Agenda item

CYNLLUN CREU LLEOEDD PORTH TYWYN

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar y cynigion ar gyfer mabwysiadu Cynllun Creu Lleoedd ar gyfer Porth Tywyn cyn iddo gael ei ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod ym mis Mehefin. Datblygwyd y Cynllun gyda rhanddeiliaid allweddol yn yr ardal i nodi cyfleoedd sy'n cyd-fynd â'r cynigion adfer ar gyfer canol y dref â dyheadau adfywio glan yr harbwr i sicrhau bod Porth Tywyn yn manteisio i'r eithaf ar adfywio arfaethedig yn yr ardal leol. Nodwyd y byddai'r themâu a ddaeth i'r amlwg o'r Cynllun yn arwain ac yn cefnogi ceisiadau am gyllid yn y dyfodol, a'r prif nodau yw:

 

Ø  Tyfu busnes presennol,

Ø  Creu cynifer o swyddi â phosibl,

Ø  Cefnogi datblygiad economi wybodaeth,

Ø  Datblygu natur unigryw yr ardal,

Ø  Nodi rôl darparu gwasanaethau yn y gymuned yn bresennol ac yn y dyfodol,

Ø  Cefnogi cyfleoedd ar gyfer darpariaeth ynni cynaliadwy,

Ø  Sefydlu cynhyrchu incwm cynaliadwy ar gyfer twf yn y dyfodol,

Ø  Cynyddu cydnerthedd, cynaliadwyedd a thwf y dref a'r cymunedau bwydo o'i chwmpas yn y dyfodol.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·       Cyfeiriwyd at ddatblygiad arfaethedig 250 o gartrefi ar hen Safle Grillo, ynghyd â thai eraill a ddarparwyd yn ddiweddar, ac i weld a roddwyd unrhyw ystyriaeth i'r effaith y gallai'r datblygiadau hynny ei chael ar wasanaethau deintyddol a meddygon teulu, yn enwedig gan mai dim ond un feddygfa oedd yn gwasanaethu'r ardal gyfan erbyn hyn.

 

Dywedodd y Pennaeth Adfywio fod gan y datblygiad arfaethedig ganiatâd cynllunio amlinellol ar hyn o bryd. Wrth i'r datblygiad fynd rhagddo drwy'r broses gynllunio ffurfiol, byddai unrhyw effaith bosibl ar ddarpariaeth iechyd yn yr ardal yn cael ei hystyried fel rhan o'r broses honno

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch adran 4 yr adroddiad ar 'symudiad', ac i weld a fyddai'r ddarpariaeth parcio am ddim bresennol ar Seaview yn cael ei chadw, dywedodd y Pennaeth Adfywio na fyddai'n bosibl ar hyn o bryd i warantu ei ddarpariaeth barhaus. Byddai hynny'n ddibynnol ar unrhyw drafodaethau gan y Cyngor yn y dyfodol fel rhan o'i strategaeth parcio ceir.

·       Mewn ymateb i sawl cwestiwn ar wahanol agweddau ar y Cynllun, dywedodd y Pennaeth Adfywio wrth y Pwyllgor ei fod wedi'i gomisiynu yn 2021 a'i gwblhau ym mis Mai 2022. Felly, roedd y Cynllun yn adlewyrchu pwynt penodol mewn amser. Pe bai'r Cabinet yn mabwysiadu'r Cynllun, y cam nesaf fyddai i'r Rhanddeiliaid ffurfio gr?p i fwrw ymlaen a byddai'r gr?p hwnnw'n ystyried newid data ac ati a llunio blaenoriaethau yn unol â hynny. Wedyn byddai'r Is-adran Adfywio yn gweithio gyda'r Gr?p i hwyluso darpariaeth y Cynllun ac i archwilio cyfleoedd cyllido.

·       O ran cwestiwn ar ddarparu'r siop Co-op newydd arfaethedig, dywedodd y Pennaeth Adfywio fod y datblygiad wedi cael caniatâd cynllunio a rhagwelir y byddai'r gwaith adeiladu yn dechrau yn y dyfodol agos.

·       Cyfeiriwyd at y cynllun, ynghyd â chynigion datblygu ar gyfer Porth Tywyn yn y dyfodol ac at yr effaith bosibl y gallai hynny ei chael ar lefelau traffig ar gyfer Heol y Sandy yn Llanelli.

 

Dywedodd y Pennaeth Adfywio fod datblygiadau ym Mhorth Tywyn yn cael eu gwneud fel rhan o Gyd-fenter gyda Llywodraeth Cymru ac y byddai unrhyw ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol yn ystyried effaith bosibl cynnydd mewn traffig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: