Agenda item

CWESTIWN GAN CHARLIE EVANS I'R CYNGHORYDD DARREN PRICE, ARWEINYDD Y CYNGOR

"Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymgynghori ar hyn o bryd ynghylch ei safle newydd ar gyfer ysbyty gofal brys a gofal wedi'i gynllunio newydd.

 

Bydd hyn yn arwain at israddio'n ddifrifol wasanaethau yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin ac mae trigolion yn gwrthwynebu hyn yn gryf.

 

A chymryd bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwneud sylwadau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghylch yr ymgynghoriad, pa un o'r tri safle arfaethedig - Sanclêr, Gerddi'r Ffynnon yn Hendy-gwyn ar Daf neu D? Newydd yn Hendy-gwyn ar Daf yw'r opsiwn a ffefrir gan y Cyngor?"

 

Cofnodion:

"Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ymgynghori ar hyn o bryd ynghylch ei safle newydd ar gyfer ysbyty gofal brys a gofal wedi'i gynllunio newydd.  Bydd hyn yn arwain at israddio'n ddifrifol wasanaethau yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin ac mae trigolion yn gwrthwynebu hyn yn gryf. A chymryd bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwneud sylwadau i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynghylch yr ymgynghoriad, pa un o'r tri safle arfaethedig- Sanclêr, Gerddi'r Ffynnon yn Hendy-gwyn ar Daf neu D? Newydd yn Hendy-gwyn ar Daf yw'r opsiwn a ffefrir gan y Cyngor?"

  

Ymateb gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd y Cyngor:-

 

