Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD JOHN JAMES I'R CYNGHORYDD ALED VAUGHAN OWEN AELOD Y CABINET DROS NEWID HINSAWDD, DATGARBONEIDDIO A CHYNALIADWYEDD

“Mae'r modd y mae newid yn yr hinsawdd yn cyflymu, datgoedwigo, llygredd a gweithgareddau dynol eraill wedi gwthio byd natur i'r dibyn, gan fygwth y cydbwysedd bregus sy'n cynnal bywyd ar y Ddaear.

 

Sut ydych chi'n credu y gall Cyngor Sir Caerfyrddin ymateb orau i'r Argyfwng Natur y mae ef a Llywodraeth Cymru wedi'i ddatgan?”

 

Cofnodion:

“Mae'r modd y mae newid yn yr hinsawdd yn cyflymu, datgoedwigo, llygredd a gweithgareddau dynol eraill wedi gwthio byd natur i'r dibyn, gan fygwth y cydbwysedd bregus sy'n cynnal bywyd ar y Ddaear.

 

Sut ydych chi'n credu y gall Cyngor Sir Caerfyrddin ymateb orau i'r Argyfwng Natur y mae ef a Llywodraeth Cymru wedi'i ddatgan?”

 

Ymateb y Cynghorydd Aled Vaughan-Owen - yr Aelod Cabinet Dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:-

 

Diolch i'r Cadeirydd a diolch i'r Cynghorydd James am y cwestiwn amserol.

 

Rwy'n si?r ein bod i gyd wedi clywed mai'r wythnos ddiwethaf oedd yr wythnos gynhesaf ar y blaned sy'n ein hatgoffa bod angen i ddynoliaeth gynyddu lefel y gweithredu ar yr argyfyngau newid hinsawdd a natur a gwneud hynny ar frys. Os nad ydym yn sicrhau ein bod yn cadw lefelau'r tymheredd o dan reolaeth, bydd yn cael effaith drychinebus ar ein systemau iechyd, systemau bwyd, yr economi, ein cymunedau a hefyd ar natur.

 

Dyna pam rwy'n falch iawn ein bod ni fel cyngor wedi galw am gydnabod argyfwng natur y byd ar ddiwedd tymor olaf yr etholiad ac mae'n anrhydedd mawr i fod bellach yn ddeiliad y portffolio Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd a chael rhan fach yn y rôl bwysig o ran y ffordd y mae'r Cyngor yn ymateb i'r heriau hyn. Ond yn wir, ni ellir diwallu'r heriau gydag un deiliad portffolio yn unig. Mae pob un ohonom, fel aelodau lleol, fel aelodau cabinet ac fel corff cyhoeddus, yn gyfrifol am yr heriau sy'n ymwneud â natur.

 

Mae'n rhaid i ni osod hinsawdd a natur wrth wraidd y broses o lunio polisïau ac wrth weithredu o ddydd i ddydd. Rydym bellach yn gweld hyn yn cael ei gydnabod yn y Cynllun Corfforaethol a hefyd yn y Strategaeth Drawsnewid. Rydym eisoes wedi creu panel ymgynghorol trawsbleidiol ar yr argyfwng natur a hinsawdd ac mae gennym gr?p o aelodau angerddol sydd ar gael i gynghori, i herio ac i ysbrydoli fel y gallwn wneud y penderfyniadau cywir nawr a hefyd yn y dyfodol.

 

Mae'r gr?p hwn wedi cyfarfod sawl gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac wedi cael y cyfle i helpu i lunio'r ffordd rydym yn cyflawni nid yn unig yr hyn y mae'n ofynnol yn gyfreithiol inni ei gyflawni o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) ond hefyd yr uchelgais cywir y dylem fod yn anelu ato. 

 

Mae'r Aelodau wedi gallu awgrymu camau pellach, cyflymach a dewrach inni anelu atynt yn y Cynllun Gweithredu nesaf ac edrychaf ymlaen at gyflwyno'r cynllun i'r pwyllgor craffu. Rwy'n gwybod y bydd yn cael ei herio'n briodol i sicrhau ei fod yn cyflawni'r nodau a'r uchelgeisiau sy'n gyffredin inni i gyd.

 

Ond pa bynnag gamau gwirioneddol y bydd y cyhoedd yn eu gweld, ac yn ystod y gaeaf diwethaf mae Cyngor Sir Caerfyrddin, drwy gyllid Llywodraeth Cymru, wedi gallu darparu 5 safle plannu coed gan gynnwys 3 choetir newydd yn Nhregib, Cydweli a Llandybïe. Mae'r goeden gywir yn y lle cywir am y rheswm cywir yn hanfodol ac yn caniatáu inni gael manteision ehangach o ran natur, adfer, gwella cynefinoedd, mesurau lliniaru hinsawdd ond hefyd o ran buddion iechyd a llesiant hanfodol i gymunedau lleol. Mae lleoli'r rhain ar dir addas yn ein cymunedau a'r cyffiniau yn caniatáu ar gyfer llawer mwy na dim ond y manteision amgylcheddol.

 

Rydym hefyd yn agos at ddynodi 3 Gwarchodfa Natur Leol newydd.  Gan weithio gyda chymunedau lleol, rydym wedi gallu cael rhagor o gyllid gan Lywodraeth Cymru i helpu i adfer ac i ddiogelu ardal o gynefinoedd a bioamrywiaeth gwerth uchel a leolir ger trefi. Mae hyn yn cynnig nifer o fanteision ychwanegol o ran treftadaeth, hamdden ac addysg ar hyd y ffordd. Mae'r rhain yn ychwanegol at y gwaith cadwraeth pwysig sy'n cael ei wneud yn Llyn Llech Owain, Parc Coetir Mynydd Mawr, ac Allt Nant-y-ci, Gwarchodfa Natur Leol Twyni Pen-bre, a Pharc Gwledig Pen-bre.

 

Y llynedd cafodd dros 30 o safleoedd eu dynodi ar draws y sir a fyddai'n cael eu rheoli ar gyfer pryfed peillio. Mae pryfed peillio hefyd yn chwarae rôl hollbwysig wrth gefnogi cydbwysedd iechyd ecolegol ein planed. Mae diogelu pryfed peillio'n hanfodol er mwyn sicrhau diogelwch bwyd, cynnal bioamrywiaeth, hyrwyddo ecosystemau cynaliadwy a llawer mwy.

 

Eleni rydym yn cynyddu faint o dir rydym yn ei reoli'n wahanol er mwyn deall ymhellach y gwahanol dechnegau a pha system reoli sydd ei hangen. Mae ein timau bioamrywiaeth a chynnal a chadw tiroedd yn llunio cynlluniau ar hyn o bryd fel y gellir cynnig torri porfa amwynderau mewn modd gwahanol fel y gellir defnyddio tir ar gyfer buddion ehangach yn y dyfodol. Byddaf yn trafod y rhain â'm cydweithwyr yn y cabinet ym maes tai, adfywio ac addysg a fydd yn gallu cyflwyno newidiadau yn eu hadrannau fesul cam.

 

Mae plannu coed yn achosi llawer o ddadlau ac mae plannu coed yn ddireolaeth/yn anreoleiddiedig a gwyrddgalchu arferion sy'n ddwys o ran carbon ar draul cymunedau yng Nghymru yn rhywbeth nad oes ei angen ar neb, ac nid ydym yn cefnogi hyn. Fodd bynnag, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd coed. Eu manteision o ran bioamrywiaeth a'r hinsawdd yw dim ond rhai o'r rolau arwyddocaol sydd gan coed wrth sicrhau ein bodolaeth ar y blaned hon.

 

Rydym eisoes wedi creu drafft cyntaf y Strategaeth Goed ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin a drafodwyd yn y Pwyllgor Craffu Lle a Chynaliadwyedd.  Buom yn trafod yr angen i fod yn sensitif i gymunedau gwledig lleol yn ogystal â chwilio am gyfleoedd i wneud ein hardaloedd trefol llwyd yn fwy gwyrdd. Byddwn bellach yn edrych ar yr adborth, yn dysgu rhagor gan sefydliadau eraill ac yn sicrhau ein bod yn cyd-ddylunio polisi sy'n cefnogi ac yn dod â chymunedau gyda ni, gan sicrhau hefyd ein bod yn cydnabod ac yn deall y wyddoniaeth, sicrhau nad ydym yn anwybyddu'r dystiolaeth gadarn sydd mor amlwg, a datblygu targedau cryf beiddgar sy'n cyd-fynd â'r brys a nodir yn natganiad argyfwng natur y cyngor hwn.

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd John James:

 

Yn ddiweddarach y mis hwn byddwn yn dathlu wythnos natur Cymru a fydd yn dechrau ar 22 Gorffennaf. Mae hyn yn cynnig cyfle i ni i gyd ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud i ddiogelu a gwella natur yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu inni gan natur yn anfesuradwy – aer glân, d?r a pheillio bwyd a llawer mwy. Y Cynghorydd Owen, sut rydych chi'n gweld tirwedd ac ecosystemau unigryw Sir Gaerfyrddin yn chwarae rhan wrth liniaru ac addasu i newid hinsawdd, o ran y ffordd rydym yn rheoli ardaloedd ucheldirol a photensial morwellt ar arfordir isel?

 

Ymateb y Cynghorydd Aled Vaughan-Owen - yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:-

 

Os ydym yn mynd i liniaru effeithiau gwaethaf Newid Hinsawdd ac addasu ein cymunedau yn ôl faint o newid yn yr hinsawdd sydd eisoes wedi digwydd, yna mae gweithio gyda byd natur yn rhoi'r cyfle gorau inni lwyddo.

 

Mae tirweddau ac ecosystemau amrywiol Sir Gaerfyrddin yn cynnig cyfle anhygoel inni gyrraedd ein dyheadau datgarboneiddio cyffredin - mae ein mawnogydd ucheldirol yn storfa garbon hynod effeithlon, gan gadw mwy o garbon yn y pridd na chapasiti cyfatebol coedwig o goed. Mae'r 4% o Gymru sy'n cael ei gorchuddio gan fawn yn storio hyd at 30% o garbon pridd Cymru. Ond mae degawdau o gamreoli a pholisïau annoeth yn golygu bod mawndiroedd sydd wedi'u difrodi yn rhyddhau carbon i'r atmosffer, gan gyfrannu at gyflymu newid hinsawdd.

 

O ystyried bod 70% o dd?r yfed y DU yn dod o ardaloedd ucheldirol sy'n cael eu meddiannu gan fawndiroedd, mae'r angen i'w hadfer yn glir, yn enwedig ar ôl 2 fis lle mae Cymru wedi cael 44% o'i glawiad disgwyliedig yn unig. Yn fwy na hynny, mae mawnogydd gwlyb yn cynnwys hyd at 90% o dd?r, sy'n golygu eu bod yn gweithredu fel rhwystr naturiol rhag i danau gwyllt ledaenu ac maent hefyd yn lleihau'r risg o lifogydd ymhellach i lawr yr afon.

 

Bydd rheoli tir yn wahanol yn hanfodol er mwyn lleihau'r llygryddion sy'n mynd i mewn i afonydd gan allyrru rhagor o nwyon cynhesu hinsawdd, a lleihau llifogydd a senarios tywydd eithafol eraill ac addasu iddynt. Bydd angen gwneud hyn yn dringar gan weithio'n briodol gyda'r holl randdeiliaid. Ond yn anffodus, nid yw ein meddylfryd a'n gweithredoedd yn newid i gadw i fyny â chyflymder newid hinsawdd. Bydd mwy o ardaloedd a mwy o bobl yn dod yn agored i dywydd eithafol a thrychinebau. Mae newid yn digwydd y tu hwnt i'ch man cyfforddus.

 

Mae atebion sy'n seiliedig ar natur yn cynnig cyfleoedd yn ein trefi. Datgarboneiddio ac iechyd yw'r ddau reswm pam y dylem newid y ffordd rydym yn teithio. Mae seilwaith gwyrdd yn cynnig potensial enfawr i leihau nwyon niweidiol a gwella ansawdd aer lleol. Mae'n darparu cynefin i beillwyr, cyfle i ddraenio trefol cynaliadwy er mwyn arafu llifogydd o ran d?r wyneb a hefyd mae gwneud amgylcheddau adeiledig yn fwy gwyrdd yn gallu lleihau gwres ac yn cynnig cysgod mewn tywydd eithafol.

 

Mewn 100 mlynedd, bydd tua 390,000 o eiddo mewn perygl o lifogydd. Bydd cynnydd o 47% o ran y rhai sy'n agored i lifogydd llanw. Dyma sy'n digwydd os nad oes dim yn newid. Dyma lle mae diogelu agendâu ac arferion sydd wedi dyddio yn ein baglu. Dyma lle mae "Dyma sut rydym bob amser wedi'i wneud" yn ein baglu.  Bydd croesawu atebion sy'n seiliedig ar natur wrth newid ein harferion o lygru yn rhoi cyfleoedd inni roi cyfle teg i'r genhedlaeth nesaf.

 

Un o'r datblygiadau cyffrous fel y dywedoch chi yw morwellt. Mae morwellt yn ecosystem mor bwysig nad ydym byth braidd yn ei gwerthfawrogi. Mae'n un o'r dalfeydd carbon gorau ar y blaned; mae'n helpu i lanhau llygryddion yn y d?r, yn cynnig cynefinoedd anhygoel i rywogaethau, a hefyd yn helpu i leihau erydu arfordirol a allai arwain at leihau llifogydd llanw. Dylai Sir Gaerfyrddin fod yn falch fod gennym feithrinfa forwellt ym Mhentywyn, gyda'r byd academaidd yn cefnogi'r gwaith ymchwil y gellir gobeithio ei gyflwyno ar raddfa yn ôl yr angen.

 

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiynau craff, Gynghorydd James.  Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi nawr ac yn eich rôl newydd yng Nghabinet yr Wrthblaid newydd, gan barhau i gael fy ysbrydoli gan y Panel Cynghori a'm herio a'm cefnogi gan aelodau'r Pwyllgor Craffu.

 

Y bygythiad mwyaf i'n planed yw'r gred y bydd rhywun arall yn ei hachub. O ran y materion hyn, gadewch inni barhau i anwybyddu unrhyw ddadlau gwleidyddol, oherwydd gweithredu ar y cyd fydd yn creu'r p?er i wella ac i ddiogelu ein planed ac, wrth wneud hynny, sicrhau bod y ddynoliaeth yn goroesi.