5.1 CWESTIWN GAN YR ATHRO IAN ROFFE
“Mae iechyd a llesiant gwael ymhlith swyddogion a staff profiadol yn gadael gynnar yn gallu cael effaith niweidiol ar effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd heddlu. Sut ydych chi'n sicrhau bod y Prif Gwnstabl yn mynd i'r afael â'r materion hyn yn briodol ac ydych chi'n fodlon â chanlyniadau ei ymdrechion?”
5.2 CWESTIWN GAN YR ATHRO PROFESSOR IAN ROFFE
“Gwnaeth adroddiad y Farwnes Casey, ar yr Heddlu Metropolitanaidd, dynnu sylw at lawer o bryderon difrifol gyda'r llu hwnnw.Pa berthnasedd ydych chi'n gweld sydd gan yradroddiad ar gyfer Dyfed Powys a pha gamau fyddwch chi'n eu cymryd i sicrhau nad yw'r gwersi a nodwyd yn cael eu colli?”
5.3 CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD WILLIAM DENSTON POWELL
“Mae mynd i'r afael â throseddau gwledig yn faes lle mae Heddlu Dyfed-Powys wedi gwneud cynnydd gwirioneddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ond mae pryderon bod momentwm wedi arafu'n ddiweddar. Ydych chi'n rhannu'r pryderon hyn? Pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod y cynnydd da yn cael ei gynnal yn y dyfodol?”
5.4 CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD WILLIAM DENSTON POWELL
“Ym mis Gorffennaf 2022 cyhoeddodd y Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain ei hadolygiad o drwyddedu drylliau'r heddlu gan dynnu sylw at amrywiadau sylweddol o ran effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd lluoedd ar draws Cymru a Lloegr. Roedd Dyfed-Powys yn y chwartel canol, gan gymryd 93 diwrnod ar gyfartaledd i ddelio â phob cais. Mae'r oedi yma yn achos pryder. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod yr Heddlu yn cynnal trefn Drwyddedu Drylliau effeithlon a addas i'r diben ar gyfer Dyfed-Powys?”
Cofnodion:
5.1 CWESTIWN GAN YR ATHRO IAN ROFFE
“Mae iechyd a llesiant gwael ymhlith swyddogion a staff profiadol yn gadael yn gynnar yn gallu cael effaith niweidiol ar effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd heddlu. Sut ydych chi'n sicrhau bod y Prif Gwnstabl yn mynd i'r afael â'r materion hyn yn briodol ac ydych chi'n fodlon â chanlyniadau ei ymdrechion?”
Ymateb y Comisiynydd:
Dywedodd y Comisiynydd y byddai adroddiad ag ymateb llawn i'r cwestiwn yn cael ei anfon ar e-bost y tu allan i'r cyfarfod.
Dywedodd y Comisiynydd fod gan y mwyafrif o'r heddlu llai na phum mlynedd o wasanaeth a bod llai o gydweithwyr uwch i gefnogi'r swyddogion iau. Mae gan yr Heddlu Fwrdd Pobl, Diwylliant a Moeseg lle trafodir strategaethau llesiant a materion iechyd galwedigaethol. Roedd adroddiad Arolygu 2021-22 wedi tynnu sylw at waith a wnaed yn Heddlu Dyfed-Powys i gynnig ystod dda o rwydweithiau cymorth i staff. Roedd y Comisiynydd yn fodlon â'r gefnogaeth i'r holl staff ac yn ddiweddar derbyniodd yr Heddlu wobr aur Buddsoddwyr mewn Pobl. Dywedodd y Comisiynydd wrth y Panel fod gan staff gyfleoedd i gynnal sesiynau preifat gydag Iechyd Galwedigaethol os gofynnir amdanynt.
5.2 CWESTIWN GAN YR ATHRO IAN ROFFE
“Gwnaeth adroddiad y Farwnes Casey, ar yr Heddlu Metropolitanaidd, dynnu sylw at lawer o bryderon difrifol gyda'r llu hwnnw. Pa berthnasedd ydych chi'n gweld sydd gan yr adroddiad ar gyfer Dyfed-Powys a pha gamau fyddwch chi'n eu cymryd i sicrhau nad yw'r gwersi a nodwyd yn cael eu colli?"
Ymateb y Comisiynydd:
Dywedodd y Comisiynydd pan fydd yn siarad â recriwtiaid newydd, yr un neges bwysig mae’n ei chyfleu yw’r safonau uchel sydd gan Heddlu Dyfed-Powys. Rhoddwyd gwybod i'r Panel fod argymhelliad Cenedlaethol ynghylch fetio ac ail-fetio staff a bod ei swyddfa wedi bod trwy'r broses hon yn ddiweddar.
5.3 CWESTIWN GAN YR ATHRO IAN ROFFE
“Mae mynd i'r afael â throseddau gwledig yn faes lle mae Heddlu Dyfed-Powys wedi gwneud cynnydd gwirioneddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ond mae pryderon bod momentwm wedi arafu'n ddiweddar. Ydych chi'n rhannu'r pryderon hyn? Pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod y cynnydd da yn cael ei gynnal yn y dyfodol?”
Ymateb y Comisiynydd:
Sicrhaodd y Comisiynydd y Panel y bydd y cynnydd yn parhau mewn ardaloedd gwledig. Mae'r Heddlu yn fwy rhagweithiol o ran deallusrwydd mewn gweithgareddau troseddol. Dywedwyd wrth y Panel fod yr Heddlu wedi buddsoddi mewn dronau, gan ychwanegu at y tîm troseddau gwledig. Bydd hyn yn rhan o'r tîm ehangach yn ôl yr angen. Dywedodd y Comisiynydd wrth y Panel fod mynediad i'r dangosfwrdd bellach ar gael i'w dîm i fonitro rhai o’r perfformiadau. Byddai'r Bwrdd Strategol nawr yn cael ei ailfywiogi.
5.4 CWESTIWN GAN YR ATHRO IAN ROFFE
“Ym mis Gorffennaf 2022 cyhoeddodd y Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain ei hadolygiad o drwyddedu drylliau'r heddlu gan dynnu sylw at amrywiadau sylweddol o ran effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd lluoedd ar draws Cymru a Lloegr. Roedd Dyfed-Powys yn y chwartel canol, gan gymryd 93 diwrnod ar gyfartaledd i ddelio â phob cais. Mae'r oedi yma yn achos pryder. Pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod yr Heddlu yn cynnal trefn Drwyddedu Drylliau effeithlon ac addas i'r diben ar gyfer Dyfed-Powys?”
Ymateb y Comisiynydd:
Dywedodd y Comisiynydd wrth y Panel ei fod yn cyfarfod â Chymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain ynghyd â'r Prif Gwnstabl yn rheolaidd i drafod materion. Mae canllawiau newydd i'w cyhoeddi ar ôl digwyddiad Plymouth. Mae Tîm Adolygu'r Heddlu yn ymchwilio i pam mae oedi wrth brosesu trwyddedau. Dywedodd y Comisiynydd wrth y Panel y byddai'n darparu ymateb cynhwysfawr i elfen cost trwyddedau.