Agenda item

CYLLIDEBAU YSGOLION

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorydd B. W. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r mater gael ei drafod ond ni phleidleisiodd yn ei gylch].

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad cyllidebau ysgolion a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa'r Awdurdod ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ar 31 Mawrth 2023 ar gyfer ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig yn Sir Gaerfyrddin.  Darparwyd ffigurau cymaradwy hefyd ar gyfer 2020/21 a 2021/22. 

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor, fel a ganlyn:-

 

Cydnabu'r Pwyllgor fod cyllid grant ychwanegol sylweddol wedi bod ar gael i ysgolion gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig coronafeirws, a oedd wedi cael effaith gadarnhaol ar nifer o gyllidebau ysgolion ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd y Pennaeth Mynediad i Addysg nad oedd unrhyw achosion o Goncrit Awyredig Awtoclafiedig Cydnerth (RAAC) wedi'u nodi mewn ysgolion hyd yn hyn a bod arolygon ysgolion yn parhau yn hyn o beth.

 

Holwyd a oedd rhaglen gyfalaf yr Awdurdod yn gyraeddadwy i gyflawni'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yng ngoleuni'r penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth Cymru i dynnu'r model buddsoddi cydfuddiannol yn ôl o ran Band B ar gyfer Awdurdodau Lleol.  Eglurodd y Pennaeth Mynediad i Addysg y byddai rhaglen gyllido dreigl 3, 6 a 9 mlynedd yn cael ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2024 a fyddai'n gofyn am raglen gyfalaf ddiwygiedig yn seiliedig ar flaenoriaethau cyfredol a gallu'r Awdurdod i roi arian cyfatebol ar gyfer cyfalaf ar gyfradd ymyrryd o 65% ar gyfer prif ffrwd a chyfradd ymyrryd o 75% ar gyfer darpariaeth ADY ac ysgolion arbennig.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am y prif bwysau ariannol y mae ysgolion yn eu hwynebu, a oedd, ar y cyfan, i'w priodoli i gostau staffio.  Cydnabuwyd hefyd fod cyllidebau ysgolion yn cael eu pennu yn unol â'r fformiwla ariannu gyffredinol ar gyfer ysgolion ac yn seiliedig ar nifer y disgyblion.  Dywedwyd bod y mater diffygion ariannol ysgolion wedi'i waethygu ymhellach gan gostau cynnal a chadw adeiladau, lle nad oedd y ddarpariaeth gyllidebol bresennol yn ddigonol i dalu costau atgyweirio. Yn unol â hynny, eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod y diffygion cronnol yn y blynyddoedd i ddod yn parhau i beri pryder a risg sylweddol i'r Awdurdod y byddai angen eu hystyried fel rhan o'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

 

Cafodd y Pwyllgor grynodeb o'r dulliau cymorth parhaus a gynigir i ysgolion, a oedd yn cynnwys 'Panel Adolygu Newid' lle cafodd syniadau ar gyfer arbedion eu harchwilio gyda chynrychiolwyr o wasanaethau addysg, Adnoddau Dynol a Chyllid.

 

Mewn ymateb i ymholiad, rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant sicrwydd i'r Pwyllgor, o ganlyniad i'r dulliau cymorth a ddarparwyd gan yr Awdurdod, fod gan ysgolion bellach ymwybyddiaeth well o ofynion cynllunio cyllideb a gwariant. Fodd bynnag, roedd mesurau ymyrraeth arbennig ar gael i'r Awdurdod, os oedd angen, drwy rybudd ffurfiol a fyddai'n cael ei roi gan y Swyddog Adran 151 a'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant.

 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant wrth y Pwyllgor fod y cyllid y pen gan Lywodraeth Cymru yn gyson ar gyfer pob disgybl, ond bod arian ychwanegol yn cael ei ddosbarthu i ysgolion gan yr Awdurdod a oedd yn amrywio rhwng £3k - £8k y disgybl.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: