Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYNGOR SIR GAR AR GYFER 2022-23

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd A. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried.]

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol drafft y Cyngor ar gyfer 2022/23 ynghyd ag adroddiadau manwl ar Amcanion Llesiant newydd y Cyngor sy'n dod o fewn cylch gwaith y pwyllgor sef:

 

·       WBO1 - Galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau'n Dda)

·       WBO2 - Galluogi ein preswylwyr i fyw a heneiddio'n dda (Byw a Heneiddio'n Dda)

·       WBO3 - Galluogi ein cymunedau a'n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus)

·       WBO4 -  Moderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor cydnerth ac effeithlon (Ein Cyngor)

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd yr Arweinydd fod yr adroddiad hwn yn ofyniad statudol, a thrwy ddefnyddio’r amcanion llesiant i fframio’r hunanasesiad,  roedd yn galluogi'r Cyngor i integreiddio gofynion adrodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) mewn un adroddiad.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am sut yr ymgysylltai’r Cyngor â dinasyddion a rhanddeiliaid ar draws holl swyddogaethau allweddol y Cyngor.

 

Ymatebwyd i'r sylwadau/arsylwadau fel a ganlyn:

 

·       Rhoddwyd sylw i'r grantiau penodol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru gan eu bod yn cyfateb i'r cyfanswm o 16% y mae'r Cyngor yn ei dderbyn o'r dreth gyngor. Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd yr Arweinydd fod y swm a dderbyniodd y Cyngor o dreth y cyngor yn y gwariant cyffredinol yn fach o gymharu â phwysigrwydd y Grant Cynnal Refeniw (RSG) a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd trafodaethau ar y gweill ar lefel Cymru gyfan. Dywedodd yr Arweinydd wrth yr aelodau y byddai'r Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn ymweld â Sir Gaerfyrddin yn ystod yr wythnos nesaf lle byddai trafodaeth yn cael ei chynnal yngl?n â sefyllfa bresennol y grantiau a'r posibilrwydd o gydgrynhoi'r Grant Cynnal Refeniw. Byddai gwybodaeth yn cael ei dosbarthu i Aelodau'r Pwyllgor y tu allan i'r cyfarfod.

 

·       Esboniodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y Cyngor yn dibynnu ar grantiau i gynnal y gyllideb refeniw.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod y gyfradd gasglu annomestig yn 97.97% a oedd ychydig bach yn is na'r flwyddyn flaenorol. Mae ardrethi annomestig yn cael eu cronni ledled Cymru ac felly, byddai unrhyw or-gasgliad neu dan-gasgliad o fewn awdurdod lleol unigol yn mynd i’r gronfa ac yn cael ei rannu ledled Cymru.  Mae'r awdurdod wedi'i ddiogelu rhag unrhyw amrywiad o ran ffactorau economaidd lleol.

 

·       Bu i'r Pennaeth Adfywio, Polisi a Digidol, wrth ymateb i ymholiad ynghylch safleoedd adwerthu gwag ac adwerthwyr yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, gadarnhau byddai'n rhaid i'r landlord dalu ardrethi, er bod cyfnod dros dro o 3 mis pan fo'r eiddo'n wag

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch gostyngiad yn y targedau ymateb statudol i gwynion, eglurodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a' Phartneriaeth, y bu cynnydd yn nifer y cwynion a ddaeth i law  yr Awdurdod yn ystod yr un cyfnod. Roedd y cwynion a ddaeth i law yn rhai cymhleth ac roedd angen amser i ymchwilio iddynt yn drylwyr. Dywedwyd y byddai Adroddiad Blynyddol manwl ynghylch Cwynion yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio nesaf.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth fod cyfarwyddeb i Benaethiaid Gwasanaeth gan archwilio mewnol ynghylch amser ymateb rheolwyr wedi'i weithredu.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd y Rheolwr Cymorth Busnes y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor, yn egluro pam y bu cynnydd yn nifer y marwolaethau a gofrestrwyd yn Sir Gaerfyrddin yn ystod 2022/23, gan gynnwys cynnydd mewn achosion lle mae angen i grwner ymyrryd yn y sefyllfa.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. 

 

Dogfennau ategol: