Cofnodion:
Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn atodi'r strategaeth ddrafft ar gyfer rheoli glaswelltir ar gyfer peillwyr ar ystâd Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2023. Wrth gyflwyno'r adroddiad, roedd yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd wedi tynnu sylw at y ffaith fod y Cyngor hwn wedi nodi ei uchelgais fel rhan o Ddatganiad Gweledigaeth y Cabinet i gynyddu bioamrywiaeth ar yr holl dir sy'n eiddo i'r Cyngor, a chydnabod y gydberthynas gref rhwng newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth a llesiant pobl.
Dywedwyd ei fod yn gyfle da i rannu'r strategaeth ddrafft â'r Pwyllgor yn ystod camau cynnar ei ddatblygiad.
Dywedwyd wrth Aelodau'r Pwyllgor fod y strategaeth ddrafft yn ystyried glaswelltiroedd amwynder, tir ysgolion, y portffolio adfywio a'r portffolio tai ond nid oedd fodd bynnag yn cynnwys perthi ac ymylon ffyrdd na thir fferm.
Ymatebwyd fel a ganlyn i’r sylwadau a fynegwyd:-
· Mynegwyd nifer o sylwadau wrth gydnabod y dirywiad yn y rhywogaeth a chymeradwywyd y ffaith fod y strategaeth yn cynnwys cynnydd mewn blodau gwyllt a fyddai yn ei dro yn gwneud gwahaniaeth o ran cynyddu gwenyn, ieir bach yr haf a rhywogaethau eraill.
· Adroddwyd bod darnau o laswellt, yn cynnwys pabïau, wedi cael eu torri yn ystod toriad glaswellt a oedd wedi'i drefnu. Pan gafodd ei herio dywedodd y gweithredwr fod y glaswellt yn cael ei dorri fel rhan o amserlen. Dywedodd yr Aelod Cabinet fod hwn yn faes ar gyfer gwella'n barhaus. Eglurodd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd fod glaswellt amwynder yn hanesyddol yn cael ei dorri am resymau esthetig, fodd bynnag, roedd newidiadau'n cael eu gwneud wrth ystyried amseriad y toriadau i roi amser i flodau hadu, ffawna i atgynhyrchu ac i'r pridd a natur i ffynnu. Trwy arweinyddiaeth a chyfarwyddyd mae nawr yn gyfle da i newid ar gyfer y dyfodol. Pwysleisiodd y Rheolwr Tiroedd a Glanhau nad dyma'r gyfarwyddeb oedd yn cael ei roi ar hyn o bryd ac y byddai ymdrech ar y cyd i hyfforddi staff a chodi ymwybyddiaeth yn cael ei wneud.
· Rhoddwyd clod i bawb a fu'n rhan o ddatblygu'r Strategaeth.
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch gweithio gydag Eco-bwyllgorau ysgolion, dywedodd y Swyddog Bioamrywiaeth fod yr adran yn aml yn gweithio gydag ysgolion yn unigol, pan fyddant yn cysylltu â'r adran am gyngor a hefyd gyda'r Gr?p Gweithredu Ysgolion. Adroddwyd mai disgyblion yr ysgolion yn aml sy'n pwyso am wneud mwy o waith mewn meysydd o'r fath. Yn ogystal, mae Cynghorau Tref a Chymuned wedi gwneud cryn dipyn o waith yn dilyn ceisiadau llwyddiannus am gyllid grant.
· Dywedodd y Swyddog Bioamrywiaeth fod y Cyngor wedi buddsoddi mewn offer torri a chasglu newydd i weithio tuag at weithredu'r strategaeth.
· Roedd y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd wedi nodi mai'r agwedd bwysig oedd y gwaith cydweithredol ac eglurodd mai cam cyntaf y strategaeth oedd casglu tystiolaeth, a gosod polisi y byddai asesiadau effaith, cost ac ardal yn cael eu cwblhau dros gyfnod yr Hydref. Byddai dull ymgysylltu cadarn wedi'i dargedu gyda'r cymunedau hefyd yn flaenoriaeth.
· Gofynnwyd a oedd cynllun neu sgôp i gynnwys clybiau chwaraeon ac ardaloedd eraill, nid yn unig tir sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin neu'n cael ei reoli ganddo? Dywedodd y Swyddog Bioamrywiaeth mai bwriad y strategaeth yw y gallai gael ei mabwysiadu gan Gynghorau Tref a Chymuned yn ogystal â phartneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. O ran clybiau a chymdeithasau chwaraeon, dywedwyd bod yr adran wedi gweithio'n llwyddiannus gydag un gymdeithas chwaraeon hyd yma a byddai rhagor o waith gyda chlybiau chwaraeon ar draws y Sir yn cael ei groesawu.
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch Jac y Neidiwr, eglurodd y swyddog Bioamrywiaeth ei fod wedi'i restru yn yr un modd â Chlymog Japan - sef rhywogaeth ymledol, anfrodorol ac er bod manteision i beillwyr wrth iddynt flodeuo, roedd ar hyn o bryd yn un o'r rhywogaethau ymledol a oedd yn ymledu fwyaf. Felly, anogir i dynnu'r rhywogaeth cyn iddo ddatblygu'r blodyn er mwyn osgoi lledaenu hadau a ellid ei ystyried yn weithred anghyfreithlon o dan Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y Strategaeth Ddrafft ar gyfer Rheoli Glaswelltir i Bryfed Peillio.
Dogfennau ategol: