Agenda item

CWESTIWN GAN MICHAELA BEDDOWS

Anghenion Addysgol Arbennig: Ni roddwyd unrhyw ystyriaeth i blant sydd ag anghenion addysgol arbennig a gynghorir fel arfer i fynd i ffrwd Saesneg yn unig, neu i'r un ffrwd ag iaith eu cartref. Mae plant sydd ag oedi cyffredinol yn ei chael hi'n anodd ag un iaith, heb sôn am ddwy, felly drwy gael gwared ar y ddwy ffrwd bydd y plant hyn yn cael eu cau allan o'r ysgol. Nid yw plant sydd ag Anhwylder Sbectrwm Awtistig yn gallu ymdopi o gwbl â newid i'w trefn feunyddiol felly, pe baent yn dechrau mewn ysgol cyfrwng Cymraeg ac yna'n methu ag ymdopi ac yn gorfod symud i ysgol cyfrwng Saesneg, fe fyddai'r newid hwnnw'n cael effaith anferthol arnynt. Sut y cafodd hyn ei esgeuluso a pham na chafodd sylw?”

 

Cofnodion:

“Anghenion Addysgol Arbennig: Ni roddwyd unrhyw ystyriaeth i blant sydd ag anghenion addysgol arbennig a gynghorir fel arfer i fynd i ffrwd Saesneg yn unig, neu ffrwd iaith yr aelwyd. Mae plant sydd ag oedi cyffredinol yn cael trafferth gydag un iaith heb sôn am ddwy, felly drwy waredu’r ffrwd ddeuol byddai hyn yn eithrio’r plant hyn rhag mynychu’r ysgol. Ni all plant sydd ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig ymdopi â newid mewn trefn, felly petaent yn cychwyn ac wedyn yn cael trafferth mewn ysgol Cyfrwng Cymraeg ac wedyn yn gorfod symud i ysgol Cyfrwng Saesneg, byddai’r newid hwnnw yn cael effaith enfawr arnynt. Sut yr esgeuluswyd hyn a pham nad aethpwyd i’r afael â hyn?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

“Polisi Cyngor Sir Caerfyrddin yw y dylai ei holl ysgolion fod yn gynhwysol, a bod plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu haddysgu mewn lleoliad prif ffrwd ochr yn ochr â'u cyfoedion lle bynnag y bo modd.Mae modd gwneud hyn yn y rhan fwyaf o ddigon o'r achosion, sydd o fudd i'r holl blant.

 

Mae cyfundrefn ysgolion Sir Gaerfyrddin yn gwasanaethu cyfanswm o ryw 27,000 o ddisgyblion, ac er bod y gyfundrefn wedi'i chynllunio i ddiwallu anghenion dysgwyr drwy ymagwedd gyffredinol a chynhwysol, yn achos nifer bychan o blant sydd ag anghenion ychwanegol cymhleth a sylweddol nid yw hynny'n bosibl bob amser ac mae darpariaeth arbenigol yn cynnig lleoliadau dysgu mwy priodol.

 

Er mwyn gallu sicrhau y caiff anghenion yr holl ddysgwyr eu diwallu, mae'r gyfundrefn ysgolion yn Sir Gaerfyrddin yn cynnwys darpariaeth helaeth ar gyfer plant sydd ag anghenion ychwanegol. Cynigir addysg mewn ysgol arbenigol i'r plant sydd â'r anghenion mwyaf difrifol neu gymhleth pan na fo lleoliad prif ffrwd yn addas i'w hanghenion neu pan fo'n well gan y rhieni'r math hwn o leoliad.Mae gan rai ysgolion uwchradd a chynradd ledled y sir unedau arbenigol ar gyfer plant sydd ag anghenion penodol, megis awtistiaeth, namau synhwyraidd, neu oedi o ran lleferydd ac iaith. Mae'r Adran Addysg a Gwasanaethau Plant yn darparu cymorth ychwanegol penodol yn yr ysgolion, lle bo modd, fel bod cynifer o blant â phosibl yn aros yn eu hysgol leol. Er ei bod yn well gan y Cyngor ddiwallu anghenion yr holl blant mewn ysgol brif ffrwd pryd bynnag y bo modd, nid yw hyn yn ymarferol bob amser.

 

Mae gan yr holl ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol gynlluniau unigol penodol sy'n seiliedig ar eu hamgylchiadau, a darperir rhaglen gymorth bwrpasol i gyd-fynd ag anghenion yr unigolyn.Yn gyffredinol nid yw 'angen dysgu ychwanegol' yn rhwystr o ran dysgu dwy iaith.  Fodd bynnag, bydd achosion prin pan fydd plentyn yn cael diagnosis o gyflwr sy'n golygu nad yw addysg gwbl ddwyieithog yn addas i'r plentyn. Dan amgylchiadau o'r fath mae ymarferwyr proffesiynol yn llunio pecyn cymorth ac yn ei drafod â'r rhieni.  Trefnir bod y plentyn yn mynychu ysgol briodol lle gellir diwallu ei anghenion. Mae'n bosibl ar adegau prin na ellir diwallu anghenion plentyn yn yr ysgol leol, er gwaethaf ymrwymiad y Cyngor i addysg gynhwysol, gan ei bod yn syml ddigon yn anymarferol inni ddarparu ar gyfer pob angen ym mhob ysgol.

 

Ym mhrofiad y Cyngor hwn mae'r mwyafrif llethol o'r disgyblion hynny sydd ag ystod eang o anghenion dysgu ychwanegol ac sy'n amrywio o ran eu gallu, yn llwyddo yn ein hysgolion ni waeth beth fo iaith y dysgu ond mae'r Cyngor yn cydnabod bod, mewn rhai achosion prin iawn, blant na ellir diwallu eu hanghenion heblaw trwy ddarpariaeth mewn uned arbenigol. 

 

O ran y cynnig ar gyfer Llangennech, bydd y ddarpariaeth a roddir i'r plant sydd ag anghenion ychwanegol yn parhau drwy gyfrwng yr iaith y maen nhw'n cael eu haddysg ar hyn o bryd.Os gweithredir y cynnig, bydd yr holl ddisgyblion yn y dyfodol yn cael y gefnogaeth hon drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf.”