Agenda item

CWESTIWN GAN MR DEAN BOLGIANI I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Er amlygu manteision posibl dwyieithrwydd ym meysydd iechyd a chyflawniadau addysgol, mae Llangennech yn ysgol ddwyieithog sydd wedi ennill baner werdd. Yn sicr, dylai'r awdurdod lleol fod yn canolbwyntio ar gynyddu Cymraeg o fewn ysgolion cyfrwng Saesneg a'u gwneud yn rhai Dwy Ffrwd o bosibl. Byddai hyn yn cynyddu ac yn hyrwyddo dwyieithrwydd yng ngwir ystyr y gair, gan roi fwy o ddewisiadau i rieni ar yr un pryd. Byddai'r fath hon o strategaeth yn cwmpasu canran uwch o boblogaeth ysgolion Sir Gaerfyrddin, ac mae'n ymagwedd sy'n uno yn hytrach na rhannu. A allwch esbonio pam y mae Llangennech yn cael ei thargedu o dan y polisi newydd?”
 

 

Cofnodion:

“Er amlygu manteision posibl dwyieithrwydd ym meysydd iechyd a chyflawniadau addysgol, mae Llangennech yn ysgol ddwyieithog sydd wedi ennill baner werdd. Yn sicr, dylai'r awdurdod lleol fod yn canolbwyntio ar gynyddu Cymraeg o fewn ysgolion cyfrwng Saesneg a'u gwneud yn rhai Dwy Ffrwd o bosibl.   Byddai hyn yn cynyddu ac yn hyrwyddo dwyieithrwydd yng ngwir ystyr y gair, gan roi mwy o ddewisiadau i rieni ar yr un pryd. Byddai'r math hwn o strategaeth yn cwmpasu canran uwch o boblogaeth ysgolion Sir Gaerfyrddin, ac mae'n ymagwedd sy'n uno yn hytrach na rhannu.   A allwch esbonio pam y mae Llangennech yn cael ei thargedu o dan y polisi newydd?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

“Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin gyfrifoldeb statudol o dan Ran 4 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i lunio Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar gyfer ei ardal gyda golwg benodol ar wella'r modd y cynllunnir darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn codi'r safonau o ran addysgu ac o ran dysgu Cymraeg. Mae'n ofynnol i'r Cyngor bennu targedau ar gyfer ei amcanion.

 

Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2014-2017 Cyngor Sir Caerfyrddin wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru yn unol â gofynion y Ddeddf.   Mae'r Cynllun yn ceisio cael y canlyniadau canlynol penodol o ran y cynnig ar gyfer ysgol Llangynnech:

 

·     Cynyddu nifer y dysgwyr 7 oed a addysgir trwy gyfrwng y Gymraeg.

·     Cael rhagor o ddysgwyr i ddal ati i wella eu sgiliau iaith wrth iddynt symud o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd.

·     Cael rhagor o fyfyrwyr sydd â sgiliau iaith da yn Gymraeg.

 

Hefyd mae'r Cynllun yn cynnwys y nod canlynol:

 

·     Cynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin a sicrhau parhad ieithyddol o’r sector meithrin ar hyd y cyfnodau allweddol i’r sector uwchradd fel bod pob disgybl yn datblygu i fod yn rhugl a hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg.

 

Mae'r Cynllun yn ceisio cyrraedd y nodau a chael y canlyniadau penodedig drwy'r camau gweithredu canlynol:

 

·     Bod y Cyngor Sir yn gweithio’n agos gyda staff a chyrff llywodraethu ysgolion ffrydiau deuol Sir Gaerfyrddin er mwyn iddynt ddod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

·     Targedu tair o ysgolion dwy ffrwd gyda golwg ar iddynt fod yn ysgolion cyfrwng Cymraeg erbyn 2017.

 

Mae'n bwysig nodi bod Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn mynnu bod holl ysgolion cynradd Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys yr ysgolion cyfrwng Saesneg, yn symud ar hyd y continwwm iaith, gan ddal i gynyddu cyfran yr addysg a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda golwg ar sicrhau ymhen amser y bydd yr holl blant yn ddwyieithog pan fyddan nhw'n gadael yr ysgol gynradd.

 

Clustnodwyd bod potensial yn ysgolion Llangennech i gamu'n gyflym ar hyd y continwwm iaith.Dros y blynyddoedd diwethaf mae nifer y plant yn y ffrwd Gymraeg wedi cynyddu'n gyson ac mae nifer y plant yn y ffrwd Saesneg wedi bod yn lleihau, felly mae'r symudiad tuag at ddarpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws yr ysgol yn gam naturiol ymlaen. Mae safonau'r ddwy ysgol wedi bod yn gyson dda, gan amlygu bod y plant yn llwyddo'n dda yn yr holl bynciau ac yn gallu ffynnu drwy gael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg."

 

Gofynnodd Mr Bolgiani y cwestiwn atodol canlynol:-

 

"Onid yw'r darpar ddysgwyr a'r dysgwyr Cymraeg ail iaith hyn o werth o ran hyrwyddo a chefnogi'r Gymraeg, ac a roddwyd ystyriaeth iddyn nhw yn yr asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg?"

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant

 

"Nid yw Saesneg yn cael ei thynnu o Ysgol Llangennech, caiff Saesneg ei dysgu fel pwnc hyd at safon uchel iawn, iawn, a dyna sy'n digwydd yn yr ysgolion hyn. Yn bendant bydd Saesneg yn brif elfen yn yr ysgol, ac fe'i defnyddir hefyd i addysgu a chefnogi pynciau eraill.