Cofnodion:
[SYLWER: Wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, arhosodd y Cynghorwyr A. Evans, K. Madge a M.J.A. Lewis yn y cyfarfod wrth iddi gael ei hystyried.]
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 28 Chwefror 2023 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2022/23. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys atodiad a oedd yn nodi adroddiad Monitro Arbedion 2022-23.
Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld gorwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £6.159m ac yn rhagweld tanwariant o £470k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod.
Roedd y canlynol ymhlith y materion a'r ymholiadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch swyddi gwag yn y canolfannau cyswllt, dywedodd y Rheolwr Marchnata a'r Cyfryngau fod rhai swyddi gwag wedi cael eu llenwi'n ddiweddar a bod yr aelodau staff sydd newydd eu penodi yn cael cyfnod o hyfforddiant ar hyn o bryd. Dywedwyd ymhellach, yn dilyn newid mewn prosesau yn yr adain, fod amseroedd ymateb mewn canolfannau cyswllt cwsmeriaid wedi gwella'n sylweddol; serch hynny, roedd y gallu a'r gwytnwch i ateb y galw yn ystod misoedd prysurach y gaeaf yn flaenoriaeth i'r adain yn y dyfodol. Rhoddodd y Rheolwr Marchnata a'r Cyfryngau y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am yr ad-drefnu is-adrannol hefyd, gan nodi bod disgwyl i hyn gael ei roi ar waith erbyn canol mis Gorffennaf.
· Mewn ymateb i ymholiad rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau sicrwydd i'r Pwyllgor y byddai'r Cabinet yn ystyried y mater o ran ffermydd sirol ac y byddai gwybodaeth bellach ar gael i'r aelodau maes o law. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol, mewn ymateb i newid i ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, fod y Cyngor wedi dyrannu arian ar gyfer seilwaith slyri yn ei gyllideb ar gyfer 2023/24.
· Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd ynghylch y gorwariant o ran ffioedd y crwner, rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol sicrwydd bod y mater hwn yn cael ei adolygu i gadarnhau a fyddai pwysau cyllidebol yn cael eu nodi ar gyfer cyllideb y Cyngor 2024/25.
· Cyfeiriwyd at y portffolio Eiddo Masnachol lle cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod cyfleoedd cyllido allanol yn cael eu harchwilio yn unol â chyllideb gyfalaf yr awdurdod, ac yn hyn o beth darparwyd crynodeb o'r fenter adfywio Deg Tref i'r Pwyllgor a oedd yn ceisio cefnogi adferiad economaidd a thwf trefi gwledig ledled y sir. O ran adeiladau nad oes defnydd digonol yn cael ei wneud ohonynt o ganlyniad i gynnydd mewn gweithio ystwyth, rhoddwyd sicrwydd bod ystad y cyngor yn cael ei hadolygu i sicrhau'r elw gorau posibl ar fuddsoddiad.
· Mynegwyd pryderon ynghylch y ddibyniaeth ar weithwyr asiantaeth, yn enwedig yn yr is-adran gwasanaethau cymdeithasol, o ganlyniad i'r argyfwng recriwtio cenedlaethol. Rhoddwyd sicrwydd bod yr awdurdod yn bwriadu datblygu ei weithlu ei hun yn y maes hwn drwy fenter hyfforddi'r academi; fodd bynnag, nodwyd y byddai hyn yn cymryd amser.
· O ran y diffyg incwm parhaus yn y canolfannau hamdden/chwaraeon o ganlyniad i'r cwymp yn y niferoedd, nodwyd bod y diffyg yn lleihau ac roedd y Pwyllgor yn falch o nodi bod ffigurau aelodaeth wedi dychwelyd i'r lefelau cyn y pandemig o ganlyniad i fesurau ymyrraeth cadarnhaol.
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch gorwariant o ran taliadau banc, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod gwaith yn mynd rhagddo trwy ymchwil a gomisiynwyd yn allanol i hysbysu'r awdurdod o'r ffordd orau ymlaen fel rhan o'i wasanaeth bancio corfforaethol ehangach.
· Cyfeiriwyd at yr arbedion cyllidebol sy'n deillio o'r nifer gymharol uchel o swyddi gwag a holwyd a oedd gwaith wedi'i wneud i asesu'r effaith gyllidebol pe bai'r awdurdod yn dychwelyd i lefelau staffio arferol. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod y gyllideb yn adlewyrchu lefel arferol o drosiant staff, ynghyd â'r pwysau eithriadol yn y farchnad lafur yn ystod y 12 mis diwethaf. Fodd bynnag, roedd yn braf nodi tystiolaeth anecdotaidd o adferiad yn y maes hwn gan fod llai o anawsterau recriwtio mewn rhai rolau.
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y gwasanaeth prydau ysgol, cadarnhawyd i'r Pwyllgor, er nad oedd yr incwm a gafwyd gan Lywodraeth Cymru yn ddigonol i dalu cost y ddarpariaeth o ganlyniad i'r dyfarniadau cyflog, ei bod wedi ymrwymo i adolygu'r maes hwn.
· Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd ynghylch y costau sy'n deillio o dipio anghyfreithlon ac oherwydd nad yw tenantiaid yn cydymffurfio â strategaeth wastraff yr awdurdod, cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu fod pedwar Swyddog Gorfodi Materion Amgylcheddol ychwanegol wedi'u penodi yn ddiweddar i fynd i'r afael â'r mater hwn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: