Agenda item

CWESTIWN GAN MR NIGEL HUGHES I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWETIHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Mae rhieni wedi clywed llawer o wrth-ddweud o ran yr ieithoedd addysgu yn y dosbarthiadau derbyn, gan beri dryswch a gofid iddynt ynghylch yr effaith bosibl y mae'r sefyllfa hon yn ei chael ar eu plant. Yn ddiweddar gwnaed datganiad gan Gareth Jones a oedd yn gwrthbrofi'r honiadau fod 'Ysgol Babanod Llangennech wedi gweithredu'n anghyfreithlon o ran darpariaeth iaith yn y Cyfnod Sylfaen.'  Aeth ymlaen i ddweud 'Mae'r Cyngor Sir am sicrhau'r holl rieni fod yr honiad hwn yn gwbl anwir. Mae'r ddarpariaeth yn yr ysgol yn gwbl briodol, mae'r ysgol yn parhau i berfformio i safonau uchel ac mae'r disgyblion yn cael deilliannau da.'  Diddorol yw nodi nad yw'r datganiad hwn yn taflu goleuni ar ddim mewn gwirionedd...yn hytrach mae'n ychwanegu at y dryswch.  Yn y cyfarfod Craffu ar 23ain Mai 2015, dywedodd Mr Rob Sully fod y Dosbarthiadau Derbyn yn Gymraeg, ond yn y cyfarfod i rieni newydd rai wythnosau'n ôl dywedwyd wrth yr athrawon eu bod yn cael eu haddysgu yn Saesneg a Chymraeg.  Hefyd mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dweud wrth rai rhieni sydd wedi cysylltu ag ef fod y dosbarthiadau derbyn yn rhai lle addysgir yn Gymraeg.  Cymraeg yn unig yw gwaith cartref a llyfrau darllen y plant. Mae gennym bryderon fod ffigurau wedi’u gweithio ac nad oedd y Ffrwd Saesneg yn gostwng yn naturiol a bod, yn hytrach, rwystrau wedi’u rhoi yn ffordd y rhieni i gyflawni’r nod Cyfrwng Cymraeg. A oedd yr Awdurdod Lleol yn ymwybodol o’r wybodaeth anghywir a ddarparwyd i rieni yngl?n â’r dosbarthiadau derbyn a’r farn wahanol? Hefyd a yw'r Awdurdod yn gallu cadarnhau'r dyddiad y bu i hyn newid i Gymraeg, pwy wnaeth gynnig hyn, a sut y rhoddwyd gwybod am hyn i'r sawl yr oedd yn effeithio arnynt, megis y rhieni?”

 

Cofnodion:

“Mae rhieni wedi clywed llawer o wrth-ddweud o ran yr ieithoedd addysgu yn y dosbarthiadau derbyn, gan beri dryswch a gofid iddynt ynghylch yr effaith bosibl y mae'r sefyllfa hon yn ei chael ar eu plant.  Yn ddiweddar gwnaed datganiad gan Gareth Jones a oedd yn gwrthbrofi'r honiadau fod 'Ysgol Babanod Llangennech wedi gweithredu'n anghyfreithlon o ran darpariaeth iaith yn y Cyfnod Sylfaen.' Dywed 'Mae'r Cyngor Sir am sicrhau'r holl rieni fod yr honiad hwn yn gwbl anwir. Mae'r ddarpariaeth yn yr ysgol yn gwbl briodol, mae'r ysgol yn parhau i berfformio i safonau uchel ac mae'r disgyblion yn cael deilliannau da.'  Diddorol yw nodi nad yw'r datganiad hwn yn taflu goleuni ar ddim mewn gwirionedd...yn hytrach mae'n ychwanegu at y dryswch.

 

Yn y cyfarfod Craffu ar 23ain Mai 2015, dywedodd Mr Rob Sully fod y Dosbarthiadau Derbyn yn Gymraeg, ond yn y cyfarfod i rieni newydd rai wythnosau'n ôl dywedwyd wrth yr athrawon eu bod yn cael eu haddysgu yn Saesneg a Chymraeg.  

 

Hefyd mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dweud wrth rai rhieni sydd wedi cysylltu ag ef fod y dosbarthiadau derbyn yn rhai lle addysgir yn Gymraeg.  Cymraeg yn unig yw gwaith cartref a llyfrau darllen y plant.

 

Mae gennym bryderon fod ffigurau wedi’u gweithio ac nad oedd y Ffrwd Saesneg yn gostwng yn naturiol a bod, yn hytrach, rwystrau wedi’u rhoi yn ffordd y rhieni i gyflawni’r nod Cyfrwng Cymraeg. A oedd yr Awdurdod Lleol yn ymwybodol o’r wybodaeth anghywir a ddarparwyd i rieni yngl?n â’r dosbarthiadau derbyn a’r farn wahanol? Hefyd a yw'r Awdurdod yn gallu cadarnhau'r dyddiad y bu i hyn newid i Gymraeg, pwy wnaeth gynnig hyn, a sut y rhoddwyd gwybod am hyn i'r sawl yr oedd yn effeithio arnynt, megis y rhieni?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

"Rwyf yn glynu wrth y datganiad a roddais i'r wasg ychydig wythnosau'n ôl, y mae Mr Hughes yn cyfeirio ato, ynghylch y trefniadau yn yr ysgol fabanod. Hefyd rwyf o'r farn fod cynnwys fy natganiad yn glir iawn.  Roedd fy natganiad yn datgan "nad oedd Ysgol Fabanod Llangennech wedi gweithredu'n anghyfreithlon", ac nid yr hyn a ddywedir yn y cwestiwn ysgrifenedig.  Y trefniant presennol yn yr ysgol yw y dysgir holl ddisgyblion y dosbarthiadau derbyn drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf, ac y defnyddir Saesneg fel cyfrwng hwyluso yn ôl anghenion y plant unigol.  Ar hyn o bryd mae gan rieni disgyblion Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 ddewis o ran gosod eu plant naill ai yn y ffrwd Gymraeg neu yn y ffrwd Saesneg.

 

Cyflwynwyd y trefniadau hynny yn sgil cynnal trafodaeth rhwng yr ysgol a'r rhieni. Roedd un o swyddogion y Cyngor yn rhan o'r trafodaethau ar gais yr ysgol.Gan fod y fenter hon wedi'i hyrwyddo gan yr ysgol, nid wyf yn gallu cadarnhau pryd y cyflwynwyd y trefniadau. Mae'r holl wybodaeth a ffigurau a ddefnyddiwyd wrth lunio'r cynnig yn gywir.

Nid wyf i na'r Adran Addysg a Gwasanaethau Plant yn ymwybodol fod y rhieni wedi cael unrhyw wybodaeth ffug honedig."

 

Gofynnodd Mr Hughes y cwestiwn atodol canlynol:-

 

"Pwy fydd yn atebol am y cam hysbysebu hwn sy'n peri bod plant yn gadael yr ysgol, a bod y gwir yn dod i'r golwg a bod y gwir wedi'i golli?"

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

"Deallaf eich pryderon a'ch sylwadau.  Ni wn am y neges e-bost, a byddaf yn ymdrin â'r mater hwnnw ar ôl darllen y neges e-bost."