Agenda item

DEISEB HARBWR PORTH TYWYN I'R CYNGOR LLAWN - Y WYBODAETH DDIWEDDARAF

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru mewn ymateb i ddeiseb a gyflwynwyd i'r Cyngor ar 25 Ionawr 2023 gan Gyfeillion Marina Porth Tywyn (FBPM), gan fynegi eu hanfodlonrwydd o ran gweithrediad a chyflwr Harbwr Porth Tywyn, cyn i'r adroddiad gael ei ystyried gan y Cabinet ym mis Mehefin. Gweithredir yr harbwr ar brydles 150 mlynedd gan Burry Port Marine Limited (BPML).

 

Nododd yr adroddiad yn ddiamwys fod y Cyngor Sir yn rhannu nod datganedig FBPM o fod eisiau cyfleuster diogel, gweithredol a deniadol sydd o fudd gwirioneddol i ddefnyddwyr yr harbwr a'r gymuned gyfan.

 

Cyfeiriodd yr adroddiad yn benodol at faterion a phryderon a nodwyd gan yr FBPM gan gynnwys:

 

-        Cydnabuwyd bod y diffyg carthu yn yr harbwr dros y blynyddoedd diwethaf wedi arwain at laid  a mwd yn cronni gan rwystro ei weithrediad a llongau yn cyrraedd ac yn gadael yr harbwr. Mae'r adroddiad yn nodi bod cynllun carthu methodoleg gymysg wedi'i ddogfennu (i gynnwys agor llifddorau'n rheolaidd a charthu trwy chwistrellu d?r) wedi'i gyflwyno gan BPML a'i bostio ar eu gwefan. Fodd bynnag, cadarnhaodd diweddariad llafar gan y Pennaeth Hamdden, fod camau gweithredu sy'n gysylltiedig ag amser o fewn y cynllun hwn yn llithro ac nad oeddent yn cael eu cyflawni ar hyn o bryd.

-        Cadarnhad bod CSC, fel landlord, wedi ysgrifennu'n ffurfiol at BPML i'w rhoi ar rybudd o dorri amodau yn erbyn telerau'r les, ac yn benodol o ran eu rhwymedigaeth i garthu'r Harbwr i ddyfnder o 1.0 metr o leiaf ar lefel gronni.

-        Bod swyddogion y Cyngor yn cyfarfod yn rheolaidd â Rheolwr Gyfarwyddwr y Gr?p Morol, lle'r oedd pryderon gweithredol wedi codi ac yn parhau i gael eu codi yn ogystal ag aelodau lleol a Chadeirydd Cyfeillion Marina Porth Tywyn i arfarnu'n rheolaidd ar y sefyllfa yn yr harbwr.

 

Mae'r adroddiad hefyd yn cyfeirio at y canlynol:

 

-         Crynhoad dyled i'r Cyngor mewn perthynas â chyfraddau, rhent a thaliadau eraill (a sefyllfa'r Cyngor o ran adferiad), yn erbyn yr amgylchedd ariannol heriol a amlygwyd gan BPML, ynghyd ag effaith Covid, ac argyfyngau ariannol a chostau byw ar yr economi ehangach

 

Gwnaed sawl cyfeiriad gan aelod lleol, y Cynghorydd John James, a'r Pwyllgor ehangach at gyflwr dirywiol yr harbwr dros y 5 mlynedd diwethaf, ers dyfarnu'r Brydles gan y Cyngor i'r Gr?p Morol, ac at addewidion wedi'u torri a thorri amodau prydles gan y cwmni dros y cyfnod hwnnw. Roedd y rheiny, ynghyd â phryderon eraill, yn cynnwys:

 

-        y diffyg carthu yn yr harbwr i'r pwynt lle mae bellach yn effeithio'n ddifrifol ar weithrediadau harbwr ar gyfer defnyddwyr cychod,

-        diffyg gwaith atgyweirio a chynnal a chadw gan gynnwys gatiau'r harbwr a oedd wedi bod yn anweithredol dros y misoedd diwethaf gydag olew yn gollwng i'r d?r.

-        pontynau'n torri'n rhydd yn yr harbwr ac yn arnofio i'r bae.

-        Er bod gan yr harbwr 450 o angorfeydd, dim ond 49 oedd wedi'u meddiannu.

-        Sefyllfa ariannol y cwmni

-        Gallai cyflwr presennol yr harbwr atal unrhyw ddiddordeb gan ddarpar weithredwyr yn y dyfodol.

 

Mynegwyd pryderon hefyd mewn perthynas â rhestr o welliannau eraill o amgylch yr harbwr nad oeddent yn datblygu, gan gynnwys uwchraddio'r pontynau masnachol, ail-gychwyn gwaith i hen adeilad yr RNLI i fod yn Swyddfa Harbwrfeistr newydd a chyfleusterau gwell i ddefnyddwyr yr harbwr newid dillad a chael cawod.

 

O ystyried yr uchod, mynegodd y Pwyllgor bryderon difrifol am hyfywedd yr harbwr yn y dyfodol i'r pwynt lle, oni bai bod yr amodau i wella yn y dyfodol agos, y dylai'r Cyngor ystyried opsiynau sydd ar gael mewn perthynas â dod â'r cytundeb prydles i ben a dod o hyd i weithredwr arall.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Hamdden a'r Pennaeth Adfywio fod y Cyngor yn cydnabod yr anawsterau parhaus yn yr Harbwr a bod trafodaeth reolaidd yn parhau gyda'r gweithredwr, y Cyfarwyddwr Adnoddau, aelodau lleol, Cadeirydd FBML, a'r gwasanaethau cyfreithiol i geisio datrys y sefyllfa anfoddhaol bresennol. Dywedwyd hefyd bod yn rhaid dilyn y broses gyfreithiol briodol o ystyried statws y cytundeb prydles hirdymor a'i bod yn anochel y byddai materion o'r fath yn cymryd amser i fynd i'r afael â nhw a'u datrys yn llawn, yn anffodus. Rhoddwyd sicrwydd i'r Aelodau y byddai materion yn parhau i gael eu datblygu cyn gynted â phosibl ac fe'u hatgoffwyd bod y Cyngor wedi dechrau ar broses gyfreithiol i sicrhau bod ei asedau'n cael eu diogelu tra bod yr holl opsiynau ar gyfer y dyfodol yn cael eu hystyried.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod pryderon y Pwyllgor ynghylch y sefyllfa bresennol yn Harbwr Porth Tywyn yn cael eu rhannu â'r Cabinet a bod y Cabinet yn cael ei ofyn i wneud y canlynol:

1.     Cynnal ymweliad safle â Harbwr Porth Tywyn ar lanw isel,

2.     Ystyried terfynu'r cytundeb prydlesu gyda Burry Port Marine Ltd os nad oes gwelliannau wedi'u cyflawni erbyn diwedd y broses gyfreithiol bresennol.

Dogfennau ategol: