Agenda item

CWESTIYNAU A RHYBUDD GAN AELODAU'R CYHOEDD I'R COMISIYNYDD

Cwestiwn gan yr Athro Ian Roffe

 

Yng nghyfarfodydd blaenorol y panel mae'r Comisiynydd wedi nodi ei waith y tu allan i ardal Dyfed Powys, gan gynnwys gr?p awyr cenedlaethol yr heddlu, prosiect cyfathrebu digidol y Swyddfa Gartref a bwrdd plismona Cymru gyfan.  Gall arwain a chydweithio fod o fudd i'r ardal hon yn ogystal ag ardaloedd Heddluoedd eraill. A allai'r Comisiynydd roi adolygiad cyfredol o'i gysylltiad â grwpiau allanol o'r fath ar hyn o bryd, y prif faterion y mae pob gr?p yn rhoi sylw iddynt ac unrhyw oblygiadau posibl i lywodraethu plismona yn ardal Dyfed Powys?

 

Cwestiwn â Rhybudd gan yr Athro Ian Roffe

 

Mae aelodau'r panel wedi dod ar draws achosion amrywiol lle mae aelodau o'r cyhoedd wedi bod yn anfodlon ar ymatebion Heddlu Dyfed-Powys i alwadau 101.

 

A yw'r Comisiynydd yn ymwybodol o broblemau yn ymwneud â'r gwasanaeth 101 a sut mae'n mynd ati i sicrhau ymatebion mwy amserol a phriodol i'r cyhoedd?

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd Keith Evans

 

Yn ddiweddar, cysylltodd aelod o'r cyhoedd â mi i gwyno am sut yr oedd yr heddlu wedi delio â gwrthdrawiad traffig ffordd yr oedd hi wedi bod yn rhan ohono. Er fy mod wedi gallu cyfeirio'r unigolyn hwn at yr heddlu ei hun yn yr achos hwn, a wnewch chi amlinellu, er budd aelodau mwy newydd o'r Panel ac aelodau o'r cyhoedd a allai fod yn gwylio, eich rôl ym mhroses gwynion yr heddlu, yr oruchwyliaeth yr ydych yn ei harfer o ran sut mae'r heddlu'n ymdrin â chwynion, a beth ddylai'r cyhoedd ei wneud os ydynt yn dymuno gwneud cwyn yn erbyn swyddog heddlu.

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd Liz Rijnenberg

 

Mae Timau Plismona yn y Gymdogaeth yn hanfodol i lwyddiant holl flaenoriaethau'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu. Mae gwybodaeth anecdotaidd yn dangos y gall effeithiolrwydd y timau hyn o ran gwelededd a'r gallu i ymateb amrywio o ardal i ardal.

O ystyried y gwaith diweddar i ad-drefnu'r timau hyn a'r cyfle i wella safon y gwasanaeth, sut mae'r Comisiynydd yn sicrhau ei hun am y canlynol:

 

1.    Bod digon o adnoddau wedi'u darparu ar gyfer y trefniadau newydd.

2.    Bod strwythurau ar waith i sicrhau bod y Timau Plismona yn y Gymdogaeth yn ymatebol ac yn gyson ar yr un pryd o ran sut y byddant yn cydgysylltu ac yn cyfathrebu â'r holl randdeiliaid ac, yn bwysig iawn, dioddefwyr troseddau ar draws yr ardaloedd.

3.       Sut y bydd effeithiolrwydd y timau yn cael ei fonitro a'i werthuso.

Cofnodion:

6.1 Cwestiwn gan yr Athro Ian Roffe

 

Yng nghyfarfodydd blaenorol y panel mae'r Comisiynydd wedi nodi ei waith y tu allan i ardal Dyfed Powys, gan gynnwys gr?p awyr cenedlaethol yr heddlu, prosiect cyfathrebu digidol y Swyddfa Gartref a bwrdd plismona Cymru gyfan.  

Gall arwain a chydweithio fod o fudd i'r ardal hon yn ogystal ag ardaloedd Heddluoedd eraill. A allai'r Comisiynydd roi adolygiad cyfredol o'i gysylltiad â grwpiau allanol o'r fath ar hyn o bryd, y prif faterion y mae pob gr?p yn rhoi sylw iddynt ac unrhyw oblygiadau posibl i lywodraethu plismona yn ardal Dyfed Powys?

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Dywedodd y Comisiynydd wrth y Panel fod Comisiynwyr yng Nghymru a Lloegr yn dod at ei gilydd mewn gwahanol gyfarfodydd yn ystod y flwyddyn.  Mae pob Comisiynydd yn cyflawni swyddogaeth, i rannu'r baich o ran rhyw weithgaredd.  Cafwyd adolygiad o drefniadau llywodraethu Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu dair blynedd yn ôl, a amlygodd rai argymhellion a newidiadau a oedd eu hangen yn y strwythur, gan arwain at benodi Cadeirydd Annibynnol.

 

Rhoddodd y Comisiynydd wybod i'r Panel am y gwahanol fforymau a phaneli y mae'n gysylltiedig â hwy, h.y. sefydlu Bwrdd Gwasanaethau Digidol yr Heddlu, Cyngor Staff yr Heddlu, Cymdeithas Bwrdd Heddlu a Throseddu, Bwrdd Partneriaeth Cymru, cadeirydd Plismona Cymru yn ystod Covid, arweinydd trais yn erbyn menywod a merched, wedi rhoi tystiolaeth yn ddiweddar yn y Pwyllgor Materion Cymreig, wedi datblygu fforwm ieuenctid i rymuso pobl ifanc ac ar hyn o bryd mae'n ymwneud â'r digwyddiad ceiswyr lloches yn Llanelli.

 

Rhoddodd y Comisiynydd sicrwydd i'r Panel ei fod yn cynnal trafodaethau rheolaidd â'r Heddlu yngl?n â'r ceiswyr lloches yn Llanelli a'i fod yn monitro'r sefyllfa'n ofalus iawn.  Nododd y Comisiynydd ei bod yn sefyllfa ddeinamig iawn a'i bod yn cael effaith ar y llu.

 

 

6.2 Cwestiwn â Rhybudd gan yr Athro Ian Roffe

 

Mae aelodau'r panel wedi dod ar draws achosion amrywiol lle mae aelodau o'r cyhoedd wedi bod yn anfodlon ar ymatebion Heddlu Dyfed-Powys i alwadau 101.

 

A yw'r Comisiynydd yn ymwybodol o broblemau yn ymwneud â'r gwasanaeth 101 a sut mae'n mynd ati i sicrhau ymatebion mwy amserol a phriodol i'r cyhoedd?

 

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Dywedodd y Comisiynydd wrth y Panel fod tua 500 o ddigwyddiadau yn cael eu cofnodi bob dydd dros y ffôn.  Un o'r materion allweddol yw trosiant staff ar gyfer cyfathrebu'r heddlu.  Mae'r galw ar staff yn cynyddu a throsiant yw 17%.  Buddsoddwyd yn y system teleffoni a ddylai wella a symleiddio'r broses gofnodi.  Mae angen adnoddau ychwanegol i weithredu'r adran teleffoni.  Bydd y data perfformiad ynghylch ateb galwadau yn cael ei anfon at y Panel er gwybodaeth.  Eglurodd y Comisiynydd wrth y Panel fod problem recriwtio ar hyn o bryd.

 

Mewn ymateb i ymholiad yngl?n ag oedi pan fydd galwyr yn gofyn am ddefnyddio'r Gymraeg, dywedodd y Comisiynydd y byddai'n ymchwilio i'r mater hwn ac yn ymateb ar ôl ei gyfarfod gyda'r Prif Gwnstabl yn yr wythnos ganlynol.

 

Gofynnodd y Comisiynydd i'r Panel anfon unrhyw g?ynion neu ymholiadau gan y cyhoedd i'w swyddfa, a fyddai wedyn yn eu cofnodi, ac yn ymchwilio ac yn ymateb iddynt.

 

Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r nifer uchel o alwadau sy'n cael eu cofnodi fel rhai y rhoddwyd y gorau iddynt, dywedodd y Comisiynydd fod y niferoedd uchel yn gysylltiedig ag opsiwn 2 a 4, sy'n cael eu barnu fel rhai ar lefel is o fygythiad.  Dywedodd y Comisiynydd wrth yr aelodau ei fod yn cael ei friffio ym Mwrdd Atebolrwydd yr Heddlu ac y byddai'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel.

 

 

6.3 Cwestiwn gan y Cynghorydd Keith Evans

 

Yn ddiweddar, cysylltodd aelod o'r cyhoedd â mi i gwyno am sut yr oedd yr heddlu wedi delio â gwrthdrawiad traffig ffordd yr oedd hi wedi bod yn rhan ohono. Er fy mod wedi gallu cyfeirio'r unigolyn hwn at yr heddlu ei hun yn yr achos hwn, a wnewch chi amlinellu, er budd aelodau mwy newydd o'r Panel ac aelodau o'r cyhoedd a allai fod yn gwylio, eich rôl ym mhroses g?ynion yr heddlu, yr oruchwyliaeth yr ydych yn ei harfer o ran sut mae'r heddlu'n ymdrin â chwynion, a beth ddylai'r cyhoedd ei wneud os ydynt yn dymuno gwneud cwyn yn erbyn swyddog heddlu.

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Dywedodd y Comisiynydd wrth y Panel fod gan ei swyddfa lyfryn ar sut i wneud cwyn a'i fod ar gael ar ei gwefan i bawb ei weld.  Os gwneir cwyn yn erbyn Swyddog Heddlu, y Llu sy'n gyfrifol am ymchwilio iddi.  Er mwyn sicrhau bod cofnod o g?yn, dywedodd y Comisiynydd wrth y Panel y byddai'n arfer gorau anfon e-bost neu lythyr at naill ai'r Llu neu ei swyddfa.

 

 

6.4 Cwestiwn gan y Cynghorydd Liz Rijnenberg

 

Mae Timau Plismona yn y Gymdogaeth yn hanfodol i lwyddiant holl flaenoriaethau'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu. Mae gwybodaeth anecdotaidd yn dangos y gall effeithiolrwydd y timau hyn o ran gwelededd a'r gallu i ymateb amrywio o ardal i ardal.

 

O ystyried y gwaith diweddar i ad-drefnu'r timau hyn a'r cyfle i wella safon y gwasanaeth, sut mae'r Comisiynydd yn sicrhau ei hun am y canlynol:

 

1.    Bod digon o adnoddau wedi'u darparu ar gyfer y trefniadau newydd.

2.    Bod strwythurau ar waith i sicrhau bod y Timau Plismona yn y Gymdogaeth yn ymatebol ac yn gyson ar yr un pryd o ran sut y byddant yn cydgysylltu ac yn cyfathrebu â'r holl randdeiliaid ac, yn bwysig iawn, dioddefwyr troseddau ar draws yr ardaloedd.

3.    Sut y bydd effeithiolrwydd y timau yn cael ei fonitro a'i werthuso. 

 

Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Dywedodd y Comisiynydd wrth y Panel fod gan Heddlu Dyfed-Powys bellach fwy o Swyddogion Heddlu nag erioed o'r blaen.  Nid yw'r rolau arbenigol i gyd wedi cael eu llenwi.  Mae cyswllt lleol yn bwysig a dywedodd y Comisiynydd wrth y Panel y byddai'n trafod gweithgarwch gweithredol cyfrifol yn y llu â'r Prif Gwnstabl Cynorthwyol newydd.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Comisiynydd wrth y Panel y byddai rhagor o sesiynau ymgysylltu ag aelodau lleol, Cynghorwyr a Chynghorau Tref a Chymuned yn cael eu cynnal yn yr hydref eleni.