Agenda item

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y 19 MEHEFIN, 2023

Cofnodion:

[Sylwer: Roedd y Cynghorwyr M. Palfreman, H.B. Shepardson, K. Madge, B.A.L. Roberts, P.T. Warlow a S.Godfrey-Coles wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ac wedi aros yn y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ynghylch yr eitem hon a'r bleidlais ddilynol].

 

Gan gyfeirio at Gofnod 6, yng Nghyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Mehefin, 2023 ynghylch System Iechyd a Gofal Gorllewin Cymru: Pa Mor Bell, Pa Mor Gyflym?, gofynnwyd i'r Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a allai roi sicrwydd o'i hyder ynghylch y cynllun yn cael ei gyflawni yn Sir Gaerfyrddin, o ystyried y risgiau sylweddol a nodwyd yn yr adroddiad gan gynnwys argaeledd gweithlu ar draws y system, diffyg tystiolaeth gadarn o integreiddio ffurfiol ledled Cymru a'r angen o ran ailfeddwl llywodraethu a rheoli'r system, a hynny'n radical, i sicrhau bod trawsnewidiad o'r math hwn yn gweithio.

 

Mewn ymateb, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod heriau'r gweithlu yn cael eu cydnabod a'u bod yn flaenllaw o ran blaenoriaeth barhaus gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda a'r Cyngor Sir. Roedd y Pwyllgor Craffu - Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd wedi cael yr adroddiad ac wedi'i gymeradwyo. Dywedodd fod y gwaith integreiddio yn Sir Gaerfyrddin wedi dechrau sawl blwyddyn yn ôl, a bod perthynas sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth wedi'i datblygu gyda phartneriaid, ac y byddai'r gwaith yn parhau'n gyflym.

 

Wrth gyfeirio at Gofnod 9, ynghylch y wybodaeth ddiweddaraf am ddeiseb Harbwr Porth Tywyn i'r Cyngor Llawn, gofynnwyd pam nad oedd unrhyw sôn yn y cofnodion am Burry Port Marina Ltd yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr ar 7 Mehefin. Gofynnwyd am eglurhad hefyd ynghylch y sefyllfa bresennol o ran dyfodol Harbwr Porth Tywyn. 

 

Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth ei fod wedi darparu diweddariad cynhwysfawr yn y cyfarfod ac, er bod y cofnodion yn gywir, nid oedd yn gofnod air am air o'r trafodaethau. Dywedodd mai ar gofnod cyhoeddus y cyhoeddwyd bod y cwmni dan sylw wedi cael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr. Hefyd dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth fod y sefyllfa bresennol yn parhau a bod uwch-swyddogion wedi cwrdd a'u bod yn parhau i gynnal trafodaethau â'r gweinyddwyr yn ystod y broses ffurfiol o roi'r cwmni yn nwylo'r gweinyddwyr. Oherwydd y broses gyfreithiol, dywedwyd nad oedd modd rhannu manylion penodol ar hyn o bryd ond dywedodd ei fod yn gobeithio cyrraedd man lle roedd dyfodol yr harbwr yn gliriach. Rhoddwyd sicrwydd y byddai'r holl randdeiliaid perthnasol yn parhau i gael y wybodaeth ddiweddaraf pryd bynnag y bo modd yn ystod y broses hon.

 

Mewn ymateb i eglurhad ynghylch Cofnod 5.1, Cwestiwn gan Mr Havard Hughes, dywedodd yr Arweinydd fod y prosiect wedi'i ddatblygu dros nifer o flynyddoedd a'i fod wedi bod yn destun nifer o adroddiadau. Dywedodd fod y prosiect yn gyfle enfawr i gynhyrchu refeniw o ran twristiaeth a datblygiad economaidd. Dywedodd fod yr amserlenni a atodwyd i gyllid y prosiect hwn yn heriol a bod cychwyn y broses Gorchymyn Prynu Gorfodol (CPO) yn ddull synhwyrol. Fel arall roedd mwy o risg na fyddai'r cynllun yn cael ei gyflawni'r flwyddyn nesaf.

 

Gan gyfeirio at Gofnod 9, ynghylch y wybodaeth ddiweddaraf am ddeiseb Harbwr Porth Tywyn i'r Cyngor Llawn, gofynnwyd a fyddai modd cynnal cyfarfod gyda'r gweinyddwyr a phartïon eraill â diddordeb fel y gallai'r gweinyddwyr gael dealltwriaeth o safbwynt lleol. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth fod y gweinyddwyr bellach yn rhedeg yr harbwr ac, fel prif randdeiliad, prif nod y Cyngor oedd sicrhau bod yr harbwr yn ddiogel i'w agor a'i weithredu. Er na allai roi sylwadau ar ran y gweinyddwyr, roedd yn gobeithio y byddent yn ystyried holl safbwyntiau'r rhanddeiliaid yn rhan o'r broses. 

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Mehefin, 2023.

 

Dogfennau ategol: