Agenda item

CWESTIWN GAN MRS JACQUELINE SEWARD I'R CYNGHORYDD GARETH JONES, AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Cydnabyddir bod Cynulliad Cymru a arweinir gan y Llywodraeth Lafur wedi pennu gweledigaeth i gynyddu'r iaith Gymraeg yng Nghymru ar draws amryw agweddau ar fywyd. Mae'r Cynulliad wedi cadarnhau yn ysgrifenedig nad oes unrhyw dargedau wedi cael eu gosod o ran yr iaith Gymraeg, felly mater i bob Awdurdod Lleol yw sut y rhoddir hyn ar waith. Er enghraifft, mae gan siroedd De Cymru megis Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, a Chaerdydd bob o Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg sy'n anelu at gynyddu Cymraeg heb ddefnyddio dulliau awdurdodus. Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw elfennau cyflawnadwy o fewn unrhyw faniffesto gwleidyddol i newid drwy rym y dewisiadau iaith presennol mewn ysgolion cynradd yn y sir, heb ystyried y dewisiadau a ffefrir gan rieni a'r gymuned. A fyddech cystal â rhoi gwybod o dan ba fandad ac yn unol â pha addewidion a wnaed i'r etholwyr gan aelodau yr ymgymerir â'r fenter hon?”

 

Cofnodion:

“Cydnabyddir bod Cynulliad Cymru a arweinir gan y Llywodraeth Lafur wedi pennu gweledigaeth i gynyddu'r iaith Gymraeg yng Nghymru ar draws amryw agweddau ar fywyd. ?Mae'r Cynulliad wedi cadarnhau yn ysgrifenedig nad oes unrhyw dargedau wedi cael eu gosod o ran yr iaith Gymraeg, felly mater i bob Awdurdod Lleol yw sut y rhoddir hyn ar waith. ? Er enghraifft, mae gan siroedd De Cymru megis Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, a Chaerdydd bob o Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg sy'n anelu at gynyddu Cymraeg heb ddefnyddio dulliau awdurdodus.   Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw elfennau cyflawnadwy o fewn unrhyw faniffesto gwleidyddol i newid drwy rym y dewisiadau iaith presennol mewn ysgolion cynradd yn y sir, heb ystyried y dewisiadau a ffefrir gan rieni a'r gymuned. A fyddech cystal â rhoi gwybod o dan ba fandad ac yn unol â pha addewidion a wnaed i'r etholwyr gan aelodau yr ymgymerir â'r fenter hon?”

 

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

“Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin, fel sy'n wir am yr holl awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, gyfrifoldeb statudol o dan Ran 4 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 i lunio Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg ar gyfer ei ardal gyda golwg benodol ar wella'r modd y cynllunnir darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn codi'r safonau o ran addysgu ac o ran dysgu Cymraeg. Mae'n ofynnol i'r Cyngor bennu targedau ar gyfer ei amcanion.

 

Ym mis Ebrill 2014 bu i'r Cyngor Sir fabwysiadu'n ffurfiol strategaeth gynhwysfawr ar gyfer datblygu'r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin, gan gymeradwyo argymhellion gr?p (oedd yn gytbwys yn wleidyddol) o aelodau etholedig a oedd wedi rhoi sylw i statws y Gymraeg yn y sir yn sgil cyfrifiad 2011 o'r boblogaeth.  Mae'r strategaeth yn mynnu bod gweithredu'n digwydd o ran 73 o bwyntiau, y mae 21 ohonyn nhw'n ymwneud â'r gwasanaeth addysg.Mae'r holl argymhellion a chamau gweithredu perthnasol yn y strategaeth wedi'u cynnwys yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin.  Cafodd y strategaeth iaith gefnogaeth drawsbleidiol gan yr aelodau etholedig pan y'i mabwysiadwyd yng nghyfarfod llawn y Cyngor Sir.

Fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad i'r Bwrdd Gweithredol, mae'r cynnig yn gyson â'r polisi cenedlaethol i helaethu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn cynyddu nifer y bobl ifanc sy'n gwbl ddwyieithog, ac er mwyn galluogi rhagor o blant i elwa ar fanteision dwyieithrwydd - a gadarnheir gan waith ymchwil rhyngwladol, a gynhwyswyd hefyd yn yr adroddiad. 

Mae Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg wedi bod yn destun ymgynghori â'r cyhoedd wrth iddo gael ei baratoi ac wrth iddo gael ei adolygu'n ddiweddarach.Felly mae ei gynnwys wedi bod yn destun craffu gan y cyhoedd yn unol â'r gofynion statudol.

Gofynnodd Mrs Seward y cwestiwn atodol canlynol:-

 

"A yw Plaid Cymru yn argymell defnyddio polisïau dwrn dur yn hytrach na pholisïau democrataidd, ac ai'r nod yw cael gwared ag ysgolion cyfrwng Saesneg o'r sir?"

Ymateb y Cynghorydd G.O. Jones, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

"Fe'ch clywais yn crybwyll Plaid Cymru ond roedd yn gytundeb trawsbleidiol a gytunwyd hefyd yng nghyfarfod y Cyngor Sir gan bawb."