Cofnodion:
Cafodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus Canol Tref Llanelli. Roedd yr adroddiad, a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio, yn gofyn i'r pwyllgor adolygu ac asesu'r wybodaeth yn yr adroddiad yn ymwneud â gwneud Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus newydd ar gyfer Canol Tref Llanelli.
Nododd yr Aelodau fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwneud Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn 2020 o dan Adran 59 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 i fynd i'r afael â'r anhrefn a'r niwsans sy'n gysylltiedig ag alcohol mewn rhannau o ganol tref Llanelli. Daeth y Gorchymyn i rym ar 1 Hydref 2020 a daeth i ben ar 30 Medi 2023.
Roedd yr adroddiad yn nodi bod Cyngor Sir Caerfyrddin o'r farn bod y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus wedi bod yn effeithiol o ran lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig ag alcohol. Fodd bynnag, roedd y defnydd gwrthgymdeithasol o alcohol, cyffuriau a reolir a sylweddau seicoweithredol yng nghanol tref Llanelli wedi cael, ac yn debygol o barhau i gael, effaith andwyol ar ansawdd bywyd pobl yn yr ardal leol. Roedd pryderon parhaus gan y gymuned a'r heddlu ynghylch y mater hwn, ac yn ogystal, mae pryderon yn ymwneud â chyffuriau wedi'u mynegi.
Mae'r pryderon hyn yn cael eu cefnogi gan ddata ynghylch troseddau ac anhrefn ac yn dangos yr angen i gyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus newydd i roi pwerau ychwanegol i swyddogion dynodedig ddelio â'r materion hyn.
Ar ôl ystyried yr adroddiad roedd y Pwyllgor yn hapus gyda'i gynnwys ac felly nid oedd ganddo unrhyw sylwadau nac ymholiadau i'w gwneud. Roedd aelodau'r pwyllgor o blaid cyflwyno'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn Llanelli am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CABINET y dylid cymeradwyo cyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus – Canol Tref Llanelli.
Dogfennau ategol: