Agenda item

ADOLYGIAD O'R POLISI YNGHYLCH TALIADAU AM WASANAETHAU TAI

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu’r 3 opsiwn canlynol o ran gweithredu Polisi yn y dyfodol ynghylch Taliadau am Wasanaethau a hynny ar gyfer taliadau a wneir gan Ddeiliaid Contract (tenantiaid neu lesddeiliaid) am wasanaethau ychwanegol a ddarperir gan y Cyngor o ran mannau cymunedol a rennir neu gyfleusterau mewn blociau o fflatiau sy’n eiddo i’r Cyngor, cynlluniau gwarchod neu brosiectau tai â chymorth a oedd yn fwy na’r rhent cyffredinol, fel y nodir yn yr adroddiad:

 

·       Opsiwn 1: Gwneud Dim – Cadw’r Polisi presennol ynghylch Taliadau am Wasanaethau gyda chap ar unrhyw gynnydd blynyddol posibl o ran ei dâl rhent cyffredinol (gan gynnwys Taliadau am Wasanaethau), sef uchafswm o £3 o gynnydd bob wythnos.

·       Opsiwn 2: Gwaredu’r cap yn gynyddrannol – Adolygu a diwygio’r polisi presennol gyda’r bwriad o gyflwyno cynnydd cynyddrannol dros gyfnod o 3 blynedd er mwyn sicrhau bod yr holl daliadau am wasanaethau’n unol ag adennill costau’n llawn. Bydd y cap yn dod i rym dim ond pan fydd taliadau’n fwy na’r cap wythnosol y cytunwyd arno.

·       Opsiwn 3: Gwaredu’r Cap – Gwaredu’r cap yn llwyr o’r polisi presennol gyda deiliaid contract yn talu’r gost yn llawn am ddefnydd o 2024/25.

 

Nododd y Pwyllgor fod y Cyngor, o dan y Polisi presennol ynghylch Taliadau am Wasanaethau, yn gweithredu ‘cap’ a oedd yn golygu bod unrhyw gynnydd o ran taliadau am wasanaethau’n cael ei gyfyngu i uchafswm o £3 yr wythnos, gyda’r cynnydd yn y gost fesul tenant yn amrywio yn ôl y math o lety a lefel y costau am wasanaethau yr eir iddynt. Talwyd unrhyw wahaniaeth rhwng lefel y cynnydd yng nghostau’r Awdurdod, a’r hyn a dalwyd gan ddeiliaid contract o ganlyniad i’r cap, o’r Cyfrif Refeniw Tai (HRA), ac yn seiliedig ar wariant gwirioneddol 2021/22, sef £903k wedi’i osod yn erbyn £762k o gostau a adenillwyd, roedd y Cyfrif Refeniw Tai wedi talu am y diffyg o £141k. Ond, yn dilyn cynnydd sylweddol mewn costau cyfleustodau ar gyfer 2022/23, gallai’r gwariant gwirioneddol yn y dyfodol fod yn sylweddol uwch, a phe byddai’r cap presennol yn cael ei gadw byddai’r bwlch rhwng y costau yr eir iddynt a’r costau a gaiff eu hadennill yn cynyddu, gan effeithio ymhellach ar Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai a’i allu i fuddsoddi mewn darparu gwasanaethau.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Nodwyd bod 40% o denantiaid ar hyn o bryd a oedd yn elwa ar y cap yn cyrraedd uchafswm y cap, sef £3 bob wythnos. Yn flaenorol, roedd hynny’n 25%.

·      Mynegwyd pryderon y gallai gwaredu’r cap arwain at rai tenantiaid yn mynd i ôl-ddyledion. Dywedodd y Pennaeth Tai a Diogelu’r Cyhoedd y byddai’r Cyngor, o dan amgylchiadau o’r fath, yn gweithio gyda’r tenantiaid i liniaru yn erbyn hynny ac i helpu i’w hatal rhag mynd i ôl-ddyledion. Yn ogystal, gallai taliadau Budd-daliadau Tai a Chredyd Cynhwysol hefyd gwmpasu rhan o unrhyw gynnydd, ac mai rhan o rolau’r swyddogion oedd sicrhau bod tenantiaid yn cael y budd-daliadau cywir.

·        Cyfeiriwyd at Opsiwn 2 a’r effaith bosibl ar denantiaid ar ddiwedd y cyfnod o 3 blynedd pan fyddai’r holl daliadau am wasanaethau’n cael eu seilio’n unol ag adennill costau’n llawn. Awgrymwyd, o ystyried y pryderon uchod ynghylch y posibilrwydd y byddai tenantiaid yn mynd i ôl-ddyledion ar ôl gwaredu’r cap, y dylai’r sefyllfa gael ei hadolygu’n rheolaidd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

3.1

argymell i’r Cabinet y dylid mabwysiadu Opsiwn 2 fel Polisi’r Cyngor yn y dyfodol ynghylch Taliadau am Wasanaethau ond ei fod yn cael ei adolygu’n rheolaidd

3.2

Cyfleu pryderon y Pwyllgor i’r Cabinet ynghylch yr effaith bosibl y gallai’r hinsawdd economaidd bresennol, yr argyfwng costau byw a’r polisi newydd ei chael ar allu’r tenantiaid i dalu/mynd i ôl-ddyledion a bod swyddogion yn darparu cymorth/cefnogaeth i denantiaid o ran rheoli eu cyllidebau lle bo angen.

 

Dogfennau ategol: