Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd, ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor, Cynlluniau Cyflawni Is-adrannol Adran y Prif Weithredwr ar gyfer 2023-24 a oedd yn cynnwys:
· TGCh a Pholisi Corfforaethol;
· Rheoli Pobl;
• Y Gyfraith a Gweinyddiaeth;
•Y Gwasanaethau Etholiadol a Chofrestru Sifil;
• Gwasanaethau Marchnata a'r Cyfryngau/Cyfieithu;
• Cymorth Busnes a'r Cabinet.
Roedd y cynlluniau yn pennu'r camau a'r mesurau strategol y byddai'r gwasanaethau yn eu cymryd er mwyn i'r Cyngor wneud cynnydd mewn perthynas ag Amcanion Llesiant, blaenoriaethau thematig a blaenoriaethau gwasanaeth y Cyngor.
Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad/cynlluniau:
TGCh a Pholisi Corfforaethol
· Sicrhawyd yr aelodau fod seiberddiogelwch yn cael ei ystyried yn ddifrifol iawn ac roedd yr Awdurdod yn cymryd dull amlweddog a chadarn o ran atal ymosodiadau seiber;
· Mewn ymateb i sylw dywedodd y Pennaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol yr ymatebwyd i dros 90% o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a hynny o fewn 20 diwrnod gwaith;
· Nodwyd y byddai'r system gefn swyddfa newydd a'r Porth Ar-lein ar gyfer mwy o Fynediad i Bobl a Hunanwasanaeth yn galluogi aelodau'r cyhoedd i dderbyn adborth ar faterion/ceisiadau a gyflwynwyd ganddynt;
· Mewn ymateb i ymholiad dywedodd yr Arweinydd y byddai'r Panel Ymgynghorol ynghylch Trechu Tlodi yn cael ei gadeirio gan y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Gartrefi gydag aelodaeth wleidyddol gytbwys. Dywedodd y gallai adroddiadau i'r Panel fod ar gael i'r Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol pe bai'n dymuno. Diolchodd i bob aelod am eu mewnbwn i'r agenda trechu tlodi;
Rheoli Pobl
[SYLWER: Roedd y Cynghorydd K Madge wedi datgan buddiant yn y Cynllun Cyflawni Is-adrannol yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei ystyried.
Roedd y Cynghorydd M.J.A. Lewis wedi datgan diddordeb yn y Cynllun Cyflawni Rhanbarthol hwn gan fod ei nith yn gweithio yn yr Adran Addysg a Phlant ond arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei ystyried.
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y galw cynyddol ar y tîm Iechyd Galwedigaethol fe wnaeth y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) gydnabod bod atgyfeiriadau, yn enwedig at y gwasanaeth llesiant, wedi cynyddu o ganlyniad i Covid. Roedd atgyfeiriadau a oedd yn deillio o faterion covid hir yn parhau'n isel;
· Cydnabuwyd bod targed Mehefin 2023 i 'adolygu polisïau Adnoddau Dynol perthnasol i gefnogi datblygiad gweithlu mwy hyblyg a deinamig' yn uchelgeisiol ond roedd rheolwyr yn cael hyfforddiant pwrpasol yn enwedig o ran rheoli gweithlu 'hybrid' wedi'r pandemig a oedd yn gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref. Y gobaith oedd y byddai hyblygrwydd o fudd i unigolion a'r Awdurdod;
· Mewn ymateb i gwestiwn fe ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) ei fod wedi gofyn i’r tîm TIC (Trawsnewid i Wneud Cynnydd) adolygu ei raglen yn benodol gyda'r nod o gryfhau'r gwasanaeth. Mynegwyd y gobaith y gallai tîm TIC sydd ag adnoddau priodol gynhyrchu incwm o bosib;
· dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl), mewn ymateb i sylw, y byddai mwy o ddata yn cael ei gynnwys yn y Cynllun Cyflawni o ran prentisiaethau;
Y Gyfraith a Gweinyddiaeth
[SYLWER: Gan fod y Cynghorydd A. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon eisoes, nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod tra trafodid yr eitem hon.]
· Cyfeiriwyd at y gofyniad cyfreithiol i ganiatáu i aelodau fynychu naill ai'n gorfforol neu o bell (cyfarfodydd aml-leoliad)' a mynegwyd pryder ynghylch yr effaith niweidiol yr oedd hyn yn ei chael ar y broses ddemocrataidd gyda rhai aelodau heb gwrdd â'i gilydd wyneb yn wyneb. Awgrymwyd y dylai fod yn ofynnol i bob aelod o leiaf fynychu'r Cyngor llawn yn bersonol. Derbyniodd yr Arweinydd fod hwn yn bwynt dilys ond atgoffodd yr aelodau fod rhwymedigaeth statudol ar y Cyngor i gynnig cyfarfodydd hybrid, oedd â'u manteision a'u hanfanteision, i Gynghorwyr;
· Nodwyd y byddai'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ystyried adroddiad yn fuan ar welliannau posibl i broses ymholiadau'r Cynghorwyr;
· cadarnhaodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) y byddai dadansoddiad o'r gweithlu presennol yn nodi gofynion, sgiliau a chymwyseddau gweithlu'r dyfodol a byddai hefyd yn canolbwyntio ar reoli olyniaeth;
Y Gwasanaethau Etholiadol a Chofrestru Sifil
· Cyfeiriwyd at y ffaith bod cyllideb 2023-24 ar gyfer 'Etholiadau-Cyngor Sir' yn uchel ar gyfer blwyddyn lle na fyddai etholiadau. Cytunodd y Pennaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol i ganfod y rheswm a dosbarthu'r manylion i'r aelodau;
· Mynegwyd pryder ynghylch gofynion newydd o ran prawf adnabod pleidleiswyr yng ngorsafoedd pleidleisio Seneddol ac awgrymwyd y dylai'r Cyngor wneud popeth o fewn ei allu i roi cyhoeddusrwydd i'r mater cyn yr etholiadau nesaf. Roedd yr Arweinydd yn cefnogi’r pryderon a dywedodd y byddai'r tîm Marchnata a'r Cyfryngau gweithio ar sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o'r gofynion;
Gwasanaethau Marchnata a'r Cyfryngau/Cyfieithu
· Mewn ymateb i ymholiad dywedodd yr Arweinydd y byddai creu pecyn cymorth digidol i hyrwyddo digwyddiadau/gwyliau lleol ar draws y Sir yn cynnwys ardaloedd gwledig ac yn darparu cysylltiadau â chyrff ariannu;
· Mewn ymateb i bryder dywedodd yr Arweinydd ei fod yn ymwybodol iawn o'r angen i wella'r amser a gymerir i ateb galwadau yn y Canolfannau Cyswllt a bod adnoddau ychwanegol wedi bod ar gael dros y misoedd diwethaf.
PENDERFYNWYD yn UNFRYDOL y dylid derbyn Cynlluniau Cyflawni Is-adrannol Adran y Prif Weithredwr.
Dogfennau ategol: