Agenda item

LEFELAU PRESENOLDEB YSGOLION

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi lefelau presenoldeb ar draws ysgolion Sir Gaerfyrddin ers 2012. Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg at effaith andwyol sylweddol y pandemig coronafeirws ar bresenoldeb ysgolion, gan nodi bod ysgolion wedi cael anhawster i ailymgysylltu â dysgwyr a theuluoedd.  Dywedwyd bod presenoldeb ar draws ysgolion Sir Gaerfyrddin yn parhau i fod yn is na'r lefelau cyn y pandemig, ac mai salwch oedd y rheswm dros y rhan fwyaf o'r absenoldebau, er y nodwyd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi ailddechrau cyhoeddi data a mesur perfformiad yn llawn eto yn dilyn y pandemig coronafeirws.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi cymorth yr Awdurdod Lleol a roddir i ysgolion i wella a chynnal presenoldeb da disgyblion drwy waith ymgynghorol a gweithredol, a chafodd ei ategu gan ddata ystadegol i ddangos effaith ymyriadau o'r fath.

 

Rhoddwyd sylw i nifer o arsylwadau ac ymholiadau, fel a ganlyn:

 

·       Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd Rheolwr y Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion i'r Pwyllgor fod 'Ymgyrch Cwmpasu' yn fenter partneriaeth rhwng yr Awdurdod Lleol a'r Heddlu i roi gwybod i ysgolion am ddigwyddiadau trais domestig mewn achosion lle roedd disgyblion yn gysylltiedig â'r cyfeiriad hwnnw. Y nod oedd sicrhau bod cymorth emosiynol a/neu ymarferol yn cael ei ddarparu yn yr ysgol i'r disgyblion yr effeithiwyd arnynt, yn ôl yr angen. Eglurwyd ymhellach fod 'Ymgyrch Cwmpasu' yn fenter partneriaeth rhwng yr Awdurdod Lleol a'r Heddlu i ddiogelu plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o niwed rhag mynd ar goll.

 

·       Dywedwyd bod rhai disgyblion wedi ffynnu yn academaidd drwy'r dysgu ar-lein a ddarparwyd yn ystod y pandemig coronafeirws oherwydd yr hyblygrwydd a gynigiwyd. Yn unol â hynny, cafodd rhai disgyblion anawsterau wrth ailgydio yn y drefn ddyddiol a ddisgwylir mewn lleoliadau ysgol traddodiadol.   Cadarnhaodd y Swyddog Arweiniol ar gyfer Gwasanaethau Ymddygiad ac Unedau Cyfeirio Disgyblion fod heriau'r blynyddoedd diweddar wedi arwain at ddatblygu amrywiaeth o gynigion amgen i gynnwys o'r newydd y rhai a gafodd anawsterau o'r fath, gan gynnwys cynlluniau addysgol pwrpasol ar gyfer y rhai sy'n cael Addysg Heblaw yn yr Ysgol ac ymyriadau megis gwasanaethau cymorth bugeiliol i'r rhai mewn addysg brif ffrwd.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad am yr amcanestyniad tymor hwy ar gyfer lefelau presenoldeb, cyfeiriodd y Swyddog Arweiniol ar gyfer Gwasanaethau Ymddygiad ac Unedau Cyfeirio Disgyblion at brosiect EBSA (osgoi'r ysgol ar sail emosiwn) sydd newydd gael ei dreialu gyda'r nod o nodi rhesymau dros ymddieithrio er mwyn darparu strategaethau a chymorth i gynorthwyo disgyblion i ddychwelyd i amgylchedd yr ysgol neu nodi pecyn cymorth priodol i'r rhai nad ydynt yn gallu cymryd rhan mewn addysg brif ffrwd.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y gydberthynas rhwng rhieni/gwarcheidwaid yn gweithio gartref ac absenoldeb, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant at dystiolaeth anecdotaidd o broblemau yn ymwneud â phresenoldeb yn yr ysgol mewn achosion lle roedd rhieni/gwarcheidwaid yn gweithio gartref.  Amlygodd Aelod bwysigrwydd ymchwilio i'r maes hwn.

 

·       Amlygwyd pwysigrwydd rôl Swyddogion Presenoldeb a Llesiant gan aelod o ran pwysleisio effaith absenoldeb i rieni a gwarcheidwaid.  Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant at ymgyrchoedd marchnata ynghylch ymddygiad a phresenoldeb gan yr Awdurdod Lleol i gyfleu pwysigrwydd presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol i rieni a gwarcheidwaid.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch casglu ffigurau absenoldeb, eglurodd y Rheolwr Trawsnewid Ysgolion fod cyfres o 23 o godau wedi cael eu defnyddio'n gyson ym mhob ysgol i gofnodi rhesymau dros absenoldeb.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant y byddai proffil ysgolion o ran niferoedd disgyblion, eu cyd-destun a'r effaith ganlyniadol ar ganrannau presenoldeb, yn cael eu hystyried wrth ddadansoddi gwybodaeth ystadegol o'r fath.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.  

Dogfennau ategol: