Agenda item

ADRODDIAD ALLDRO CYLLIDEB REFENIW 2022/23

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Alldro'r Gyllideb Refeniw ar gyfer 2022/23 a oedd yn nodi'r sefyllfa ariannol fel yr oedd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Nodwyd bod y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn dangos amrywiant net o -£6,254k o gymharu â chyllideb gymeradwy 2022/23.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:-

 

·         Crynodeb o'r sefyllfa ar gyfer y gwasanaethau gyda chylch gorchwyl y Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd;

·         Adroddiad ar Brif Amrywiannau cyllidebau y cytunwyd arnynt;

·         Amrywiannau manwl;

·         Manylion y sefyllfa Monitro Arbedion ar gyfer diwedd y flwyddyn.

 

Nododd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod llawer o linellau'r gyllideb yn amrywio'n fawr i'r gyllideb a osodwyd yn ystod mis Chwefror 2022 a bod hyn yn adlewyrchu'r ansicrwydd o ran galw, cost a chapasiti yn y meysydd gwasanaeth.  Dywedwyd bod y pwysau demograffig o ran gwasanaethau dysgu ac anabledd yn parhau i gael effaith ar y gyllideb ar gyfer lleoliadau preswyl a llety â chymorth. 

 

Nododd y Pwyllgor fod y pwysau a ddaeth i'r amlwg yn y Gwasanaethau Plant yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf o ganlyniad i bwysau staffio a chymhlethdod y ddarpariaeth ofal, a bod hyn yn bryder sylweddol i'r sefyllfa gyllidebol gorfforaethol.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac roedd y prif faterion fel a ganlyn:

 

·    Gofynnwyd a oedd y gyllideb ychwanegol a ddyrannwyd yn 2022/23 i daclo'r broblem o recriwtio gweithwyr cymdeithasol wedi cael ei gwario'n ddoeth gan fod ystod eang o fentrau wedi'u lansio.

Bu i'r Pennaeth Plant a Theuluoedd ddweud unwaith eto nad oedd modd gorbwysleisio'r her wynebai'r Awdurdod o ran recriwtio gweithwyr cymdeithasol cymwys a'i bod yn her genedlaethol.  Dywedodd fod llawer o Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn gweithredu gyda chanran uchel o weithwyr cymdeithasol asiantaeth o fewn eu gweithlu ond bod Sir Gaerfyrddin wedi gallu stopio hyn i raddau helaeth. Soniwyd bod dull cyson cydgysylltiedig ar draws yr is-adrannau o ran recriwtio ym maes gwaith cymdeithasol.  Roedd llawer o gamau wedi'u gweithredu mewn ymateb i'r adborth a dderbyniwyd drwy arolwg gweithwyr cymdeithasol ac un ohonynt oedd fframwaith dilyniant ymarferydd.  Dywedwyd bod Gofal Cymdeithasol Cymru wedi rhoi gwybod yn ddiweddar fod nifer y bobl oedd yn gwneud cais am gyrsiau gwaith cymdeithasol wedi cynyddu a bod hyn oherwydd y cynnydd yn y fwrsariaeth oedd ar gael. 

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion am fenter yr Academi Gofal.  Roedd 12 o bobl ar y rhaglen ar hyn o bryd ac wedi cael lleoliadau mewn cyfleusterau preswyl a gwasanaethau dydd tra'n ymgymryd â'u cymwysterau NVQ ac yna byddent yn cael eu cefnogi yn y pen draw i ennill eu gradd Gwaith Cymdeithasol.

 

·    Mewn ymateb i gwestiwn yngl?n â beth fyddai'r effaith ar y gyllideb pe bai pob swydd yn cael ei llenwi, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod galw heb ei ddiwallu a phe bai swyddi mewn meysydd fel gofal cartref yn cael eu llenwi, amcangyfrifwyd y byddai 2m arall yn cael ei wario.  Roedd modelau gofal amgen wedi'u rhoi ar waith i leihau cost a nifer y staff oedd eu hangen.  Mynegwyd mai un o'r heriau oedd mewn perthynas â swyddi mewn meysydd fel Gwasanaethau Plant a bod angen gweithwyr cymdeithasol mwy profiadol yn yr achosion hyn i hwyluso dychwelyd plant yn gynnar i'w teuluoedd. Roedd y llwyddiant o ran recriwtio o fewn gofal preswyl / pobl h?n wedi galluogi'r awdurdod i gynyddu deiliadaeth a lleihau costau fel costau asiantaeth.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: