Agenda item

CAIS AM DRWYDDED SAFLE - BISTRO ON THE BAY, UNED 4, CANOLFAN PARRY THOMAS, PENTYWYN, SA33 4NZ.

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod a oedd wedi'i gynnal i ystyried cais gan Mr Robert Rea am drwydded safle ar gyfer Bistro ar y Bae, Uned 4 Canolfan Parry Thomas, Pentywyn fel a ganlyn:-

 

Cais i ganiatáu:-

 

Cyflenwi alcohol a cherddoriaeth fyw, dydd Llun i ddydd Sadwrn 11:00–23:00 a dydd Sul 11:00-22:30.

 

Oriau Agor - dydd Llun i ddydd Sadwrn 08:00–23:30 a dydd Sul 08:00-22:30.

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:

 

·       Atodiad A – Copi o'r cais;

·       Atodiad B – sylwadau a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu, ynghyd â gwybodaeth bellach a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd, gan gynnwys cytuno ar yr holl amodau a nodwyd yn sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu;

·       Atodiad C - sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill.

 

Yn ogystal â'r uchod, roedd y wybodaeth atodol ganlynol hefyd wedi cael ei dosbarthu i bob parti oedd yn bresennol yn y cyfarfod:-

 

·       Copi o gynllun yn manylu ar y cyfleusterau toiledau sydd ar gael yng nghyffiniau Bistro ar y Bae, Uned 4 Canolfan Parry Thomas, Pentywyn.

 

Nodwyd nad oedd unrhyw sylwadau wedi cael eu cyflwyno gan yr Awdurdodau Cyfrifol eraill mewn perthynas â'r cais.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y nodwyd yn Atodiad B yr adroddiad, a dywedodd nad oedd unrhyw erlyniadau na chamau gorfodi blaenorol wedi'u cymryd gan yr Awdurdod Trwyddedu a hefyd nad oedd unrhyw gwynion wedi dod i law mewn perthynas â'r safle dan sylw yn y cais.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at yr amodau awgrymedig a gynigiwyd mewn perthynas â threfniadau teledu cylch cyfyng, a'r ffaith bod yr ymgeisydd wedi cytuno arnynt. Dywedodd, os oedd yr Is-bwyllgor am ganiatáu'r cais, yr ystyriwyd ei bod yn briodol i'r amodau hynny fod ynghlwm wrth y drwydded.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd y gwrthwynebydd yn bresennol yn y cyfarfod i annerch y Pwyllgor, ond bod ei sylwadau ysgrifenedig wedi'u cynnwys yn Atodiad C yr adroddiad. 

 

Cafodd yr Is-bwyllgor sylwadau llafar gan Mrs Rea, cyd-lesddeiliad y safle, i gefnogi'r cais ac mewn ymateb i sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu a'r materion a oedd wedi’u codi gan y gwrthwynebydd, fel y nodwyd yn Atodiad C yr adroddiad. 

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r ymgeisydd ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a'r Swyddfa Gartref:-

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth oedd wedi ei rhoi gerbron yr Is-bwyllgor, fod y cais am drwydded safle ar gyfer Bistro ar y Bae, Uned 4 Canolfan Parry Thomas, Pentywyn, yn cael ei ganiatáu, a hynny'n unol â'r amodau trwyddedu yr oedd yr ymgeisydd a'r Awdurdod Trwyddedu wedi cytuno arnynt.   Hefyd, caniateir gwerthu alcohol dim ond yn ystod cyfnodau pan fydd cwsmeriaid yn gallu cael mynediad i'r toiled anabl yng Nghanolfan Parry Thomas a/neu'r toiledau eraill yn y ganolfan neu yn Caban.

 

RHESYMAU

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;

 

1.   Nid oedd dim un o'r Awdurdodau Cyfrifol wedi gwrthwynebu caniatáu'r drwydded mewn egwyddor.

2.   Mae'r Awdurdod Trwyddedu wedi gofyn am osod amodau ychwanegol ar y drwydded ac mae'r ymgeisydd wedi cytuno ar yr amodau hynny.

3.   Mae aelod o'r cyhoedd wedi gwrthwynebu'r cais ar sail darpariaeth annigonol o doiledau.

4.   Mae'r ymgeisydd wedi rhoi rhagor o wybodaeth am fynediad i gyfleusterau toiledau ar y safle neu'n agos ato.

5.   Nid oes tystiolaeth wedi'i chyflwyno o broblemau oedd wedi codi wrth weithredu'r drwydded flaenorol na Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro diweddar yngl?n â'r toiledau oedd ar gael i gwsmeriaid.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn rhoi pwys ar farn yr Awdurdodau Cyfrifol a nododd nad oedd pryderon ac ofnau ynghylch beth allai ddigwydd pe bai'r drwydded yn cael ei chaniatáu yn ystyriaethau perthnasol oni bai bod tystiolaeth go iawn i'w cefnogi.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon, ar yr amod bod cwsmeriaid yn gallu cael mynediad i gyfleusterau toiledau digonol, na fyddai caniatáu'r cais yn tanseilio'r amcanion trwyddedu.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon, ar yr amod bod cwsmeriaid yn gallu cael mynediad i'r toiled anabl yng Nghanolfan Parry Thomas a/neu'r toiledau eraill yn y ganolfan neu yn Caban, bod y ddarpariaeth o doiledau yn ddigonol. 

 

Fodd bynnag, byddai'r Is-bwyllgor yn pryderu pe bai'r mynediad hwnnw'n cael ei leihau neu ei gyfyngu mewn unrhyw ffordd.

 

Roedd yr Is-bwyllgor o'r farn ei bod yn briodol ac yn gymesur gosod amod trwyddedu ychwanegol mai dim ond yn ystod cyfnodau pan fydd cwsmeriaid yn gallu cael mynediad i'r toiled anabl yng Nghanolfan Parry Thomas a/neu'r toiledau eraill yn y ganolfan neu Caban y caniateir gwerthu alcohol.

 

Galwodd yr Is-bwyllgor ar y Cyngor i ymestyn oriau agor y toiledau yng Nghanolfan Parry Thomas i gyd-fynd ag oriau busnes y ganolfan.

Dogfennau ategol: