Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD MEINIR JAMES I'R CYNGHORYDD ALED VAUGHAN OWEN, AELOD CABINET DROS NEWID HINSAWDD, DATGARBONEIDDIO A CHYNALIADWYEDD

Mewn ymateb i'r Datganiad o'r Argyfwng Hinsawdd yn 2019, ydy'r Cyngor yn bwriadu datgarboneiddio ein fflyd cerbydau ysgafn?

 

Oni fyddai gosod amserlen a targedau ystyrlon yn neges glir i drigolion Sir Gar ein bod yn cymerid ein cyfrifoldebau o ddifrif, ac yn gyfle i ni arddangos yr arbedion costau a manteision fflyd trydan i fusnesau a sefydliadau o fewn ein Sir?”

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan y Cynghorydd James:

 

“Mewn ymateb i'r Datganiad o'r Argyfwng Hinsawdd yn 2019, ydy'r Cyngor yn bwriadu datgarboneiddio ein fflyd cerbydau ysgafn?

 

Oni fyddai gosod amserlen a thargedau ystyrlon yn neges glir i drigolion Sir Gâr ein bod yn cymryd ein cyfrifoldebau o ddifrif, ac yn gyfle i ni arddangos yr arbedion costau a manteision fflyd drydan i fusnesau a sefydliadau o fewn ein Sir?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Vaughan Owen:

 

Diolch yn fawr iawn i chi, Gynghorydd James, ac mae eich cwestiwn yn codi mater hollbwysig sy'n effeithio nid yn unig ar yr amgylchedd ond hefyd ar ein hiechyd a'n lles. Mae'n ymwneud â'r angen dybryd i ddatgarboneiddio ein fflyd gyhoeddus o gerbydau. Nid mater o bryder amgylcheddol yn unig yw hwn. Mae'n hanfodol ar gyfer ein dyfodol.

 

Mae gwyddonwyr a sefydliadau ledled y byd wedi bod yn canu'r larwm, gan gynnwys y gwasanaeth tân yn ei gyflwyniad heddiw, ac mae'r neges yn glir, nid yw oes olew bellach yn gynaliadwy er mwyn ein hinsawdd ac iechyd cyhoeddus. Mae sefydliadau fel y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd, yr IPCC, a Sefydliad Iechyd y Byd wedi darparu tystiolaeth ddiymwad bod ein dibyniaeth barhaus ar danwydd ffosil yn achosi niwed difrifol i'n planed ac i'n hiechyd. Ni allwn wadu ein dibyniaeth ar olew.

 

I ni, fel awdurdod, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i chwarae ein rhan a gosod uchelgais i fod yn sero net erbyn diwedd y degawd. Mae'r ôl troed carbon mwyaf yn deillio o'n hadeiladau annomestig ac mae rhai camau gwirioneddol arloesol yn cael eu cymryd i leihau'r galw am ynni ar ffurf trydan a gwres, fel sydd wedi'i nodi yn yr Adroddiad Blynyddol, ac mae 20% o'r allyriadau'n dod o'n fflyd ac mae'n rhaid i ni wneud pethau'n wahanol yn y maes hwn yn gyflym.

 

Felly, gallaf gyhoeddi, drwy weithio gyda'r Cynghorydd Edward Thomas, ein bod wedi gorchymyn, o'r wythnos hon ymlaen, bod yn rhaid i bob fflyd newydd ar draws yr awdurdod gael rhagdybiaeth o blaid cerbydau trydan. Yn amlwg, bydd asesiad yn cefnogi pob penderfyniad yn seiliedig ar y gofynion technegol, y costau a'r arbedion economaidd, y buddion o ran yr amgylchedd ac iechyd ac ymarferoldeb.

 

Mae'r penderfyniad hwn bellach yn llunio'r ffordd ymlaen ar gyfer strategaeth fflyd newydd sy'n addas i'r diben ac sy'n mynd i'r afael â'r heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau.

 

Yng nghyfarfod diwethaf y Panel Ymgynghorol ar Newid yn yr Hinsawdd a'r Argyfwng Natur, cytunodd yr aelodau i gynnal archwiliad dwfn ar fflyd a thrafnidiaeth ar draws yr awdurdod. Rydym yn ffodus bod gennym aelodau gwybodus ac angerddol o bob rhan o'r siambr a fydd yn gallu casglu tystiolaeth gan arbenigwyr ac eraill sydd wedi dechrau'r daith a gyda'n gilydd byddwn yn llunio strategaeth fflyd newydd fentrus, gyffrous a fydd yn cael ei harchwilio a'i gwella, gobeithio, gan y Pwyllgor Craffu Lle a Chynaliadwyedd. Bydd dealltwriaeth y panel a'r pwyllgor craffu yn rhoi argymhellion i'r Cabinet ynghylch mesurau ymarferol i gyflymu'r broses drawsnewid, gan osod targedau uchelgeisiol a'n gyrru'n agosach at y nod sero net.

