Agenda item

CWESTIWN GAN MRS MANON WILLIAMS I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELDO O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

Agorwyd Ysgol Dewi Sant, yr ysgol gynradd gyfrwng Gymraeg gyntaf yng Nghymru i gael ei chynnal gan awdurdod lleol, yn 1947. Ers hynny, mae addysg gyfrwng Gymraeg wedi ehangu’n sylweddol yng Nghymru, yn gyffredinol, nid o ganlyniad i’w hyrwyddiad gan awdurdodau lleol ond yn bennaf o ganlyniad i alw cynyddol gan rieni, fel sy’n dyst yn ysgolion Llangennech.  Erbyn heddiw mae 387 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yng Nghymru ac mae hyn yn parhau i gynyddu’n raddol, ar yr un pryd bu cynnydd yng nghanran y plant oedran cynradd a fu’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg o 18.8% yn 2000/01 i 24% yn 2014/15. Wrth ystyried llwyddiant a manteision y fath hon o addysgu a dwyieithrwydd yn gyffredinol, sydd wedi cael eu cydnabod yn fyd-eang, a wnaiff y Cyngor yn awr ategu at ddoethineb a phell-welediad rhieni drwy hyrwyddo a marchnata addysg gyfrwng Gymraeg yn ddiwyd

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd Mrs Williams yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw a'i bod wedi gofyn i'r Cadeirydd gyflwyno'r cwestiwn ar ei rhan.

 

“Agorwyd Ysgol Dewi Sant, yr ysgol gynradd gyfrwng Gymraeg gyntaf yng Nghymru i gael ei chynnal gan awdurdod lleol, yn 1947. Ers hynny, mae addysg gyfrwng Gymraeg wedi ehangu’n sylweddol yng Nghymru, yn gyffredinol, nid o ganlyniad i’w hyrwyddiad gan awdurdodau lleol ond yn bennaf o ganlyniad i alw cynyddol gan rieni, fel sy’n dyst yn ysgolion Llangennech.  Erbyn heddiw mae 387 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yng Nghymru ac mae hyn yn parhau i gynyddu’n raddol, ar yr un pryd bu cynnydd yng nghanran y plant oedran cynradd a fu’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg o 18.8% yn 2000/01 i 24% yn 2014/15. Wrth ystyried llwyddiant a manteision y fath hon o addysgu a dwyieithrwydd yn gyffredinol, sydd wedi cael eu cydnabod yn fyd-eang, a wnaiff y Cyngor yn awr ategu at ddoethineb a phell-welediad rhieni drwy hyrwyddo a marchnata addysg gyfrwng Gymraeg yn ddiwyd?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

“Rwyf yn cyd-ymfalchïo â Mrs Williams fod yr ysgol Gymraeg gyntaf yn yr oes fodern wedi'i sefydlu yma yn Sir Gaerfyrddin, sef Ysgol Gymraeg Dewi Sant, ac rwyf innau hefyd yn dathlu'r twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru yn ystod y blynyddoedd ers hynny.Yma yn Sir Gaerfyrddin rydym wedi bod yn gweithio'n galed drwy gyfrwng ein Rhaglen Moderneiddio Addysg ers nifer o flynyddoedd i fodloni'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn ein canolfannau trefol, yn enwedig yn Llanelli, lle mae Ysgol newydd y Ffwrnes wedi cael ei hehangu a'i chreu yn benodol ar gyfer y diben hwn, yn ogystal ag er mwyn mynd i'r afael ag ansawdd gwael safle blaenorol yr ysgol.

 

Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin strategaeth flaengar sydd wedi'i mynegi'n glir ar gyfer datblygu addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog drwy gyfrwng ei Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, sydd wedi cael ei fabwysiadu'n ffurfiol gan y Cyngor Sir fel polisi.  Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn rhaglen gynhwysfawr o ddatblygiad iaith i ysgolion a phlant ledled Sir Gaerfyrddin. Mae'n sefydlu strategaeth eang y Cyngor i ddatblygu dwyieithrwydd drwy'r gwasanaeth addysg, yn bennaf drwy ehangu addysg cyfrwng Cymraeg. Bwriad yr awdurdod lleol yw “cynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin a sicrhau parhad ieithyddol o’r sector meithrin ar hyd y cyfnodau allweddol i’r sector uwchradd fel bod pob disgybl yn datblygu i fod yn rhugl a hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg.” Fel rhan benodol o’r strategaeth, ymrwymodd y Cyngor i “weithio’n agos gyda staff a Chyrff Llywodraethu ysgolion ffrydiau deuol Sir Gaerfyrddin er mwyn iddynt ddod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg.”

 

Yn ychwanegol at gynigion ar gyfer ysgolion Ffrydiau Deuol mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn disgwyl i bob ysgol, gan gynnwys ysgolion sydd ar hyn o bryd wedi’u dynodi yn ysgolion cyfrwng Saesneg, wneud cynnydd ar hyd y continwwm iaith, er mwyn cynyddu cyfran yr addysg a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn amlwg, bydd pa mor gyflym y gall ysgolion ehangu dwyieithrwydd ac addysg cyfrwng Cymraeg yn dibynnu ar amgylchiadau lleol ond mae’r disgwyl am gynnydd yn berthnasol i bob ysgol. Mae’r ysgolion yn Llangennech wedi’u nodi fel rhai sydd â’r potensial i symud yn gyflym i fod yn gyfrwng Cymraeg oherwydd y cynnydd yn niferoedd y ffrwd Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf, fel y tystia’r data.

 

Yn rhinwedd fy rôl fel yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Gwasanaethau Plant rwy'n awyddus i sicrhau bod cynifer â phosibl o blant yn cael y cyfle i ddatblygu yn bobl ifanc gwbl ddwyieithog, gan fwynhau'r holl fanteision ehangach, yn ôl yr ymchwil ryngwladol, y mae dwyieithrwydd yn ei gynnig i berson ifanc, ac i'w datblygiad personol a chyfleoedd gyrfa.”