Agenda item

CWESTIWN GAN MRS KAREN HUGHES I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWETIHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Bu nifer o fethiannau yn y broses ymgynghori, gyda’r pennaeth yn cyfaddef ar 26ain Ebrill iddynt fod yn naïf yngl?n â’r broses ymgynghori. Derbyniom ohebiaeth yn cadarnhau bod yr ysgol yn ymwybodol o gynnig gan yr Awdurdod Addysg Lleol ym mis Medi 2014, a llythyr dilynol o gynnig ym mis Ionawr 2015 i’r ysgol sy’n cyfeirio at 5 mater a gytunwyd fel pecyn yr oedd yn rhaid eu cymryd fel cyfanwaith. Gan fynnu bod yn rhaid i’r pecyn gael ei dderbyn gan y llywodraethwyr a’r Awdurdod Addysg Lleol fel cyfanwaith ac eisoes wedi’i dderbyn ym mis Chwefror 2015, y mae’n gwneud inni feddwl a oedd y fargen hon eisoes wedi’i tharo. Pam na wnaed hyn yn hysbys i’r holl randdeiliaid ym mis Medi 2014 gan ddangos didwylledd a thryloywder?”

 

Cofnodion:

“Bu nifer o fethiannau yn y broses ymgynghori, gyda’r pennaeth yn cyfaddef ar 26ain Ebrill iddynt fod yn naïf yngl?n â’r broses ymgynghori. Derbyniom ohebiaeth yn cadarnhau bod yr ysgol yn ymwybodol o gynnig gan yr Awdurdod Addysg Lleol ym mis Medi 2014, a llythyr dilynol o gynnig ym mis Ionawr 2015 i’r ysgol sy’n cyfeirio at 5 mater a gytunwyd fel pecyn yr oedd yn rhaid eu cymryd fel cyfanwaith. Gan fynnu bod yn rhaid i’r pecyn gael ei dderbyn gan y llywodraethwyr a’r Awdurdod Addysg Lleol fel cyfanwaith ac eisoes wedi’i dderbyn ym mis Chwefror 2015, y mae’n gwneud inni feddwl a oedd y fargen hon eisoes wedi’i tharo. Pam na wnaed hyn yn hysbys i’r holl randdeiliaid ym mis Medi 2014 gan ddangos didwylledd a thryloywder?”

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

"Cynhaliwyd y broses ymgynghori yn unol â'r Côd Trefniadaeth Ysgolion statudol. Mae'r Adran Addysg a Gwasanaethau Plant wedi bod yn trafod â chyrff llywodraethu'r ddwy ysgol ers rhai blynyddoedd ynghylch potensial y cynnig presennol, ac mae'r partïon wedi bod yn cyfnewid gohebiaeth. Mae'r Adran wedi dangos gohebiaeth ynghylch y mater hwn i'r gwrthwynebwyr, gan amlygu ei bod yn agored ac yn dryloyw. Mae gan gyrff llywodraethu ysgolion gyfrifoldeb statudol dros eu hysgolion, ac mae trafodaethau rhwng yr awdurdod lleol a'r ysgolion ynghylch cynigion i newid pethau yn cychwyn bob amser â thrafodaeth gyda'r cyrff llywodraethu. Cynhelir trafodaethau ac ymgynghoriadau gyda phobl eraill a grwpiau eraill ar yr adegau priodol yn y broses yn unol â'r disgwyliadau statudol.

Nid oes penderfyniad terfynol wedi'i ei wneud hyd yn hyn ynghylch y cynnig hwn. Os bydd y Bwrdd Gweithredol yn penderfynu camu ymlaen i'r cam nesaf yn y broses, drwy gyhoeddi hysbysiad statudol, bydd cyfle arall i'r partïon sydd â buddiant gyflwyno eu sylwadau, a gaiff eu hystyried yn llawn cyn penderfynu'n derfynol ar y mater.

Bwriad yr ohebiaeth rhwng y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant a'r cyrff llywodraethu oedd bod y partïon hyn yn cytuno ar egwyddorion y cynnig ac ar y modd y gellid ei weithredu, gan roi sylw hefyd i ffactorau eraill, megis sut y gellid rhoi sylw i'r diffyg lle yn yr ysgol fabanod a sut y gallai'r cyllid lles cynllunio oedd ar gael ar gyfer yr ardal gael ei ddefnyddio mewn modd defnyddiol.

Yn ei lythyr ar 29ain Ionawr 2015 at Gadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Fabanod Llangennech, yr anfonwyd copi ohono at Gadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Iau Llangennech, roedd y Cyfarwyddwr wedi datgan yn glir y bydd yn rhaid i'r Cyngor Sir gynnal proses statudol i ffurfio ysgol gynradd newydd yn lle'r ddwy ysgol bresennol, i ymestyn ystod oedran yr ysgol ac i sefydlu'r ysgol newydd fel ysgol Gymraeg ei chyfrwng, gan danlinellu'r heriau amseryddol o ran cwblhau'r broses statudol.

Hefyd roedd y llythyr yn cyfeirio at ymrwymiad i ddarparu ystafell ddosbarth ddwbl symudol ychwanegol er mwyn darparu rhagor o le yn yr ysgol fabanod (mae hyn wedi'i wneud bellach) ac yn cytuno i ryddhau arian lles cynllunio i'w fuddsoddi yn yr ysgolion, drwy gytundeb gyda'r Adran. Mae'r ffaith fod yr adeilad modwlar newydd wedi ei godi yn yr ysgol yn amlygu nad yw'r elfen hon yn gysylltiedig â'r cynnig statudol.

Felly mae'r cyfeiriad yn llythyr y Cyfarwyddwr at "becyn ar gyfer datblygu'r ddarpariaeth sector cynradd" yn dangos yn eglur fod ymgais i gael cytundeb o ran egwyddor.

Mabwysiadwyd Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn ffurfiol yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol ar 28ain Gorffennaf 2014, a derbyniwyd cofnodion y cyfarfod hwnnw gan y Cyngor Sir yn ei gyfarfod ar 10fed Medi 2014.Mae'n amlwg felly taw Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yw polisi'r Cyngor. Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg yn amlinellu'r strategaeth eang ar gyfer datblygu'r iaith yn y gwasanaeth addysg. Pan fo cynnydd yn golygu bod angen newidiadau mewn ysgolion unigol o ran cyfran y cwricwlwm a addysgir drwy'r naill iaith neu'r llall, bydd proses statudol yn ofynnol, gan gynnwys ymgynghori ynghylch pob cynnig penodol. Dyna beth sy'n digwydd yn Llangennech ar hyn o bryd.”

 

          Gofynnodd Mrs Hughes y cwestiwn atodol canlynol:-

 

“A ydych chi'n cytuno taw dim ond esgus rhoi sylw i bobl a wnaeth y broses ymgynghori, ac nad oes gwir bryder am y gymuned yn gyffredinol nac am ddiwallu ei hanghenion?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

"Rwyf yn meddwl y byddaf yn cyfeirio at rai o'r pwyntiau y bu ichi eu codi wrth imi ymdrin â'r cwestiynau eraill dilynol, felly os nad ydych chi'n fodlon ar yr atebion a ddaw, dewch yn ôl ataf a rhoddaf ateb ichi."

 

</AI8>