoldeb salwch yn cael ei reoli gan y Pennaeth. Mae'r Cynllun Absenoldeb Staff Ysgolion a sefydlwyd yn fewnol yn darparu cymorth ariannol i ysgolion sy'n aelodau er mwyn talu costau staff asiantaeth sydd eu hangen i gyflenwi yn ystod absenoldebau salwch. Os nad yw ysgolion yn dilyn y gweithdrefnau absenoldeb cywir, mae'r cyfraniad yn cael ei wrthod.
· Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol wrth y gr?p fod y nifer a oedd wedi cymryd rhan yn yr arolwg staff diweddar yn isel. Bellach roedd y data'n cael ei ystyried i roi arweiniad i staff ar weithio hybrid yn y dyfodol.
· Cafodd aelodau wybod bod yr Awdurdod wedi cyflawni Achrediad Aur yn ddiweddar yn dilyn adroddiad gan asesydd gan Fuddsoddwyr Mewn Pobl oedd yn adlewyrchiad o'r gefnogaeth a roddodd i'w weithwyr;
Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am y cymorth a roddir i'r staff.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
4.1 bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.
4.2 bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r achos busnes dros greu swydd
Rheolwr Masnachol i helpu i ddatblygu mentrau creu incwm yn y
Dyfodol.
4.3 bod y Pwyllgor yn cael adroddiad diwedd blwyddyn.
Dogfennau ategol: