“A allwch chi roi gwybod i mi am y cynnydd sy’n cael ei wneud tuag at ddatgarboneiddio ein stoc tai yng ngoleuni datganiad argyfwng hinsawdd 2019 ac ymrwymiad y cyngor hwn i well dyfodol ar gyfer ein plant? Yn benodol, beth yw eich prif rwystrau i gyflawni ‘sero net’ o ran stoc tai’r cyngor a fydd yn y pen draw yn helpu i leihau biliau i drigolion, o ystyried yr argyfwng costau byw parhaus?”
Cofnodion:
Cwestiwn gan y Cynghorydd Sparkes:
“A allech chi roi gwybod i mi am y cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at ddatgarboneiddio ein stoc dai yn sgil datgan argyfwng hinsawdd yn 2019 ac ymrwymiad y Cyngor hwn i ddyfodol gwell i'n plant. Yn benodol, beth yw'r prif bethau sy'n eich rhwystro rhag cyflawni 'sero net' mewn perthynas â stoc dai'r Cyngor, a fydd yn y pen draw yn helpu i leihau biliau i breswylwyr o ystyried yr argyfwng costau byw parhaus?”
Ymateb gan y Cynghorydd Evans:
“Fe wna' i egluro lle rydym arni ar hyn o bryd. Fel y gwyddoch ac fel y nodir yn ein cynllun busnes ar gyfer 2023/24, ein nod fel adran yw gwneud ein cartrefi mor effeithlon â phosib o ran ynni a chyflawni tystysgrif perfformiad ynni Band C man lleiaf cyn gynted â phosib. Bydd datgarboneiddio ein stoc o gartrefi a lleihau ein hallyriadau carbon yn ffocws strategol i ni am y blynyddoedd i ddod. Mae 3,000 o'n cartrefi ym Mand C neu uwch o ran Tystysgrif Perfformiad Ynni eisoes, gyda bron i 5,800 o gartrefi ym Mand D gyda lefel SAP o 66 sydd ychydig yn uwch na'r safon a osodwyd yn Safon Ansawdd Tai Cymru ac rwy'n credu taw 65 yw honno ar hyn o bryd. Er mwyn cyrraedd y nod, i ddechrau, mae gwella ffabrig ein cartrefi yn hanfodol, hefyd mae angen i ni gael gwres carbon isel a thechnoleg adnewyddadwy.
Mae'r her yn enfawr ond mae'n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i ddatgarboneiddio ein stoc o gartrefi a fydd o fudd i'r amgylchedd ac i'n tenantiaid. Fel y gwyddoch, mae ein rhaglen adeiladu newydd wedi gwthio'r ffiniau ar gyfer tai cymdeithasol trwy ddarparu cartrefi sy'n isel mewn carbon ac yn effeithiol mewn perthynas ag ynni ac wrth i ni barhau i adeiladu, byddwn yn parhau i wthio'r ffiniau hynny. Rydym yn defnyddio'r un dull pan fyddwn yn darparu cartrefi newydd i bobl drwy ailddatblygu adeiladau masnachol presennol mewn cartrefi effeithiol a modern, gan ddefnyddio'r dull ffabrig yn gyntaf a defnyddio technolegau adnewyddadwy i ddarparu amgylchedd byw fforddiadwy a chyfforddus i'n tenantiaid. Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn defnyddio'r un dull wrth wneud gwaith ôl-ffitio ar ein stoc dai bresennol. Rydym eisoes wedi gwneud gwaith ôl-ffitio llawn ar rai o'n cartrefi sy'n golygu bod safon y cartrefi yr un fath â'n cartrefi newydd. Rydym yn gosod offer monitro yn y cartrefi er mwyn ein galluogi i fesur effaith perfformiad. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y gwaith rydym yn ei wneud i'n cartrefi yn bodloni disgwyliadau ein model data ac yn bwysicach, bod ein tenantiaid yn elwa.
Eleni rydym yn parhau â’r gwaith. Rydym ar hyn o bryd yn manteisio ar y cyfle i wneud gwaith ôl-ffitio ar ganran o'n tai gwag, ac am y tro cyntaf rydym yn gweithio ar gartrefi y mae tenantiaid yn byw ynddynt ar hyn o bryd, sydd wrth gwrs yn cyflwyno heriau ychwanegol. Mae hyn yn bwysig wrth i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol ac er mwyn deall yn well yr hyn y gallwn ei gyflawni ar gyfer ein stoc dai a dysgu gwersi pwysig am effaith y gwaith hwn ar denantiaid, ar gostau, ar sgiliau a'r llafur sy'n ofynnol ac wrth gwrs, effeithiolrwydd y mesurau a gymerwyd. Mae'n rhaid i ni wneud hyn wrth symud ymlaen fel y gallwn ddysgu oherwydd mae'n rhaid i ni ei gael yn iawn. Erbyn hyn mae gennym ddealltwriaeth dda o'n cyfraddau perfformiad ynni.
Ar hyn o bryd, rydym yn dadansoddi ein data ar gyflwr stoc er mwyn datblygu ein rhaglen waith buddsoddi am y pum mlynedd nesaf. Bydd hyn i gyd yn cael ei adlewyrchu yng nghynllun busnes y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2024/25. Mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gwneud yr hyn sy'n mynd i lwyddo i'n cartrefi, ac wrth gwrs mae'n rhaid i ni gofio bod ein stoc o gartrefi wedi cael eu hadeiladu dros gyfnod o ddegawdau ac na fydd un dechnoleg yn berthnasol i bob cartref. Os symudaf ymlaen i ail ran y cwestiwn - oes unrhyw rwystrau? Oes, mae rhwystrau y mae'n rhaid i ni eu goresgyn. Rwy'n hynod falch bod Llywodraeth Cymru eleni wedi cyhoeddi fersiwn drafft o Safon Ansawdd Tai newydd Cymru at ddibenion ymgynghori. Dyma'r llawlyfr i Awdurdodau Lleol o ran safonau a chysondeb ar gyfer cartrefi yng Nghymru am y blynyddoedd i ddod. Mae'n rhaid i mi gyfaddef ei fod wedi cymryd cryn amser i'n cyrraedd ni, ond rwy'n gobeithio y bydd y papur terfynol yn ei le yn fuan.
Yn ôl y disgwyl, bydd datgarboneiddio ein cartrefi yn rhan fawr o'r Safonau newydd ac fel y soniais yn gynharach, rydym eisoes wedi dechrau ar y daith hon ond mae'n rhaid i ni gael canllawiau clir gan Lywodraeth Cymru ar gyllid ar gyfer y dyfodol er mwyn cyrraedd y Safonau yn llawn. Mae heriau mewn perthynas â chost uchel i wella ffabrig ein holl gartrefi - gosod paneli solar PV ac ati, ac wrth gwrs bydd yn rhaid i'r gwaith arferol o ddarparu toeau a ffenestri newydd ac ati yn parhau fel y mae ar hyn o bryd ac felly bydd cost ychwanegol. Hyd yn hyn, rydym wedi gwneud ceisiadau llwyddiannus am ystod o grantiau ond bydd canllawiau clir ynghylch cyllid gan Lywodraeth Cymru yn rhoi sicrwydd pendant i ni wrth i ni symud ymlaen. Wrth i'r blynyddoedd fynd rhagddynt, gallai capasiti cyfyngedig y grid cenedlaethol fod yn broblem wrth i ni ddibynnu mwyfwy ar systemau trydanol yn ein cartrefi er mwyn ymladd yn erbyn yr allyriadau carbon. Gan ddefnyddio deunyddiau sy'n cael eu cynhyrchu'n lleol, mae hyn yn bwysig i ni fel sir. Mae diffyg cynhyrchwyr lleol mewn perthynas â deunyddiau ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn newid yn y dyfodol. Ac wrth gwrs, wrth i'r angen am ddeunyddiau a thechnoleg gynyddu felly hefyd bydd y sgiliau a'r galw am grefftwyr arbenigol.
Felly dyna lle'r ydym arni ar hyn o bryd. Mae llawer o heriau, ac rwy'n si?r y bydd mwy yn dod ar ein traws o bryd i'w gilydd. Fodd bynnag, rwy'n hyderus iawn y byddwn yn goresgyn y rhain a byddaf yn falch iawn pan fydd y broses yn gallu symud ymlaen yn gyflymach nag ar hyn o bryd, ac wrth i ni gael y Safonau newydd mae posibilrwydd bydd hynny'n digwydd. Ond mae'r hyn rydym wedi'i wneud ar ychydig gannoedd o gartrefi yn gweithio ac yn gweithio'n dda.