Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD JOHN JAMES I'R CYNGHORYDD DARREN PRICE, ARWEINYDD Y CYNGOR

Mae deallusrwydd artiffisial yn dechnoleg drawsnewidiol sy’n cael ei defnyddio ar draws y sector preifat a’r sector cyhoeddus, yn genedlaethol ac yn fyd-eang, ac sy’n chwarae rôl sy’n gwella ac yn datblygu. Mae fy nghwestiwn yn cynnwys dwy ran:

 

Yn gyntaf: Pa gamau y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn eu cymryd ar hyn o bryd ynghylch deallusrwydd artiffisial er mwyn sicrhau bod y Cyngor hwn yn dilyn y prif dueddiadau a datblygiadau a’i fod yn manteisio ar yr arfer gorau y mae awdurdodau lleol eraill a sefydliadau’r sector cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig yn ei weithredu ac yn arloesi mewn perthynas ag ef?

 

Yn ail: Gan edrych tua’r dyfodol, sut y mae’r Cyngor yn bwriadu manteisio i’r eithaf ar ddeallusrwydd artiffisial fel y gellir rhoi cyfleoedd ac arferion ymarferol ar waith, gan gydnabod ac ymdrin â’r heriau y bydd y dechnoleg hon, heb os, yn eu creu wrth iddi ddatblygu?

 

 

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan y Cynghorydd James:

 

“Mae Deallusrwydd Artiffisial yn dechnoleg drawsnewidiol sy'n cael ei defnyddio ledled y sectorau Preifat a Chyhoeddus yn genedlaethol ac yn fyd-eang ac sy'n chwarae rôl gynyddol a gwell. Daw fy nghwestiwn mewn dwy ran:

 

Yn gyntaf: Pa gamau mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn eu cymryd ar hyn o bryd ynghylch Deallusrwydd Artiffisial i sicrhau bod y Cyngor hwn yn cadw i fyny â thueddiadau a datblygiadau allweddol ac yn tynnu ar arferion gorau Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Sector Cyhoeddus eraill yn y DU.

 

Yn ail: Gan edrych at y dyfodol, sut mae'r Cyngor hwn am fanteisio i'r eithaf ar Ddeallusrwydd Artiffisial fel y gellir defnyddio cyfleoedd ac arferion, gan gydnabod hefyd a delio â'r heriau ddaw yn sgil y dechnoleg hon yn ddi-os wrth iddi wella."

 

Ymateb gan y Cynghorydd Price:

 

“Mewn ymateb i'r cwestiwn cyntaf, rydym wedi bod yn dilyn datblygiadau ym maes deallusrwydd artiffisial ers peth amser ac mae ein swyddogion yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf ac mewn cysylltiad cyson ag arbenigwyr yn y diwydiant, partneriaid sector preifat a chyflenwyr.  Rydym hefyd yn ymwneud ag amrywiaeth o fforymau sector cyhoeddus a ffrydiau gwaith, gan weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod mewn sefyllfa dda i ddefnyddio arferion gorau Awdurdodau Lleol a sefydliadau sector cyhoeddus eraill mewn perthynas â Deallusrwydd Artiffisial.

 

Mae'r cysylltiadau rydym eisoes wedi'u gwneud a'n presenoldeb yn y Fforymau hyn yn ein helpu i rannu dysgu a nodi'r cyfleoedd mwyaf buddiol i Sir Gaerfyrddin.  Maent hefyd yn darparu gwybodaeth hanfodol am y risgiau a'r heriau posibl sy'n perthyn i ddeallusrwydd artiffisial, gan ein galluogi i baratoi gyda hynny mewn golwg.  Er mwyn i ni gofleidio Deallusrwydd Artiffisial go iawn mae angen i ni ddeall yr achos busnes, y gost, y buddion ac ati fesul achos.  Mae hefyd yn hanfodol ein bod yn deall effaith debygol y dechnoleg hon ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ar breswylwyr, ac wrth gwrs ein gweithlu er mwyn sicrhau ein bod yn mabwysiadu hyn mewn modd moesol a diogel.

 

Byddwn yn parhau i gymryd y camau angenrheidiol ac i feithrin ein perthynas â phartneriaid yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat i sicrhau bod Sir Gaerfyrddin yn cadw i fyny â thueddiadau a datblygiadau allweddol ym maes Deallusrwydd Artiffisial. Rydym eisoes yn treialu'r defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial mewn dwy broses AD ac mae ein Bwrdd Trawsnewid Digidol yn edrych ar adrannau eraill lle gallwn ddefnyddio a dysgu trwy ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial.  Er enghraifft, un o'r prosesau yw cyflwyno bot i'r Adran Adnoddau Dynol yn ddiweddar, ac mae'r bot yn gallu prosesu gwybodaeth 24 awr y dydd ac yn fwy effeithiol na'r broses flaenorol. 

Mae arbedion yn amlwg yn ogystal â gwell effeithiolrwydd o ran y broses.  Rydym yn monitro hyn fel bod y bobl fonitro yn gweithio gyda'n hadran i ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial i symleiddio ein prosesau rheoli contract yn Adnoddau Dynol.  Bydd hyn yn lleihau ein defnydd o staff achlysurol ac yn darparu gwelliannau ar gyfer gwasanaethau gan gynnwys prosesau cyflymu.  Wrth gwrs, mae un mater sy'n greiddiol i Ddeallusrwydd Artiffisial, sef a yw'n cymryd swyddi pobl ac yn crebachu'r gweithlu. 

 

Rydym ar daith Deallusrwydd Artiffisial, yn y cam cychwynnol, ac rydym yn gweithio'n agos gydag undebau a byddwn yn parhau i wneud hynny wrth i ni ddatblygu ein defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial yn Sir Gaerfyrddin.  Yn wir, mae'r defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial wedi bod yn bwnc trafod yn ein cyfarfodydd gyda'n cydweithwyr yn yr undebau, ac rydym wedi rhoi sicrwydd na fydd defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn fygythiad uniongyrchol i benodi staff newydd.  Mewn ymateb i ail ran y cwestiwn, mae ein swyddogion ar hyn o bryd yn ysgrifennu datganiad sefyllfa ar Ddeallusrwydd Artiffisial ar gyfer y Cyngor.  Bydd y papur yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Trawsnewid yn ystod yr hydref eleni, ac yn ogystal â hynny, mae gwaith yn digwydd ar y funud ar ein strategaeth ddigidol newydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin am y blynyddoedd nesaf, hyd at 2027. Bydd y strategaeth ddigidol newydd hon yn canolbwyntio'n sylweddol ar arloesi gan gynnwys Deallusrwydd Artiffisial wrth gwrs, ac am y tro cyntaf byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus gan sicrhau bod trigolion a busnesau yn cael y cyfle i roi eu barn a'u disgwyliadau.  Rwy'n gobeithio bod hynny'n rhoi trosolwg i chi.”

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd James:

 

“Ateb cynhwysfawr a llawn gwybodaeth gan yr Arweinydd sy'n dangos pa mor ddifrifol rydych chi a'r Cyngor Sir yn cymryd y pwnc hwn. A allwch chi drefnu cyflwyniad neu seminar yn y dyfodol agos ar y pwnc pwysig hwn fel ein bod yn dod i wybod mwy amdano ac fel bod gennym wybodaeth i ateb cwestiynau posibl gan bobl. Nid ydym yn gwybod llawer amdano, ac mae rhai pobl yn dweud A1 yn lle AI, cyn lleied yw eu dealltwriaeth hyd yn hyn. Ond mae'n bwysig, mae cynnydd yn digwydd yn y maes hwn ledled y byd, felly mae'n bwysig ein bod ni'n cael y wybodaeth hon hefyd. Pe gallech drefnu seminar neu gyflwyniad i ni ar hyn rywbryd yn y dyfodol.”     

 

Ymateb gan y Cynghorydd Price:

 

“Fel ddywedoch chi, mae hwn yn rhywbeth newydd i ni.  Rydw i'n dysgu hefyd.  Mae'n rhywbeth sy'n dod yn fwy amlwg i ni fel sector cyhoeddus ac mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn deall beth sydd i ddod a'r heriau a'r risgiau fel y soniais yngl?n â staffio ac ati. Cawsom drafodaeth ar yr eitem hon fel rhan o'n trosolwg fel Cabinet tua phythefnos yn ôl rwy'n credu, ac mae cryn dipyn o waith yn digwydd yn y maes hwn ar draws y Cyngor. Fel y soniais yn gynharach, wrth i ni ymgynghori ar y strategaeth hon, rydym am sicrhau bod preswylwyr a busnesau yn cyfrannu'n benodol ati oherwydd bod gan y sector preifat rôl hanfodol i ddatblygu'r agenda hon yn y sir.  O ran aelodau mae hynny'n rhywbeth yr ydym wedi ei drafod gyda swyddogion ac rydym yn gweld seminar benodol i aelodau fel rhan bwysig o'r ymgynghoriad hwnnw o ran y strategaeth newydd.  Felly, i ateb y cwestiwn, bydd yna seminar a gobeithio gallwn ni weld hynny'n digwydd yn y misoedd nesaf.”