Agenda item

CWESTIWN GAN MS JULIA REES I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

O'r wybodaeth a ddarparwyd gan yr Awdurdod Addysg Leol, mae'n amlwg bod y ffigurau wedi cael eu trin gan unigolion i gryfhau sefyllfa benodol. Mae 121 o ddisgyblion yn yr ysgol nad ydynt yn byw yn Llangennech. Ond mae yna 96 o blant o'r pentref sy’n teithio i ysgolion eraill y tu allan i'r ardal. Mae 81 ohonynt yn mynychu ysgol cyfrwng Saesneg. Os bydd yr 81 o blant yn gallu mynychu eu hysgol gymunedol, yna byddai'r ffigurau yn adlewyrchu mwy o angen 50/50 ar gyfer Saesneg a Cymraeg yng nghymuned Llangennech. Mae rhieni a oedd yn dymuno ceisio cyfrwng Saesneg yn y gorffennol yn Llangennech wedi cael eu troi i ffwrdd oherwydd yr oedd yr ysgol yn llawn. Ondnid oedd hyn yn wir a brofodd rhai rhieni hyn mewn tribiwnlys ac yna cafwyd eu dderbyn yn ysgol Llangennech. Pam gwrthodir lle yn y cyfrwng Saesneg pan oedd y cynhwysedd y dosbarthiadau cyfrwng Saesneg yn hanner y cynhwysedd y dosbarthiadau Cymraeg? A sut y gall yr ysgol rhoi cyhoeddusrwydd i'w nodweddion gwyrdd pan fydd yn mynd ati i cefnogi cludo nifer fawr o ddisgyblion i mewn ac allan o'r pentref?”

 

Cofnodion:

“O'r wybodaeth a ddarparwyd gan yr Awdurdod Addysg Leol, mae'n amlwg bod y ffigurau wedi cael eu trin gan unigolion i gryfhau sefyllfa benodol. Mae 121 o ddisgyblion yn yr ysgol nad ydynt yn byw yn Llangennech. Ond mae yna 96 o blant o'r pentref sy’n teithio i ysgolion eraill y tu allan i'r ardal. Mae 81 ohonynt yn mynychu ysgol cyfrwng Saesneg. Os bydd yr 81 o blant yn gallu mynychu eu hysgol gymunedol, yna byddai'r ffigurau yn adlewyrchu mwy o angen 50/50 ar gyfer Saesneg a Cymraeg yng nghymuned Llangennech. Mae rhieni a oedd yn dymuno ceisio cyfrwng Saesneg yn y gorffennol yn Llangennech wedi cael eu troi i ffwrdd oherwydd yr oedd yr ysgol yn llawn. Ond nid oedd hyn yn wir a brofodd rhai rhieni hyn mewn tribiwnlys ac yna cafwyd eu dderbyn yn ysgol Llangennech. Pam gwrthodir lle yn y cyfrwng Saesneg pan oedd y cynhwysedd y dosbarthiadau cyfrwng Saesneg yn hanner y cynhwysedd y dosbarthiadau Cymraeg? A sut y gall yr ysgol rhoi cyhoeddusrwydd i'w nodweddion gwyrdd pan fydd yn mynd ati i cefnogi cludo nifer fawr o ddisgyblion i mewn ac allan o'r pentref?”

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

Y ffigurau a gyflwynwyd yn y Ddogfen Ymgynghori, o ran niferoedd y disgyblion, yw'r rheiny a oedd yn bodoli ar adeg y cyfrifiad statudol blynyddol o ddisgyblion ym mis Ionawr 2015.

 

Mae'r ffigurau diweddaraf ar gyfer mis Ionawr 2016 fel a ganlyn:

 

Ysgol Fabanod Llangennech

 

Cyfanswm nifer y disgyblion yw 210, gyda 161 o blant yn byw yn y dalgylch a 49 o ddisgyblion yn byw y tu allan i'r dalgylch.

 

Ysgol Iau Llangennech

 

Cyfanswm nifer y disgyblion yw 236, gyda 175 o blant yn byw yn y dalgylch a 61 o ddisgyblion yn byw y tu allan i'r dalgylch.

 

Y Ddwy Ysgol Gyda'i Gilydd

 

Gyda'i gilydd y cyfanswm ar gyfer y ddwy ysgol yw 446, gyda 336, neu 75% yn byw yn y dalgylch a 110 o blant, neu 25% yn byw y tu allan i'r dalgylch.

 

Ym mis Ionawr 2016, roedd 96 o blant sy'n byw o fewn dalgylch ysgolion Llangennech yn mynychu ysgolion eraill. O blith y rhain, roedd 16 o blant yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, 7 yn mynychu ysgolion dwy ffrwd a 73 yn mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg, gyda nifer sylweddol o blant, 39 ohonyn nhw, sef dros hanner y rheiny a oedd yn gadael y dalgylch, yn mynychu ysgol y Bryn. Roedd 3 o'r plant yn mynychu ysgolion ffydd.

 

Mae'n berthnasol nodi oherwydd cyfluniad dalgylch ysgolion Llangennech, fod nifer sylweddol o blant sy'n byw yn ne'r dalgylch yn byw yn agosach at ysgolion eraill nag ydyn nhw i ysgolion Llangennech. Yn amlwg ymhlith y rhain mae Ysgol y Bryn sy'n derbyn 39 o blant o ddalgylch Llangennech sy'n byw naill ai ar Heol Penllwyngwyn, Parc Hendre, Harddfan, Bryn Uchaf a Heol Pendderi neu'n agos atyn nhw ac o ganlyniad yn byw yn llawer agosach i'r ysgol hon.

 

Mae ysgolion Llangennech yn gallu darparu lle i'r holl blant sy'n byw o fewn y dalgylch. Mae'r plant hyn yn cael blaenoriaeth dros blant sy'n byw y tu allan i'r dalgylch dan y polisïau derbyn sefydledig.

 

Nid oes yr un plentyn o ddalgylch ysgolion Llangennech wedi cael gwrthod lle yn ysgolion Llangennech gan y Cyngor Sir fel yr Awdurdod Derbyn statudol.

 

Mae'r Nifer Derbyn a gyhoeddwyd ar gyfer ysgolion Llangennech yn berthnasol i'r ysgol gyfan ac nid yw'n ystyried dewis iaith. Yr awdurdod lleol yn unig fel y corff derbyn statudol sy'n gallu derbyn plant i'r ysgolion. Nid oes hawl gan ysgolion i dderbyn disgyblion eu hunain nac i wrthod lle. Nid yw'r Cyngor Sir wedi gwrthod lle i unrhyw blentyn sy'n byw o fewn y dalgylch, beth bynnag yw'r dewis iaith.

 

Mae'n gyffredin i ddisgyblion symud rhwng dalgylchoedd ysgolion a hynny ledled y sir yn yr ardaloedd gwledig a threfol.

 

Mae ysgolion yn cael eu categoreiddio yn ôl asesiad sy'n rhan o'r fframwaith cenedlaethol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae'r fframwaith yn ystyried y safonau a gyflawnwyd gan y disgyblion, presenoldeb y disgyblion, ansawdd yr arweinyddiaeth yn yr ysgol a gallu'r ysgol i wella. Nid yw'r fframwaith categoreiddio yn ystyried materion megis iaith neu drefniadau derbyn.”

 

Gofynnodd Ms Rees y cwestiwn atodol canlynol:-

 

"Rydych yn dweud na wrthodwyd lle i blant yn Ysgol Llangennech ar sail dewis iaith, felly a fyddwch cystal ag esbonio pam y gwrthodwyd rhoi lle i'm dau fab yn Ysgol Fabanod Llangennech er bod 29 o leoedd gwag yn y ffrwd Saesneg yn eu blwyddyn ac er bod 11 yn fwy na nifer y lleoedd yn y ffrwd Gymraeg. Eto roedd y llythyr gwrthod yn dweud bod y ffrwd Saesneg "yn llawn ac y byddai derbyn disgybl arall yn ychwanegol at y niferoedd presennol yn peri anawsterau dybryd i'r ysgol".Sut y gellir dehongli hyn ond fel ymgais fwriadol i addasu'r ffigurau er mwyn ffafrio addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ar draul addysg drwy gyfrwng y Saesneg?

 

Ymateb y Cynghorydd G.O Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

"Nid wyf yn ymwybodol o hynny, a bydd yn rhaid imi gael rhagor o wybodaeth; yn bendant byddaf yn ymchwilio i'r mater i gael gweld beth sy'n digwydd."

 

</AI10>