 

Mae angen i ni gamu i ffwrdd o wneud llai o ddrwg mewn ffyrdd gwell.

 

Mae angen i ni gamu i ffwrdd o gyfleoedd cynyddol yn y mannau anghywir a chanfod ffiniau'r hyn sy'n bosibl.

 

Ond nid ydym yn dechrau o'r dechrau; ar hyn o bryd mae tua 17% o'n ceir yn Gerbydau Allyriadau Isel Iawn ond, yn rhanbarthol, rydym wedi bod ar y blaen o ran y fflyd fwy, gan gynnwys tair lori sbwriel a'r 8 bws trydan Traws Cymru sy'n mynd o Gaerfyrddin i Aberystwyth.

 

Mae'r rhain wedi rhoi cymaint o ddealltwriaeth a gwybodaeth i ni am dechnoleg a gallu cerbydau trydan - dychmygwch fws sy'n gallu teithio 230 milltir ar un gwefriad ac yna ailwefru mewn 90 munud.

 

Rydym hefyd wedi meithrin sgiliau dylunio ac adeiladu yn y sir wrth ddatblygu'r orsaf gwefru yn Nant-y-ci.

 

Mae gan bob awdurdod lleol heriau daearyddol unigryw, ac mae gan bob un ei rwystrau a'i gyfleoedd ei hun, ond drwy gydweithio gallwn ddefnyddio'r cerbyd cywir yn y lle cywir a dysgu, methu a rhannu fel y gall y wlad hon ddatgarboneiddio'r fflyd gyhoeddus yn sylweddol. Rydym eisoes yn rhan o gytundeb prynu Cymru gyfan sy'n gallu edrych ar opsiynau cyllido, ac mae arbedion maint yn golygu lleihau costau yn sylweddol a lleihau'r amser rhagarweiniol ar gyfer cerbydau hefyd. Rydym wrthi'n archebu 20 o gerbydau masnachol ysgafn trydan.

 

Bydd ein cynllun gweithredu gyda Phartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn golygu ein bod yn gweithio'n fwy cydweithredol ar draws y sir o ran y seilwaith gwefru. Mae pob sefydliad ar ei daith datgarboneiddio ei hun ond bydd galluogi pob partner i gael mynediad at rwydwaith gwefru ei gilydd yn cyflymu'r achos busnes dros ddatgarboneiddio'r fflyd.

 

Ond hefyd, mae hyn yn ymwneud â sut rydym yn galluogi cymdeithas i ddatgarboneiddio'r ffordd y mae'n teithio. Dylai cael fflyd o Gerbydau Allyriadau Isel Iawn fod yn rhywbeth y byddem am ei rannu ag eraill. Rydym eisoes wedi buddsoddi'n helaeth mewn rhwydwaith gwefru ledled y sir, ac rydym yn edrych ar ffyrdd arloesol o ddatblygu cyfleusterau gwefru ar y stryd. Rhaid i'r newid i drafnidiaeth carbon isel fod yn deg ac yn gyfiawn a phwy a ?yr, efallai y byddwn yn dechrau meddwl hyd yn oed yn fwy agored ac ymrwymo i sicrhau bod rhai o'n ceir adrannol ar gael fel cerbydau clwb ceir cymunedol a gwneud mwy o ddefnydd o dariffau gwefru dros nos. Mae hyrwyddo agweddau cadarnhaol datgarboneiddio'r fflyd, lleihau allyriadau carbon, gwella ansawdd aer, chwalu rhywfaint o wybodaeth gamarweiniol sy'n cael ei hyrwyddo gan y rhai sy'n dal i fuddsoddi'n helaeth mewn olew a nwy, i gyd yn bethau y mae'n rhaid i ni eu gwneud ochr yn ochr â newid ein fflyd.

 

 

Dyma'r amser i groesawu'r chwyldro gwyrdd, rydym yn cyflymu ar hyd y daith hon, ac mae'n rhaid i ni beidio ag edrych yn y drych ôl a dweud, dyma sut rydym wastad wedi gwneud pethau. Mewn gwirionedd dylem fod yn edrych yn ôl a dweud, a allwch chi gredu sut roeddem yn arfer gwneud pethau?

 

Mae'r heol o'n blaenau ni yn anwastad ac yn ansicr ond mae datgarboneiddio'r fflyd fel paratoi'r ffordd at ddyfodol cynaliadwy lle mae pob cerbyd yn cynrychioli cam tuag at lwybr glanach a gwyrddach.

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd James: Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.