Agenda item

DATA CÔD YMDDYGIAD 2022-23

Cofnodion:

Roedd y Pwyllgor Safonau wedi cytuno yn ei gyfarfod ar 7 Mawrth 2023, i gynnal ymarfer blynyddol arall i gasglu data cydymffurfio â'r côd gan Gynghorau Tref a Chymuned.  Rhoddodd Aelodau'r Pwyllgor ystyriaeth i ganlyniadau'r ymarfer, a oedd yn yr adroddiad.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau, yn ogystal â'r cwestiynau arferol ynghylch datganiadau o ddiddordeb a hyfforddiant côd ymddygiad, y gofynnwyd cwestiynau ychwanegol i Gynghorau hefyd ynghylch eu cydymffurfiaeth â gofynion deddfwriaethol yn ymwneud â darparu cynlluniau hyfforddi ar gyfer eu haelodau, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

 

 

 

Adroddwyd bod Cynghorau Tref a Chymuned, am y tro cyntaf, wedi cael cais i gwblhau arolwg snap ar-lein yn uniongyrchol yn hytrach na darparu ymateb ysgrifenedig i'r cwestiynau.  Roedd yr arolwg wedi cael ei anfon i'r holl Gynghorau Tref a Chymuned ddechrau mis Mai 2023 ac roedd dyddiad cau o 1 Gorffennaf 2023 ar gyfer ymatebion. Roedd nodyn atgoffa wedi cael ei anfon ym Mehefin 2023, ac roedd galwadau ffôn dilynol wedi cael eu gwneud i'r rheiny oedd heb gwblhau'r arolwg erbyn diwedd Gorffennaf.

 

Nododd yr aelodau fod 58 o'r 72 Cyngor wedi ymateb adeg paratoi'r adroddiad. Roedd hyn yn ostyngiad o gymharu â'r 67 ymateb gafwyd y flwyddyn flaenorol. 

 

Er bod yr arolwg yn gyffredinol yn awgrymu bod yna gydymffurfiad da o hyd â'r côd gan Gynghorwyr Tref a Chymuned, roedd yr Aelodau'n siomedig mai dim ond hanner y Cynghorau oedd wedi mabwysiadu cynllun hyfforddiant\ yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Roedd Aelodau'n awyddus i ymgysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned i'w hatgoffa o'r gofyniad i fabwysiadu cynllun hyfforddiant. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai'n llunio llythyr ar ran y Pwyllgor.

 

Wrth nodi mai hon oedd y flwyddyn gyntaf lle roedd gofyn i Gynghorau Tref a Chymuned fabwysiadu cynllun hyfforddiant, dywedwyd bod posibilrwydd nad oedd y  Cynghorau wedi mabwysiadu cynllun hyfforddiant pan gwblhawyd yr arolwg, gan y byddai'n cael ei gynnwys fel arfer fel eitem ar yr agenda yn y cyfarfod cyntaf yn ôl wedi toriad yr haf ym mis Medi.  Gan gydnabod bod yr amseru o bosibl yn ffactor, nid oedd yn esgus dros beidio â chydymffurfio â deddfwriaeth statudol, a'r teimlad oedd byddai'r Cynghorau'n dod yn gliriach ynghylch y mater ymhen amser. Bernid byddai llythyr gan y Pwyllgor Safonau i'w hatgoffa o'u dyletswydd statudol yn fuddiol, ynghyd ag arolwg dilynol unwaith eto i weld beth oedd y gyfradd fabwysiadu.

 

Ar y cyfan, nodwyd bod lefel dda o gydymffurfiaeth o ran côd ymddygiad ar draws Cynghorau Tref a Chymuned.

 

Mewn ymateb i ymholiadau a godwyd ynghylch sancsiynau yn achos diffyg cydymffurfio, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, gan fod cynllun hyfforddiant yn ofynnol fel rhan o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, y byddai achosion o ddiffyg cydymffurfio yn cael eu cyfeirio at yr Ombwdsmon.  Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau, er nad oedd gan y Pwyllgor Safonau rôl orfodi o ran y ddeddfwriaeth, ei fod yn gallu cynghori, darbwyllo a rhoi arweiniad i'r Cynghorau Tref a Chymuned ynghylch y gofyniad i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth.

 

Mewn ymateb i ymholiad pellach, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod 5 o'r 37 cynllun hyfforddiant a fabwysiadwyd wedi nodi nad oedd yn ofynnol i Gynghorwyr fynychu hyfforddiant côd ymddygiad.  Eglurwyd, er nad oedd yr hyfforddiant Côd Ymddygiad yn orfodol, fod y canllawiau ar gyfer mabwysiadu cynllun hyfforddiant yn awgrymu'n gryf y dylai'r Cynghorwyr gael hyfforddiant Côd Ymddygiad.  Fodd bynnag, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth yr Aelodau fod canllawiau mwy diweddar ar gael, a chynigiodd gyfeirio atynt yn y llythyr atgoffa i'r Cynghorau Tref a Chymuned.  Cytunodd Aelodau'r Pwyllgor i hyn.

 

Er mwyn helpu i gynyddu'r gyfradd oedd yn mabwysiadu cynllun hyfforddiant, awgrymwyd y byddai'n fuddiol cynnwys cynllun hyfforddiant enghreifftiol i Gynghorau Tref a Chymuned ei ddefnyddio.

 

I grynhoi sylwadau ac awgrymiadau'r Pwyllgor, byddai Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol yn anfon llythyr i'r holl gynghorau Tref a Chymuned:-

 

·       Yn atgoffa Cynghorau o'u dyletswydd i fabwysiadu cynllun hyfforddiant yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, gan gyfeirio at ganllawiau Llywodraeth Cymru;

·       Yn rhoi gwybod i'r Cynghorau byddai'r ymarfer hwn yn cael ei ailadrodd y flwyddyn nesaf;

·       Cynllun hyfforddiant enghreifftiol i'w gynnwys.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

 

6.1.1   nodi'r Data Côd Ymddygiad a gasglwyd mewn perthynas â Chynghorau Tref a Chymuned;

6.1.2   anfon llythyr atgoffa gan y Pwyllgor Safonau, yn cynnwys awgrymiadau'r Pwyllgor, i'r holl Gynghorau Tref a Chymuned.

 

 

Dogfennau ategol: