Agenda item

AROLYGIAD ESTYN O WASANAETHAU ADDYSG LLYWODRAETH LEOL SIR GAERFYRDDIN

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorydd S. L. Rees wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r mater gael ei drafod ond ni phleidleisiodd yn ei gylch].

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried canlyniad arolygiad Estyn o Wasanaethau Addysg Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2023 yn unol â'r fframwaith Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol.

 

Roedd yr arolygiad yn rhoi sylw i 3 phrif faes yn ymwneud â deilliannau, gwasanaethau addysg ac arwain a rheoli. Daeth yr arolygiad i'r casgliad bod gwasanaethau addysg Sir Gaerfyrddin yn cael eu harwain yn gadarn gan uwch swyddogion ac aelodau etholedig, a oedd yn rhannu gweledigaeth glir ar gyfer addysg yn yr awdurdod.

Nododd yr arolygiad berthnasoedd gweithio cynhyrchiol gydag ysgolion a darparwyr eraill, a bod prosesau gwella ysgolion gwerthfawr a bwriadus ar waith.

 

At ei gilydd, ystyriwyd bod trefniadau moderneiddio ac ad-drefnu ysgolion yr Awdurdod yn gadarn, a bod darpariaeth addas ar waith i ddiwallu anghenion disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Cyfeiriwyd hefyd at y gwaith diweddar a wnaed gan wasanaethau addysg i fireinio eu darpariaeth i gefnogi a gwella ymddygiad mewn ysgolion, a braf oedd nodi bod canlyniadau cadarnhaol eisoes wedi dod i'r amlwg yn hyn o beth.

 

Nododd yr adroddiad fod deilliannau arolygiadau o ysgolion Sir Gaerfyrddin yn amrywio dros amser, er yn fwy diweddar, ers i Arolygiadau Estyn ailddechrau yn 2022, bod y gyfran sydd angen gweithgarwch dilynol gan Estyn wedi lleihau.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y meysydd i’w gwella a oedd wedi arwain at gyfanswm o 3 argymhelliad mewn perthynas â gwella presenoldeb disgyblion yn ysgolion yr Awdurdod, cryfhau prosesau gwella ysgolion, yn enwedig ar gyfer ysgolion uwchradd, a mireinio ymagweddau at hunanwerthuso a chynllunio gwelliant.

 

Mynegodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg ei werthfawrogiad am ymdrechion rhagorol pawb a oedd yn gysylltiedig â hyn i sicrhau bod yr addysg orau posibl yn parhau i gael ei darparu i blant a phobl ifanc.

 

Rhoddwyd sylw i nifer o sylwadau ac ymholiadau, fel a ganlyn:

 

Croesawodd y Pwyllgor y farn gadarnhaol a nodwyd yn yr adroddiad a chanmolodd yr adran gwasanaethau addysg, ysgolion a disgyblion fel ei gilydd am yr adroddiad eithriadol, a oedd yn rhoi ffocws clir i'r Awdurdod yn y dyfodol wrth ddarparu gwasanaethau addysgol ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

 

Wrth ystyried y meysydd i'w gwella a nodwyd yn yr adroddiad, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am y cynnydd a wnaed mewn ymateb i bob argymhelliad ac fe'i sicrhawyd wrth nodi bod gwaith eisoes wedi dechrau i roi sylw i agweddau ar yr argymhellion cyn yr arolygiad gan eu bod eisoes wedi'u nodi drwy brosesau hunanwerthuso a chynllunio gwelliant yr Awdurdod.  Cydnabu'r Pwyllgor yr ymrwymiad clir i wella presenoldeb disgyblion yn yr Awdurdod, ac roedd cynnydd eisoes wedi'i gyflawni mewn llawer o ysgolion.  Awgrymwyd y gellid rhoi cymorth i'r gwasanaeth addysg fynd i'r afael â'r mater cenedlaethol hwn drwy ddull partneriaeth sy'n cynnwys rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys aelodau'r Pwyllgor, rhieni, llywodraethwyr, athrawon, disgyblion a mewnbwn gan Lywodraeth Cymru i adolygu'r data sydd ar gael a nodi arferion gorau i lywio strategaeth y gwasanaeth addysg yn y dyfodol.  Cyfeiriwyd at ymchwil a wnaed gan 'ParentKind' ar ran Llywodraeth Cymru a oedd yn ystyried yr agweddau sydd wedi newid at bresenoldeb yn yr ysgol ers pandemig Covid-19.  Yn hyn o beth, cafwyd trafodaeth ynghylch yr ymgyrch barhaus i fynd i'r afael â'r mater absenoldeb o'r ysgol yn ystod y tymor ar gyfer gwyliau teuluol a'r angen i Lywodraeth Cymru archwilio gwahanol fodelau addysg e.e. blwyddyn academaidd pedwar tymor a allai gael effaith gadarnhaol ar lefelau presenoldeb.

 

Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod ysgolion yn cofnodi amrywiaeth o ddata, gan gynnwys achosion o fwlio, ond byddai'r wybodaeth hon bellach yn cael ei chasglu gan yr adran gwasanaethau addysg i nodi tueddiadau allweddol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

4.1

nodi'r adroddiad;

 

4.2

bod y Cadeirydd yn cydgysylltu â'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant i benderfynu ar ddull priodol i'r Pwyllgor gefnogi’r Gwasanaethau Addysg i wella lefelau presenoldeb disgyblion.

 

Dogfennau ategol: