Agenda item

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2023/24

Cofnodion:

(NODER: Gan fod y Cynghorydd R. Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon eisoes, ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn y cyfarfod.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2023/24 y Gwasanaethau Tai, Adfywio ac Eiddo, Lle a Chynaliadwyedd a Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Awst 2023.  Nodwyd y rhagwelid gorwariant o £36k yn y gyllideb refeniw, tanwario o £28,568k yn y gyllideb gyfalaf, a gorwariant o £81k yn y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·     Mewn ymateb i ymholiad ynghylch diffyg o £26k yn yr incwm ar gyfer Harbwr Porth Tywyn yn cael ei briodoli i ddiffyg mewn incwm meysydd parcio, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod y rhesymau dros y diffyg yn rhai amrywiol eu natur. Roedd y rheini'n cynnwys y sefyllfa bresennol gyda thenantiaid yr Harbwr wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr (a oedd wedi effeithio ar nifer y perchnogion cychod oedd yn defnyddio'r harbwr), cost uwchraddio'r maes parcio ynghyd ag absenoldeb gorfodaeth yn y maes parcio. Fodd bynnag, roedd trafodaethau'n mynd rhagddynt gyda'r Is-adran Priffyrdd ynghylch yr adnoddau gorfodi o fewn yr holl feysydd parcio arfordirol i wella incwm parcio. 

·       O ran y sefyllfa bresennol gyda Harbwr Porth Tywyn, ar ôl i'r tenantiaid fynd i ddwylo'r gweinyddwyr, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod trafodaethau rheolaidd yn cael eu cynnal gyda'r gweinyddwyr a rhagwelwyd y byddai adroddiad opsiynau yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn y flwyddyn newydd ar sefyllfa'r Harbwr yn y dyfodol. Nodwyd hefyd fod cyfarfodydd rhanddeiliaid misol yn cael eu cynnal gydag aelodau lleol a rhanddeiliaid eraill â diddordeb i roi gwybod iddynt am y sefyllfa bresennol.

·       Mewn perthynas â'r diffyg o £78k a ragwelwyd yng ngweithrediad Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn, adroddodd y Pennaeth Hamdden, er bod arbedion effeithlonrwydd a'r gwaith o ailfodelu'r Cynnig Addysg Awyr Agored wedi'u cytuno'n flaenorol, daeth yn angenrheidiol i fwrw'r rhain ymlaen blwyddyn pan ddaeth yn amlwg na fyddai'r amserlen ar gyfer cyflawni gwasanaeth wedi'i ailfodelu'n llwyr yn cael ei bodloni. Fodd bynnag, roedd y targed incwm yn dal yn y gyllideb ac roedd hynny wedi cyfrannu tuag at y gorwariant.

 

O ran y defnydd o'r ganolfan ei hun, er bod ysgolion yn dal i'w harchebu, roedd y cyfleusterau yn dod i ddiwedd eu hoes ac ymhen hir, ni fyddent yn ddiogel i’w defnyddio’n barhaus.

·       O ran y gorwariant o £211k ar Brosiect Denu Twristiaid Pentywyn, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod hynny yn ymwneud â phenderfyniad y Cyngor i beidio â rhyddfreinio ei waith ond i'w reoli’n fewnol a’r costau cychwyn sy’n gysylltiedig â’r penderfyniad hwnnw. Fodd bynnag, rhagwelwyd y byddai'r ganolfan yn adennill costau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol ac, wedi hynny, yn gwneud elw.

·       O ran y gyllideb o £219k ar gyfer Cyd-fenter Llanelli, cadarnhaodd y Pennaeth Adfywio, Polisi a Digidol ei fod yn gytundeb rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru i ddod â safleoedd ymlaen o fewn ardal a ddiffinnir o fewn Cyd-fenter Llanelli ar gyfer datblygu economaidd ac adfywio gyda’r incwm o’u gwerthu yn cael ei ddefnyddio i gefnogi'r gwaith adfywio e.e. roedd cyllid presennol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi prosiect Pentre Awel.   Cadarnhawyd hefyd y gallai'r Pwyllgor gael gwybodaeth yngl?n â'r safleoedd a glustnodwyd i'w datblygu dros y tair blynedd nesaf.

·       Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â dyfodol Amgueddfa Tunplat Cydweli, cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod swyddogion ar hyn o bryd yn edrych ar ddatblygu cynllun 10-15 mlynedd ar gyfer y safle. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf yn cael ei dderbyn.

Dogfennau ategol: