Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2022-2023.

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth 2022-23 fel y'i cyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau.

 

Roedd yr adroddiad yn rhestru'r gweithgareddau a wnaed yn 2022-2023 o dan y penawdau canlynol:

·      Buddsoddiadau

·      Benthyca

·      Gwarant

·      Hylifedd a Chynnyrch

·      Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys

·      Dangosyddion Darbodus

·      Prydlesu

·      Aildrefnu

 

Rhoddwyd sylw i'r materion a’r ymholiadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

  • Yn sgil sylwi bod yr adroddiad yn cynnwys sawl acronym, gofynnwyd a allai adroddiadau yn y dyfodol gynnwys geirfa, er lles y darllenydd.  Cytunodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, gyda chefnogaeth Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol, i gynnwys geirfa er mwyn helpu i ddeall y derminoleg a'r acronymau yn yr adroddiad.

 

Cyfeiriwyd at gyfradd gyfartalog enillion buddsoddiadau'r Awdurdod o 1.82% a oedd yn fwy na'r cyfraddau meincnod.  Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y cyfraddau meincnod, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol gefndir a sefyllfa bresennol y broses feincnodi.  Yn ogystal, yn dilyn penderfynu ar darged newydd ar gyfer y cyfnod dan sylw, dywedwyd mai'r "gyfradd SONIA heb ei hadlogi 90-diwrnod" gyfartalog oedd 1.81% ond mai 1.82% oedd y gyfradd wirioneddol a enillodd y Cyngor, sy'n cyfateb i berfformiad gwell o 0.01%. Rhoddwyd esboniad o'r newid o'r meincnod blaenorol o'r gyfradd LIBID 7 diwrnod.

 

  • Cyfeiriwyd at fenthyca a'r cyfraddau llog.  Wrth gydnabod bod y cyfraddau llog a briodolwyd i fenthyca £20m yn gymharol isel, mynegwyd pryderon am y risg bosibl y gallai cyfraddau llog gynyddu, felly gofynnwyd a oedd unrhyw fwriadau i wneud benthyciadau pellach.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol y bu cynnydd sylweddol mewn cyfraddau llog, yr uchaf ers y cwymp ariannol yn 2008, ond yn ystadegol dros nifer o ddegawdau nid oedd y cynnydd mewn cyfraddau mor uchel ag yr oedd yn hanesyddol.  Hefyd, eglurwyd bod Strategaeth Flynyddol y Trysorlys a gymeradwywyd ym mis Mawrth gan y Cyngor llawn yn cynnwys y benthyca gofynnol i ariannu rhaglen gyfalaf 2023/24.  Byddai benthyca yn cael ei reoli yn unol â'r cyngor a gafwyd gan ymgynghorwyr allanol rheoli'r trysorlys a'i fonitro'n barhaus yn erbyn cyfraddau llog.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r acronym DMADF, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod yr acronym yn golygu Cyfleuster Adneuo Cyfrifon Rheoli Dyledion, sef Trysorlys Canolog Ei Fawrhydi y Llywodraeth, sy'n cael ei ystyried yn un o'r cyfleusterau mwyaf diogel i roi arian.

 

  • Gofynnwyd pa mor aml yr oedd y Daliannau Partïon i Gontract yn cael eu hadolygu.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod cyfarfodydd chwarterol yn cael eu cynnal gyda Link, Ymgynghorwyr allanol Rheoli Trysorlys y Cyngor, a hefyd, fel rhan o system rhybuddio dyddiol, y byddai unrhyw newidiadau yng nghyfradd credyd partïon i gontract yn cael eu rheoli'n gyflym os bernir bod hynny'n angenrheidiol.

 

  • Cyfeiriwyd at derfyn y DMADF (Cyfleuster Adneuo Cyfrifon Rheoli Dyledion) a gynyddwyd ym mis Ebrill 2022 i £125m o £100m gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol dan bwerau brys.  Wrth geisio eglurder ynghylch 'pwerau brys' dywedwyd y byddai'n fuddiol cynnwys adran yn yr adroddiad ynghylch pam y cafodd y pwerau brys eu defnyddio.  Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod y pwerau brys wedi cael eu defnyddio fel swyddogaeth o ran y balansau arian parod sylweddol a oedd yn cael eu cadw, gan gyfeirio at yr ymateb cynharach i ymholiad a nododd mai'r DMADF oedd y cyfleuster mwyaf diogel i storio arian.

 

  • Mewn ymateb i ymholiad ynghylch benthyca 2022/23, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol mai'r gwahaniaeth benthyca o £3.13m oedd oherwydd yr ad-daliad net.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR bod yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth 2022-23 yn cael ei fabwysiadu.

 

 

Dogfennau ategol: