Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD TERRY DAVIES I'R CYNGHORYDD DARREN PRICE, ARWEINYDD Y CYNGOR.

A wnaiff yr Arweinydd roi diweddariad ar westy Parc y Strade yn Ffwrnes, Llanelli, ac amlinellu unrhyw drafodaethau y mae wedi’u cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru am y mater?”

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan y Cynghorydd Davies:

 

“A wnaiff yr Arweinydd roi diweddariad ar westy Parc y Strade yn Ffwrnes, Llanelli, ac amlinellu unrhyw drafodaethau y mae wedi’u cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru am y mater?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Price:

 

Diolch i chi Terry am y cwestiwn

 

Ers y cyhoeddiad ddechrau mis Hydref bod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi tynnu eu bwriad i ddefnyddio gwesty Parc y Strade yn ôl, mae'r perchnogion, wrth gwrs, wedi dweud eu bod am ailagor y gwesty.

 

Rwy'n si?r y byddai pob aelod am weld y safle'n cael ei ddefnyddio unwaith eto, ac rwy'n sicr o'r farn bod angen i hyn ddigwydd cyn bo hir.

 

Nid yw'r penderfyniad ynghylch a fydd y safle'n cael ei weithredu gan y perchennog presennol, neu berchennog arall, yn un y gallwn ni, fel cyngor, ei wneud - wedi'r cyfan mae'n fenter breifat, ond yn amlwg po hiraf y bydd y safle yn wag, y mwyaf fydd adeiladwaith yr adeiladau yn dirywio, a'r mwyaf fydd y gost i sicrhau ei fod yn cyrraedd y safon dderbyniol eto.

 

Ar ôl siarad â nifer o bobl yn Llanelli ac aelodau yn ystod yr wythnosau diwethaf mae'n amlwg bod pobl leol am weld y safle naill ai'n cael ei ddefnyddio fel gwesty unwaith eto, neu'n cael ei ddatblygu i fod yn ased arall a all fod o fudd i'r dref, ac i hynny ddigwydd cyn gynted â phosibl. Nid oes neb am weld y safle'n parhau i fod yn adfeiliedig am gyfnod hir.

 

Gan nad oes bygythiad y caiff ei ddefnyddio gan y Swyddfa Gartref bellach, mae angen eglurder arnom nawr gan y perchnogion o ran sut y maent yn bwriadu defnyddio'r safle unwaith eto, ac amserlen fanwl ar gyfer unrhyw waith. Mae'n bwysig i'r gymuned leol ddeall yn llawn gwmpas y gwaith sydd ei angen er mwyn i'r safle gael ei ddefnyddio unwaith eto.

 

Bydd yr aelodau'n cofio i mi ysgrifennu at y Llywodraeth Geidwadol yn eu hannog i dynnu'n ôl o'r safle, ac o ganlyniad i'r llythyr hwnnw, cefais ohebiaeth bellach gan Lywodraeth y DU dim ond yr wythnos diwethaf. Yn y llythyr hwnnw, dyddiedig 1 Tachwedd, mae Llywodraeth y DU yn datgan eu bod bellach wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid ar ymarfer gwersi a ddysgwyd a hwylusir gan Bartneriaeth Ymfudo Strategol Cymru. Yn amlwg, mae hyn yn bwysig, gan eu bod wedi methu, yn fy marn i, â dysgu'r gwersi o brofiad gwersyll Penalun.

 

Yn y cyngor hwn, wrth gwrs, rydym wedi dechrau meddwl cryn amser yn ôl am sut y gellir gwneud gwelliannau ac, yn wir, ers i stori Parc y Strade ddod i'r amlwg ym mis Mai, rwyf wedi bod yn dadlau bod ffordd arall o reoli'r broses loches yma yng Nghymru.

 

Fel y mae aelodau'n ymwybodol, rwyf wedi datgan yn gyson y dylai llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru fod â rôl ganolog wrth ddatblygu dull Cymru gyfan o ymdrin â llety lloches brys, yn hytrach na gadael y mater i Lywodraeth y DU nad oes ganddi syniad o'r cyd-destun lleol yn aml iawn - fel y gwelsom yn achos gwesty Parc y Strade.

 

Codais hyn dros yr haf gyda Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ac yng nghyfarfodydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gydag Arweinwyr eraill, ac felly roedd yn braf bod holl arweinwyr awdurdodau lleol Cymru wedi cytuno yng nghyfarfod Bwrdd Gweithredol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar 15 Medi i dderbyn cynnig yn ffurfiol i ddatblygu ffordd ymlaen newydd, gydweithredol ar gyfer cynllunio llety lloches yng Nghymru. Roedd yn braf bod llawer o'r pryderon yr oeddem wedi'u codi, a'r profiadau yr oeddem wedi'u rhannu, yn cael eu hadlewyrchu ac yn cael sylw yn y cynnig hwnnw, a oedd yn ceisio datblygu perthynas newydd rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol Cymru - lle mae parch cydradd, yn hytrach na Llywodraeth y DU yn dweud wrthym yn lleol beth sy'n mynd i ddigwydd, heb lawer o gyfle neu unrhyw gyfle o gwbl am fewnbwn lleol.

 

Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru bellach wedi cyflwyno'r cynnig hwnnw i'r Llywodraeth Geidwadol yn Llundain, ac rwy'n gobeithio y byddai'r Llywodraeth Geidwadol yn edrych ar y cynnig hwnnw ac yn ei dderbyn.

 

O'n safbwynt ni, yma yn Sir Gaerfyrddin wrth gwrs, yr hyn sy'n rhwystredig i ni, fel aelodau, yw nad oedd y trafodaethau hyn rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi digwydd yn gynharach, oherwydd petai'r model mwy cydweithredol hwn wedi'i gynnig, a'i fod ar waith, cyn mis Mai eleni, yna rwy'n gwbl argyhoeddedig na fyddem wedi gorfod dioddef yr hyn yr ydym wedi gorfod ei ddioddef yn Llanelli.

 

Bydd yr aelodau'n ymwybodol bod Dafydd Llewelyn, y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, wedi amcangyfrif bod llanast Parc y Strade wedi costio mwy na £300k i Heddlu Dyfed-Powys. Mae'n ceisio ad-daliad, ac mae wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref, Suella Braverman, i wneud y pwynt hwnnw.

 

Gallaf gadarnhau y bore yma, Gadeirydd, y byddaf innau hefyd yn gwneud cais am ad-daliad gan y Llywodraeth Geidwadol am gostau yr aeth yr awdurdod hwn iddynt oherwydd y llanast dros y chwe mis diwethaf.

 

Mae swyddogion yr awdurdod hwn wedi treulio dros 2,700 o oriau, ie 2,700 o oriau, yn delio â'r mater hwn. Yn ogystal, rydym hefyd wedi colli incwm oherwydd y seremonïau priodasau a gafodd eu canslo a'r incwm a gollwyd yn sgil hynny, wrth gwrs, i gofrestryddion, er enghraifft. Daw hyn ar adeg pan mae straen sylweddol ar y gyllideb, fel y clywsom yn gynharach y bore yma, ac mae swyddogion wedi cael eu tynnu i ffwrdd o'u prif ddyletswyddau er mwyn delio â'r llanast hwn.

 

Cafwyd cyfanswm o bron i £230,000 o gostau o ganlyniad uniongyrchol i gynnig diffygiol y Llywodraeth Geidwadol, ac rwy'n credu bod dyletswydd ar y Llywodraeth Geidwadol i ad-dalu'r awdurdod hwn am y costau hynny.

 

Gadeirydd, dylid canmol y dyfalbarhad a'r penderfyniad a ddangoswyd gan gymaint yn ystod y misoedd diwethaf, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i aelodau, swyddogion, partneriaid a thrigolion lleol am eu cydweithrediad a'u hymdrechion yn ystod y misoedd diwethaf. Yr hyn sy'n amlwg yw bod angen i ni fanteisio ar yr egni hwnnw, i droi'r rhwystredigaeth honno'n gamau cadarnhaol, a sicrhau bod pawb yn gytûn, wrth i ni i gyd gymryd camau i wneud Llanelli yn dref ffyniannus, gynaliadwy, groesawgar a llwyddiannus y gwyddom y gall fod.

 

Fel bob amser, Gadeirydd, byddaf yn ymdrechu i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am ddatblygiadau ym Mharc y Strade ac am drafodaethau pellach â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ynghylch y mater hwn.

 

Diolch yn fawr

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Davies: Nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.