Agenda item

CWESTIWN GAN CHARLIE EVANS I'R CYNGHORYDD EDWARD THOMAS - YR AELOD CABINET DROS WASANAETHAU TRAFNIDIAETH, GWASTRAFF A SEILWAITH.

"Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn dod â'r Cynllun Argyfwng Bysiau i ben ar 24 Gorffennaf.  Mae corff y diwydiant, Coach and Bus Operators Cymru, sy'n cynrychioli cwmnïau bach, wedi mynegi pryderon yn y gorffennol y byddai 65% i 100% o'r gwasanaethau'n cael eu torri.

 

Byddai hyn yn cael effaith ddinistriol ar ein cymunedau, gan olygu na fyddai ein trigolion mwyaf agored i niwed yn gallu defnyddio canol ein trefi a'n pentrefi mor rhwydd ac na fyddai gweithwyr yn gallu cyrraedd y gwaith mor rhwydd, a byddai'n cynyddu traffig ceir a thagfeydd yn ein cymunedau. Ymddengys fod hyn yn hollol groes i strategaethau net sero a thrafnidiaeth gyhoeddus Cytundeb Cydweithio Llafur a Phlaid Cymru.

 

Pa waith cynllunio - ariannol, gweithredol a logistaidd - y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei wneud i sicrhau bod gennym yr un lefel o wasanaethau bysiau ledled Sir Gaerfyrddin ar ôl 24 Gorffennaf?"

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd S. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a pharhaodd yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod)

 

"Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn dod â'r Cynllun Argyfwng Bysiau i ben ar 24  Gorffennaf.

Mae corff y diwydiant, Coach and Bus Operators Cymru, sy'n cynrychioli cwmnïau bach, wedi mynegi pryderon yn y gorffennol y byddai 65% i 100% o'r gwasanaethau'n cael eu torri.

Byddai hyn yn cael effaith ddinistriol ar ein cymunedau, gan olygu na fyddai ein trigolion mwyaf agored i niwed yn gallu defnyddio canol ein trefi a'n pentrefi mor rhwydd ac na fyddai gweithwyr yn gallu cyrraedd y gwaith mor rhwydd, a byddai'n cynyddu traffig ceir a thagfeydd yn ein cymunedau. Ymddengys fod hyn yn hollol groes i strategaethau net sero a thrafnidiaeth gyhoeddus Cytundeb Cydweithio Llafur a Phlaid Cymru.

Pa waith cynllunio - ariannol, gweithredol a logistaidd - y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei wneud i sicrhau bod gennym yr un lefel o wasanaethau bysiau ledled Sir Gaerfyrddin ar ôl 24 Gorffennaf”.

Ymateb gan y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:-

 

Mae eich cwestiwn yn codi nifer o bwyntiau y byddaf yn ymateb iddynt yn eu trefn os yw hynny'n iawn gyda chi.

 

Ydy, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn dod â'r Cynllun Argyfwng Bysiau i ben ar 24Gorffennaf. Fodd bynnag, ddydd Gwener diwethaf, a dim ond dydd Gwener diwethaf, cyhoeddwyd bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £46m ar gael ar ffurf Cronfa Bontio ar gyfer Bysiau ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfan. Bydd y cyllid hwn yn cadw gwasanaethau strategol Traws Cymru i redeg. Ond, mae hefyd yn siomedig iawn i ni weld bod y Dirprwy Weinidog wedi parhau gyda'i gynlluniau i ddod â'r Cynllun Argyfwng Bysiau i ben er gwaethaf cefnogaeth drawsbleidiol yn gwrthwynebu'r toriadau ond, rydym yn croesawu bod modd ymestyn y cymorth am y flwyddyn bresennol.

 

Yn y Siambr hon ychydig wythnosau'n unig yn ôl roedd cytundeb ar draws y Siambr yn gwrthwynebu unrhyw ostyngiad i gyllid ar gyfer gwasanaethau. Mae'r cyngor hwn wedi bod yn bendant ac yn gyson ei farn yn gwrthwynebu'r toriadau i'r Cynllun Argyfwng Bysiau ac mae hyn wedi cael ei godi gennyf i ac Arweinydd y Cyngor drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.

 

Mae'n rhaid i mi ddweud nid wyf yn deall y cynllun sydd gan y Dirprwy Weinidog - ar un llaw mae'n ymddangos ei fod am ein hannog allan o'n ceir ac i drafnidiaeth gyhoeddus ond nid yw'n ymddangos ei fod eisiau gormod o drafnidiaeth gyhoeddus chwaith. Fodd bynnag, fel y dywedais, nid ydym yn hapus gyda'r toriadau, ond rydym yn deall na fydd y gostyngiadau mewn gwasanaethau ledled Sir Gaerfyrddin yn agos at y 65%-100% a ddyfynnwyd gennych yn eich cwestiwn. Fel yr wyf yn ei ddeall ar hyn o bryd, byddwn ond yn colli nifer fach o wasanaethau, ond mae'r trafodaethau hyn yn parhau yn rhanbarthol.

 

Rwy'n cytuno â'ch pwynt chi, yngl?n â cholli Trafnidiaeth Gyhoeddus "gan olygu na fyddai ein trigolion mwyaf agored i niwed yn gallu defnyddio canol ein trefi a'n pentrefi mor rhwydd ac na fyddai gweithwyr yn gallu cyrraedd y gwaith mor rhwydd, a byddai'n cynyddu traffig ceir a thagfeydd yn ein cymunedau." Mae angen i ni sicrhau bod gan ein trigolion fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a, gyda'r argyfwng costau byw presennol, mae’r car yn prysur ddod yn foethusrwydd na all rhai ei fforddio. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw hyn yn digwydd.

Rydych chi'n sôn bod hyn yn hollol groes i Gytundeb Cydweithredu Llafur a Phlaid Cymru ond, wrth gwrs, nid yw cymorthdaliadau bysiau yn rhan o'r Cytundeb cydweithredu hwnnw. Yr hyn y mae'r Cytundeb Cydweithredu yn ei nodi yw'r angen i ddatblygu systemau metro mewn rhannau o Gymru a'r angen i symud tuag at fod yn Garbon Sero Net.

Caniatewch i mi am eiliad ystyried eich cyfeiriad at 'wrthgyferbyniad llwyr', mae cyferbyniad amlwg iawn rhwng chwe biliwn o bunnoedd a dim punnoedd o gwbl. Byddai cyllid canlyniadol digonol yn datrys y sefyllfa hon. Rwy'n cyfeirio, wrth gwrs at HS2, sy'n cael ei ystyried yn brosiect 'Cymru a Lloegr gan y Llywodraeth Geidwadol' - er nad yw'n croesi'r ffin i Gymru, felly sut y gall hwn fod yn Brosiect Cymru a Lloegr. Mae cyllid canlyniadol wedi'i ddarparu yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, a dylai ddarparu cyllid o £6bn o dan Fformiwla Barnett yn ôl cyfrifiadau Llywodraeth Cymru. Ond, mae'r Llywodraeth Dorïaidd yn parhau i ystyried y llwybr drwy Loegr fel gwasanaeth i Gymru - alla i ddim deall hynny. Rwy'n credu bod angen i ni edrych ar y map. Fel y gallwch werthfawrogi byddai chwe biliwn o bunnoedd yn ein galluogi i wneud cymaint o ran datblygu trafnidiaeth gyhoeddus yn Ne-orllewin Cymru ac yn Sir Gaerfyrddin ac, rwy'n si?r y byddwch yn cytuno â mi fod gan y Llywodraeth Dorïaidd yn Llundain y modd i wneud yn iawn am hyn.

O ran yr hyn yr ydym yn ei wneud, wel dylanwadir hynny gan y cyhoeddiad a wnaed gan y Dirprwy Weinidog yr wythnos diwethaf ac mae'n ymddangos ar lefel sirol, fel y soniais yn gynharach, efallai na fyddwn yn gweld y toriadau i wasanaethau a ragfynegwyd gennym yn wreiddiol. Fodd bynnag, mae pob plaid yn cydnabod rôl trafnidiaeth gyhoeddus wrth alluogi mynediad at wasanaethau ac maent yn gweithio gyda'i gilydd i:

1.Archwilio  goblygiadau gostyngiad cenedlaethol mewn cymorth cyllido,

2.Gweithio  ar gynlluniau rhwydwaith y bydd gostyngiad yn y cyllid yn ei achosi,

3. Cyflwyno achos dros gymorth pellach wrth i'r sector barhau â'r broses araf o adfer yn dilyn y pandemig a phwysau economaidd ehangach eraill.

Mae wedi bod yn broses anodd. Does neb eisiau gweld gostyngiad mewn gwasanaethau i gymunedau, yn enwedig y rhai sy'n agored i niwed. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar lefel ranbarthol a chenedlaethol. Fodd bynnag, rwy'n falch o ddweud, oherwydd ymdrechion y Cyngor Sir ac awdurdodau lleol eraill, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, cafwyd safbwynt gweithio ar y cyd lle bydd cyllid yn cael ei ddarparu i'r sectorau i leihau'r risg i wasanaethau sy'n gweithredu ar hyn o bryd hyd at ddiwedd y flwyddyn.

Mae gwaith pellach yn parhau, wrth i bawb ystyried cyhoeddiad y Dirprwy Weinidog ddydd Gwener diwethaf. Mae'n amlwg bod angen i Lywodraeth Cymru amlinellu ateb ariannu hirdymor ar gyfer gwasanaethau bysiau yng Nghymru ac mae angen datblygu gweledigaeth glir ar gyfer trafnidiaeth rheilffordd, bysiau a thrafnidiaeth gymunedol yn Ne-orllewin Cymru. Fel y soniais yn gynharach, mae gwir angen i Lywodraeth Geidwadol y DU gamu i'r adwy a darparu dyraniad teg o adnoddau i bobl Cymru a Sir Gaerfyrddin i gyflawni'r weledigaeth honno.

Cwestiwn atodol gan Mr. Evans:-

 

Mae trigolion Llangynnwr a Nantycaws yn bryderus iawn y bydd gwasanaethau bws yn cael eu cwtogi ymhen pum wythnos yn unig. Felly,pryd bydd y cyhoedd yn cael gwybod gan Gyngor Sir Caerfyrddin pa wasanaethau fydd yn cael eu torri ar ôl 24 Gorffennaf.

 

Ymatebgan y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet  dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:-

 

Diolch i Mr Evans am y cwestiwn atodol hwnnw. Yn amlwg, bydd angen i mi gael wybod mwy am y gwasanaethau ar gyfer Llangynnwr ac, fel y dywedais, rydym yn gweithio ar draws y rhanbarth ar effeithiau'r cyhoeddiad hwn a ddaeth i law dim ond dydd Gwener diwethaf. Felly, rydym yn gweithio gyda'n gilydd.