Agenda item

STRATEGAETH TOILEDAU LLEOL DDRAFFT

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y fersiwn ddrafft o'r Strategaeth Toiledau Lleol a gyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith. Dywedwyd bod Rhan 8 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017: Darparu Toiledau wedi dod i rym ar 31 Mai 2018 a'i bod yn gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i baratoi a chyhoeddi Strategaeth Toiledau Lleol ar gyfer ei ardal.   

 

Hefyd, dywedwyd wrth y Pwyllgor, er nad oedd gofyniad statudol ar Awdurdodau Lleol i ddarparu toiledau cyhoeddus, nad oedd y ddyletswydd i baratoi Strategaeth ynddi'i hun yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol ddarparu a chynnal a chadw toiledau cyhoeddus eu hunain.  Fodd bynnag, roedd yn ofynnol i Awdurdodau Lleol ystyried yn strategol sut y gellir darparu’r cyfleusterau hyn a sut y gall y boblogaeth leol gael mynediad iddynt. Wrth wneud hynny, rhagwelir y byddai awdurdodau lleol yn ystyried ystod lawn o opsiynau ar gyfer sicrhau bod cyfleusterau ar gael i'r cyhoedd.

 

 

Codwyd y sylwadau/ymholiadau canlynol ynghylch yr adroddiad:-

 

·       Wrth gydnabod yr adroddiad drafft, awgrymwyd cyn cwblhau'r adroddiad terfynol bod swyddogion yn edrych ar y posibilrwydd o gael cyllid drwy Gronfa Y Pethau Pwysig.  Dywedwyd bod Awdurdodau eraill wedi defnyddio'r gronfa hon ar gyfer cyfleusterau cyhoeddus.  Dywedodd y Rheolwr Gwella Busnes y byddai'r holl ffrydiau cyllido posibl yn cael eu hystyried ac y byddai awgrymiadau ynghylch cyfleoedd cyllido yn cael eu croesawu.

 

·       Dywedwyd er nad oedd dyletswydd statudol ar y cyngor i ddarparu cyfleusterau cyhoeddus, bod yn rhaid cydnabod ei fod yn angen dynol sylfaenol ac, yn benodol, efallai na fydd yr henoed, er enghraifft, yn ymweld ag ardal lle nad oes cyfleusterau cyhoeddus ar gael a fyddai, yn ei dro, yn effeithio ar yr economi.  Yn ogystal, cydnabuwyd bod gan rai Cynghorau Tref a Chymuned gyfleusterau cyhoeddus o fewn eu hawdurdodaeth ond dywedwyd bod y costau refeniw yn dreth ar eu cyllidebau, yn enwedig os oedd fandaliaeth dro ar ôl tro yn broblem.  Gofynnwyd sut arall fyddai cyfleusterau toiledau yn cael eu darparu. Gan ystyried yr holl bethau a godwyd, cytunodd y Rheolwr Gwella Busnes fod angen ystyried ac archwilio'r mater ymhellach i gefnogi'r ddarpariaeth o gyfleusterau toiledau ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

 

·       Dywedwyd ei bod yn bwysig cynnwys ystyriaethau ynghylch sicrhau bod cyfleusterau toiledau digonol ar gael mewn ardaloedd siopa y tu allan i'r dref.  Gellid gwneud hyn drwy gefnogi busnesau lleol i ddarparu cyfleusterau toiledau cyhoeddus.  Byddai hyn yn fuddiol i'r busnes a'r cwsmer. Cytunodd y Rheolwr Gwella Busnes â'r sylwadau a'r awgrymiadau a dywedodd y byddai'n fuddiol cefnogi busnesau lleol i gefnogi anghenion y gymuned.

 

·       Esboniodd Aelod o'r Pwyllgor ei fod wedi bod yn trafod â chynrychiolydd o Gr?p Cymorth Canser y Prostad Gorllewin Cymru ynghylch yr ymgyrch Bechgyn angen Biniau.  Nod yr ymgyrch oedd codi ymwybyddiaeth o anymataliaeth dynion a'r angen am finiau mewn toiledau dynion.  Mewn ymateb i gynnig a wnaed gan y gr?p cymorth a fyddai'n darparu'r biniau am gost isel, gofynnwyd a allai'r Cyngor gefnogi'r fenter hon trwy osod y biniau ar gyfer cynhyrchion ymataliaeth dynion mewn toiledau dynion mewn cyfleusterau a gynhelir gan y Cyngor, gan gynnwys canolfannau hamdden, llyfrgelloedd, amgueddfeydd a theatrau.  Dywedodd y Rheolwr Gwella Busnes, wrth gydnabod pwysigrwydd yr ymgyrch, y byddai'n hapus i drafod y mater ymhellach gan ofyn am y manylion angenrheidiol.

 

·       Mewn ymateb i bryder ynghylch y cynnydd posibl mewn taliadau i ddefnyddio toiledau, dywedodd y Rheolwr Gwella Busnes, er nad oedd hi'n gallu addo na fyddai'r ffioedd yn cynyddu yn y dyfodol, mai dyma fyddai'r dewis olaf, ar ôl rhoi cynnig ar yr holl ddewisiadau eraill.


 

·       Rhoddwyd awgrym pellach i swyddogion ynghylch lleihau costau cynnal a chadw a glanhau toiledau yn Sir Gaerfyrddin, sef y dylid cysylltu â cholegau sy'n darparu cymwysterau City and Guilds gan annog pobl ifanc i gymryd rhan a datblygu cynlluniau busnes i'w galluogi i reoli'r cyfleusterau.  Diolchodd y Rheolwr Gwella Busnes am yr awgrym a dywedodd y byddai'n ystyried y mater yn y dyfodol.

 

·       Awgrymwyd y byddai'r cam cynllunio gorsafoedd gwefru ceir trydan yn gyfle i ystyried darparu toiledau.  Wrth gydnabod y cynnydd sylweddol yn y cyfleusterau gwefru ceir sy'n cael eu gosod mewn trefi a phentrefi gwledig lle bydd yn rhaid i ddefnyddwyr y cerbyd aros am gyfnod o amser o bosib cyn gwefru'r cerbyd yn ddigonol, y farn oedd y dylai'r adran gynllunio ystyried y cyfle i osod toiled yn agos at ardaloedd lle mae mwy na 5 pwynt gwefru wedi'u gosod.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch yr adroddiad terfynol, dywedodd y Rheolwr Gwella Busnes y byddai adroddiad terfynol yn barod i'w ystyried ym mis Ebrill 2024. Byddai hyn yn rhoi digon o amser i ymgysylltu â busnesau a chwilio am ffrydiau cyllido pellach gan ystyried yr awgrymiadau a roddwyd gan Aelodau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CABINET bod y fersiwn ddrafft o'r Strategaeth Toiledau Lleol yn cael ei chymeradwyo yn amodol ar ystyried sylwadau ac awgrymiadau'r Pwyllgor, yn benodol:-

·      Treialu'r ymgyrch Bechgyn angen Biniau

·      Bod yr adran Gynllunio yn ystyried gosod darpariaethau toiledau ochr yn ochr ag ardaloedd gwefru ceir sy'n cynnwys 5 pwynt gwefru neu fwy.

 

 

Dogfennau ategol: