Agenda item

ADOLYGIAD DERBYNIADAU YSGOLION CYNRADD (CODI'N 4 OED)

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorwyr B. W. Jones a H. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac wedi aros yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ynghylch yr eitem hon a'r bleidlais ddilynol].

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn adolygu trefniadau'r Awdurdod ar gyfer derbyn disgyblion i ysgolion cynradd. Roedd yr adroddiad wedi'i baratoi mewn ymateb i'r argymhellion a oedd yn deillio o'r Adolygiad Gorchwyl a Gorffen o'r ddarpariaeth bresennol ar gyfer addysg blynyddoedd cynnar, gofal plant a chyfleoedd chwarae a gynhaliwyd gan y Pwyllgor yn 2018/19.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o'r trefniadau presennol ar gyfer derbyniadau meithrin ac amser llawn i ysgolion cynradd yn Sir Gaerfyrddin, ynghyd â chymhariaeth o'r trefniadau derbyn amser llawn a rhan-amser â phob Awdurdod Lleol arall yng Nghymru yn seiliedig ar ymchwil. Yn hyn o beth, cadarnhawyd mai Sir Gaerfyrddin oedd yr unig Awdurdod yng Nghymru â pholisi 'plant sy'n codi'n 4 oed'.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r heriau sy'n cael eu hwynebu o ran lle a chapasiti ysgolion, anghysondeb ag Awdurdodau eraill, darpariaeth meithrin a blynyddoedd cynnar, cyllid a'r broses dderbyn ei hun.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried goblygiadau posibl unrhyw newidiadau i'r trefniadau presennol o ran canfyddiad rhieni, darpariaeth deg, ailddosbarthu cyllid a gofynion ymgynghori. Wrth roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am amserlenni, dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant mai dyddiad gweithredu unrhyw newidiadau i drefniadau derbyn amser llawn dysgwyr fyddai mis Medi 2025, ac y byddai gwaith ymgynghori yn dechrau yn y dyfodol agos.  

 

Rhoddwyd sylw i nifer o sylwadau ac ymholiadau, fel a ganlyn:

 

Dywedwyd bod derbyn disgyblion bob tymor yn creu heriau i wasanaethau addysg o ran prosesau gweinyddu ac y gallai hefyd roi pwysau sylweddol ar ysgolion o ran trefnu ystafelloedd dosbarth.  Yn hyn o beth, awgrymwyd y gallai dyddiad dechrau penodol ym mis Medi fod yn ffordd briodol ymlaen, yn dibynnu ar ganlyniad yr ymarfer mapio a oedd ar waith ar hyn o bryd, yn ogystal â ffactorau eraill sy'n gysylltiedig â datblygu'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

 

Cydnabu'r Pwyllgor fod y gwahaniaeth sy'n cael ei greu yn sgil y trefniant blynyddoedd cynnar/meithrin economi gymysg yn cael ei ystyried yn annheg gan Gyrff Llywodraethu a chymunedau, yn enwedig oherwydd yr effaith andwyol ar ardaloedd gwledig.   Yn unol â hynny, dywedwyd y byddai dull cyson yn sicrhau darpariaeth deg. Rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor bod yr ymarfer mapio i nodi'r ddarpariaeth bresennol a gofynion pob ardal yn y dyfodol ar fin cael ei gwblhau.

 

Pwysleisiwyd cyfraniad pwysig darpariaeth addysg y blynyddoedd cynnar i'r Pwyllgor.  Yn hyn o beth, cydnabu'r Pwyllgor gymhlethdodau'r gwahanol ffactorau a'r goblygiadau sy'n ymwneud â'r adolygiad. Mewn ymateb i sylw y dylid defnyddio dull cyson, sef y dylai pob plentyn 3 oed yn y sir fod yn gymwys i gael addysg ran-amser yn ei ardal leol, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod y ddarpariaeth yn cael ei chynnig drwy drefniant blynyddoedd cynnar/meithrin economi gymysg ar hyn o bryd ac na ellid gwarantu gwneud yr holl ysgolion yn rhai 3-11 oed.  Fodd bynnag, byddai canlyniadau'r dadansoddiad o fylchau yn pennu'r ddarpariaeth orau ar gyfer pob ardal yn y Sir. 

 

Awgrymwyd y dylid cysylltu â darparwyr hyfforddiant fel rhan o'r ymarfer mapio ysgolion parhaus i gael dealltwriaeth bellach o nifer y staff sydd ar gael ar hyn o bryd, yn ogystal ag amcanestyniadau yn y dyfodol mewn gwahanol ardaloedd.  Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant sicrwydd bod trafodaethau wedi dechrau gyda'r Mudiad Meithrin am ofynion staffio a recriwtio mewn ymdrech i sicrhau bod darpariaeth staffio ddigonol ar gael sydd â'r sgiliau angenrheidiol i gyflawni'r rôl.

 

Wrth ystyried pwysigrwydd Niferoedd Derbyn (ND) a'r effaith ar drefniadau derbyn, eglurwyd bod yr ND ar gyfer pob ysgol wedi'i gyfrifo gan ddefnyddio'r fformiwla capasiti a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2011.  Cadarnhaodd y Pennaeth Mynediad i Addysg fod y cyfrifiad capasiti yn cael ei adolygu gan Lywodraeth Cymru yn unol â chanllawiau ardal ar gyfer adeiladau newydd.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd y byddai'r gost sy'n gysylltiedig â Pholisi Plant sy’n Codi'n 4 Oed yr Awdurdod yn cael ei chynnwys yn y broses ymgynghori. 

  

Roedd y Pwyllgor yn croesawu'r adolygiad a gofynnodd am ddechrau'r broses ymgynghori yn gyflym er mwyn cael barn rhanddeiliaid allweddol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

5.1

nodi'r adroddiad;

 

5.2

bod y sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor uchod mewn perthynas â'r Adolygiad Derbyn Disgyblion i Ysgolion Cynradd (Plant sy'n Codi'n 4 Oed) yn cael eu hanfon at y Cabinet i'w hystyried.

 

 

Dogfennau ategol: