Agenda item

CWESTIWN GAN MR HAVARD HUGHES I'R CYNG. EDWARD THOMAS, YR AELOD CABINET DROS WASANAETHAU TRAFNIDIAETH, GWASTRAFF A SEILWAITH

“Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi y dylai prynu gorfodol fod yn opsiwn ‘pan fetho popeth arall' yn dilyn negodi i werthu tir yn wirfoddol. Ac eto ymddengys fod Gorchymyn Prynu Gorfodol y Cyngor mewn perthynas â Llwybr Beicio Dyffryn Tywi yn berthnasol i'r llwybr cyfan o Felin-wen i Landeilo.  Heb ofyn am ddatgelu enwau unigol, a wnewch chi roi sicrwydd i'r cyhoedd bod negodiadau wedi'u dechrau mewn perthynas â'r tir oedd ei angen ar gyfer y Llwybr Beicio a chadarnhau faint - os o gwbl - o werthiannau gwirfoddol sydd wedi'u sicrhau y tu allan i'r Gorchymyn Prynu Gorfodol.”

 

Cofnodion:

“Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi y dylai prynu gorfodol fod yn opsiwn 'pan fetho popeth arall' yn dilyn negodi i werthu tir yn wirfoddol. Ac eto ymddengys fod Gorchymyn Prynu Gorfodol y Cyngor mewn perthynas â Llwybr Beicio Dyffryn Tywi yn berthnasol i'r llwybr cyfan o Felin-wen i Landeilo. Heb ofyn am ddatgelu enwau unigol, a wnewch chi roi sicrwydd i'r cyhoedd bod negodiadau wedi'u dechrau mewn perthynas â'r tir oedd ei angen ar gyfer y Llwybr Beicio a chadarnhau faint - os o gwbl - o werthiannau gwirfoddol sydd wedi'u sicrhau y tu allan i'r Gorchymyn Prynu Gorfodol.” 

 

Ymateb gan y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:-

 

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymwybodol o'r canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch gwneud Gorchmynion Prynu Gorfodol ac yn cydnabod disgwyliad Gweinidogion Cymru bod yn rhaid i'r Awdurdodau Caffael ddangos eu bod wedi cymryd camau i gaffael yr holl dir a hawliau sydd wedi’u cynnwys yn y gorchymyn prynu gorfodol drwy gytundeb lle bynnag y bo modd. Wrth gydgasglu lleiniau a theitlau lluosog bydd y sicrwydd o ran amseriad a’r dull gweithredu cyson a gynigir gan orchymyn prynu gorfodol yn fuddiol.  Serch hynny, mae'r Cyngor fel yr Awdurdod Caffael yn ymwybodol o'r angen i fabwysiadu arferion da drwy gynnig cyfle i'r partïon yr effeithir arnynt ymrwymo i gytundeb i werthu'n wirfoddol lle maent yn barod i wneud hynny. Bwriedir i orchymyn prynu gorfodol, yn ôl ei natur, sicrhau bod y tir sydd ei angen i weithredu cynllun yn cael ei gydgasglu lle na ellir ei gaffael drwy gytundeb. Fodd bynnag, ni all Awdurdod Caffael aros nes bod negodiadau wedi chwalu cyn dechrau’r broses prynu gorfodol.  Bydd amser gwerthfawr wedi cael ei golli.  Felly, o ystyried yr angen i gyflawni'r cynllun mewn modd amserol i gydymffurfio â gofynion y Swyddfa Cyllid Ffyniant Bro, ystyrir ei bod yn synhwyrol, o ystyried faint o amser sydd ei angen i gwblhau'r broses prynu gorfodol a nifer y lleiniau o dir y mae angen eu cydgasglu ar gyfer y llwybr, i'r Cyngor Sir gychwyn gweithdrefn ffurfiol. Bydd hyn yn rhedeg ochr yn ochr â negodiadau parhaus.  Mae'r broses prynu gorfodol yn caniatáu cynnwys tir sydd eisoes yn eiddo i'r Awdurdod Caffael mewn gorchymyn prynu gorfodol i sicrhau teitl cyfreithiol llawn.  Mae'r Cyngor, cyn dechrau'r broses, wedi ymgynghori a negodi â'r holl dirfeddianwyr, gan gynnwys pob trydydd parti y gallai'r cynnig effeithio ar ei hawliau.   Mae pum parsel tir eisoes wedi'u sicrhau a daethpwyd i gytundeb drwy negodi ynghylch chwe pharsel arall.   Mae dechrau gweithdrefn prynu gorfodol yn dangos ymrwymiad y Cyngor i gyflawni'r cynllun o'r cychwyn cyntaf.   Dangosodd digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus ynghylch creu'r llwybr cyd-ddefnyddio arfaethedig gefnogaeth aruthrol gan y cyhoedd ar gyfer ei gyflawni.  Felly, mae'r Cyngor yn hyderus bod ymdrechion wedi'u gwneud i gaffael y tir drwy gytundeb lle bynnag y bo modd, ond ni fydd yr holl dir yn cael ei gaffael yn y modd hwn, felly o ganlyniad nid oes dewis realistig arall ond defnyddio pwerau prynu gorfodol.”

 

Cwestiwn atodol gan Mr HavardHughes:-

 

“A ydych yn hyderus ynghylch gwario'r cyllid Ffyniant Bro ar gyfer y llwybr beicio erbyn y dyddiad cau, sef mis Mawrth y flwyddyn nesaf, o gofio bod gwrthwynebiad sylweddol ar raddfa fawr ymhlith tirfeddianwyr i'r broses prynu gorfodol, a ydych yn credu bod Ymchwiliad Cyhoeddus yn debygol ac felly bod yr arian yn debygol o gael ei golli?”

 

Ymateb gan Mr Jason Jones, Pennaeth Adfywio:-

 

“Rydym mor hyderus ag y gallwn fod ac rydym mewn deialog gyson â Llywodraeth y DU yngl?n â'r cyllid Ffyniant Bro ond mae proses i'w dilyn yn unol â'r cwestiwn a'r ymateb.  Nid oes sicrwydd yn hynny o beth, ond rydym yn parhau i fod yn hyderus.  Diolch yn fawr.”

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mr Hughes am ei gwestiwn ac am ei bresenoldeb yn y cyfarfod.