‘’Diolch ichi am y cwestiwn.  Yn gyntaf oll byddwch chi'n ymwybodol o ddatganiadau sydd wedi eu gwneud dros nifer o flynyddoedd gan aelodau'r Cyngor hwn o ran pwysigrwydd Glangwili i Sir Gaerfyrddin, ac nid yw ein safbwynt ni wedi newid yn yr ystyr yna - rydym o'r farn bod gan Glangwili rôl ganolog mewn darparu gofal iechyd i bobl Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol.  Fodd bynnag, rwy'n cwestiynu'r rhesymeg y tu ôl i'ch cwestiwn, mae'n ymddangos braidd yn ddibwrpas yn yr ystyr mai'r Bwrdd Iechyd yw'r corff sy'n penderfynu ar hyn, fel y gwyddoch yn iawn, felly rwy'n meddwl tybed pam eich bod yn gofyn i'r Cyngor Sir am eu barn ar y safleoedd sy'n cael eu cyflwyno.  Teimlaf fod y cwestiwn yn fas ac yn brin o ddyfnder oherwydd, a dweud y gwir, mae yna heriau llawer mwy yn wynebu iechyd a gofal cymdeithasol yn y rhan hon o'r byd, fel yn wir yng ngweddill y Deyrnas Unedig.  Does dim sôn yn y cwestiwn am bwysigrwydd trosglwyddo gofal o leoliadau acíwt i leoliadau yn y gymuned - mae hynny'n gwbl sylfaenol ac yn rhywbeth yr ydym fel Cyngor wedi bod yn pwyso ar y Bwrdd Iechyd arno ers nifer o flynyddoedd, ac rydym yn credu ei fod yn gwbl ganolog i unrhyw weledigaeth o iechyd a gofal cymdeithasol wrth symud ymlaen.  Nid yw'n cyffwrdd â phwysigrwydd iechyd y cyhoedd a'r agenda ataliol sy'n hollbwysig, eto wrth i ni geisio datblygu'r system yn y blynyddoedd i ddod.  Ac nid yw'n sôn dim am recriwtio a chadw staff sef y prif fater sy'n wynebu Bwrdd Iechyd Hywel Dda, fel byrddau iechyd eraill ledled y DU.  Fel y gwyddoch, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi llywyddu dros 10 mlynedd o doriadau i wasanaethau cyhoeddus sy'n golygu bod nifer o'n gwasanaethau iechyd ar fin methu.  Bu methiant aruthrol i fuddsoddi mewn asedau a phobl yn y gwasanaeth iechyd, fel sydd wedi digwydd ar draws gweddill y sector cyhoeddus dros y ddegawd honno.  Yr effaith ar y gwasanaethau iechyd yw bod gennym bobl yn marw ar draws y DU, marwolaethau y mae modd eu hosgoi; pobl yn marw ar drolïau yn yr adran damweiniau ac achosion brys, neu'n waeth byth yn sownd gartref oherwydd bod ambiwlans wedi methu eu cyrraedd.  Dyna'r record o ddeng mlynedd o lymder - ac rydyn ni'n meddwl tybed pam fod y gwasanaeth iechyd mewn cymaint o lanast?  Os ydym am gynyddu a gwella gwasanaethau mewn unrhyw ran o gymdeithas, mae'n rhaid i ni fod yn barod i fuddsoddi ynddynt. Nid yw hynny wedi digwydd dros y degawd diwethaf ac yn gwbl onest mae cwestiwn yn gofyn i ni, fel y Cyngor, a ydym yn credu ei bod yn well lleoli ysbyty posib arfaethedig  5 milltir i'r Dwyrain neu'r Gorllewin – Sanclêr neu Hendy-gwyn - yn methu'r pwynt yn llwyr.  Byddwn yn dweud hefyd ei bod yn codi fy ngwrychyn i raddau fod gennym aelodau lleol o'r blaid Geidwadol yma yn eu cyflwyno eu hunain fel amddiffynwyr y gwasanaethau iechyd ac amddiffynwyr gwasanaethau cyhoeddus fel y cyfryw, pan fo record eich plaid dros y 10 mlynedd diwethaf yn dangos nad ydych chi'n ddim o'r fath.  I gyfeirio at eich cwestiwn ynghylch y safle, nid yw'r Cyngor hwn wedi cyflwyno sylwadau i'r Bwrdd Iechyd yn ffurfiol o ran y 3 opsiwn, ond bydd aelodau etholedig yn cael cyfle ar y 4ydd o Fai 2023 i gael sgwrs uniongyrchol ac i wneud unrhyw sylwadau i'r Bwrdd Iechyd mewn sesiwn sydd wedi'i threfnu'n arbennig.  Nid dyma'r un cyntaf, rydyn ni wedi cael trafodaethau gyda'r Bwrdd Iechyd dros nifer o flynyddoedd wrth i'r cynlluniau hyn ddatblygu, ac yn y sesiynau hynny rydym wedi cael aelodau etholedig y Cyngor hwn yn cyflwyno sylwadau clir iawn, ac yn mynegi pryderon ynghylch y pellteroedd teithio a'r amseroedd maen nhw'n ofni fydd yn cynyddu - yn enwedig i'r aelodau hynny tua dwyrain y sir mewn ardaloedd fel Llanymddyfri, pen uchaf Dyffryn Tywi, aelodau Dyffryn Aman ac yn yr un modd ar gyfer aelodau yng nghornel de-ddwyrain y sir yn Llanelli; a byddwn i'n disgwyl i'r trafodaethau hynny barhau pan fyddwn ni'n siarad â'r Bwrdd Iechyd ar y 4ydd o Fai.  Ond yn amlwg i'r aelodau hynny yng ngorllewin y sir, mae'n bosib y byddan nhw'n fwy bodlon gyda'r cynigion o ran y safleoedd posib yn Sanclêr a Hendy-gwyn.  Ond fel y soniais, dyma drafodaethau i aelodau etholedig eu cael gyda'r Bwrdd Iechyd dros yr wythnosau nesaf ac rwy'n disgwyl i'r aelodau ymroi'n llawn i'r broses honno.  Rwyf am ddweud yn y cyswllt hwn fy mod ychydig yn bryderus ynghylch yr hyn yr ydym wedi'i weld y bore yma, ac yn yr un modd yng nghyfarfod diwethaf y Cabinet, sef mewn gwirionedd herwgipio a chamddefnyddio slot cwestiynau'r cyhoedd at ddibenion plaid wleidyddol.  Fel rhywun a oedd yn un o'r aelodau oedd yn pwyso am fwy o atebolrwydd gwleidyddol a mwy o ymgysylltu â'r cyhoedd rhyw 10 mlynedd yn ôl bellach, roedd yr ysgogwyr ar gyfer y ddwy slot hyn o ran eitemau 4 a 5 sydd gennym o'n blaenau heddiw – cwestiynau gan aelodau a'r cyhoedd – yn ymwneud â mwy o ymgysylltu ac atebolrwydd.  Gadewch i mi fod yn glir, rwy'n llwyr ddisgwyl cael fy nal i gyfrif yn wleidyddol gan aelodau'r Cyngor hwn oherwydd dyna yw eu gwaith nhw, maen nhw wedi cael eu hethol i'w wneud ac rwy'n croesawu hynny oherwydd ei fod yn arwain at wneud penderfyniadau gwell yn y tymor hir.  Rwyf hefyd yn croesawu cwestiynau gan aelodau cyffredin, dilys o'r cyhoedd sydd am godi pryder gyda'r Awdurdod, oherwydd trwy siarad a chlywed yn uniongyrchol gan drigolion dilys yr ydym yn aml yn adnabod bylchau a dallbwyntiau yn ein meddylfryd. Yr hyn nad wyf yn ei groesawu, fodd bynnag, yw bod plaid wleidyddol yn camddefnyddio a herwgipio amser cwestiynau'r cyhoedd, i bob golwg i geisio creu platfform i'w hunain.  Nid dyna bwrpas y slot yma, ac mae'n fy nhristáu ein bod wedi cael 3 cwestiwn y bore yma gan aelodau'r blaid Geidwadol, pob un ohonynt wedi ceisio a methu cael eu hethol i'r lle hwn.  Gan gyflwyno eu hunain, fel y soniais yn gynharach, fel amddiffynwyr y bobl, amddiffynwyr gwasanaethau cyhoeddus - pan nad ydyn nhw'n ddim o'r fath.  Roedd yna etholiad ym mis Mai 2022, lai na blwyddyn yn ôl, a rhoddodd ymgeiswyr Ceidwadol eu hunain ymlaen i gael eu hethol ledled y sir - cawsoch eich gwrthod gan bawb.  Ni lwyddodd yr un ymgeisydd o'r Blaid Geidwadol i gael ei ethol i'r lle hwn.  Felly, rwy'n ei chael hi'n sarhaus, ar ôl methu argyhoeddi pobl drwy'r blwch pleidleisio, eich bod yn ceisio creu platfform i chi eich hunain drwy gamddefnyddio a herwgipio adran cwestiynau'r cyhoedd.  Mae gyda ni bentwr o gwestiynau dibwrpas.  Cwestiynau dibwrpas, bas, plaid-wleidyddol sy'n gwastraffu fy amser i, yn gwastraffu amser fy Nghabinet ac yn gwastraffu amser fy swyddogion.  Byddwn i'n awgrymu'n barchus nad yw'n mynd â ni gam ymhellach ac os yw aelodau o'r blaid dorïaidd leol am wneud unrhyw gyfraniad at welliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin, byddwn yn gofyn i chi fynd â'r frwydr at gydweithwyr eich plaid eich hun yma yn Ne-orllewin Cymru ac ar lefel Llywodraeth y DU i sicrhau eu bod yn dechrau unioni camweddau'r 10 mlynedd diwethaf a'r tan-gyllido gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi arwain at eu bod ar fin methu.  Dyna'r unig ateb, a dyna'r unig ffordd allan o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus priodol yn y rhan hon o'r byd.  Mae'n gywilyddus, yn gwbl gywilyddus, eich bod chi'n ceisio herwgipio slot cwestiynau'r cyhoedd hwn at ddibenion plaid wleidyddol.  Os ydych chi eisiau dadl wleidyddol, rwy'n fwy na pharod i gymryd rhan ynddi, ond y ffordd orau o wneud hynny yw argyhoeddi'r etholwyr yn Sir Gaerfyrddin mai chi yw'r bobl orau i'w cynrychioli.  Hyd yma nid ydych wedi cael y profiad hynny, ac awgrymaf fod pobl Sir Gâr yn gallu gweld beth rydych chi'n ei wneud, dydyn nhw ddim yn dwp. Eich gwaith chi yw darbwyllo eich cydweithwyr yn y blaid ein bod yn cael digon o gyllid yn Sir Gaerfyrddin i ddarparu gwasanaethau fel yr ydyn ni'n dymuno. Diolch yn fawr”.

 

Cwestiwn atodol gan Charlie Evans:-

 

“Gofynnais fy nghwestiwn heddiw fel aelod o'r cyhoedd, a gwnes ei ofyn yn gwrtais iawn ac, yn anffodus, dwi ddim yn credu fy mod i wedi cael y parch sy'n ddyledus yn ôl i mi fel aelod o'r cyhoedd.  Rwyf yn talu treth y cyngor fel un o drigolion Sir Gaerfyrddin, a chi'r Cynghorydd Price yw fy nghynghorydd sir felly rwyf braidd yn bryderus nad ydych wedi rhoi i mi, fel un o drigolion y cyhoedd heddiw, yr un lefel o barch ag yr wyf innau'n ei rhoi i chi drwy gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Rwy'n pryderu'n fawr hefyd ei bod yn ymddangos eich bod yn agor y drws i gyfyngu ar aelodau'r cyhoedd rhag gofyn cwestiynau yn seiliedig ar gysylltiad plaid-wleidyddol - ni fyddech yn gwneud hynny i bobl eraill, felly rwy'n pryderu braidd.  Mae gennyf hefyd broblem gyda'r modd y gwnaethoch fframio'r cwestiwn a ofynnais gan ddweud ei fod yn 'ddibwrpas', yn 'fas', 'yn brin o ddyfnder' - roedd yn ymddangos fel ffordd o osgoi'r cwestiwn.  Fel y gwyddoch, mae unrhyw gynllun ar gyfer ysbyty newydd yn gofyn am gydweithio agos rhwng y Bwrdd Iechyd a'r Cyngor Sir, er enghraifft gyda chynllunio, cysylltiadau â gofal cymdeithasol a llwybrau gwasanaeth bysiau, felly - pa lefel o fewnbwn ffurfiol sydd gan Gyngor Sir Caerfyrddin, o ystyried y rhyngddibyniaethau hynny, ydych chi wedi'i gael wrth lunio achos busnes y rhaglen gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda”?

 

Ymateb gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd y Cyngor i'r cwestiwn atodol :-

 

“Yn amlwg mae'r Cyngor yn ymgysylltu â'r Bwrdd Iechyd ar ystod eang o faterion, trwy ystod eang o fforymau.  Mae'r Bwrdd Iechyd yn aelodau o'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin, ceir integreiddio agos drwy'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol ac mae swyddogion yn gweithio gyda phartneriaid y Bwrdd Iechyd trwy lu o raglenni, fel bod yr ymgysylltu yn gyson a bydd yn parhau. 

 

Roedd fy sylw ynghylch ei fod yn 'ddibwrpas' a 'bas' yn ymwneud â'r ffocws ar os yw'n mynd i fod 5 milltir i'r dwyrain neu'r gorllewin - p'un a fydd yr ysbyty newydd hwn yn cael ei adeiladu yn Sanclêr neu yn Hendy-gwyn, ni fydd hynny'n gwneud dim gwahaniaeth o gwbl i'r materion ehangach y mae'r Gwasanaeth Iechyd yn eu hwynebu - dyna'r pwynt yr oeddwn yn ei wneud.  Mae yna faterion llawer mwy sylfaenol y mae angen i ni ymosod arnynt - nid yn unig yn y tymor canolig, ond yn y tymor byr iawn o ran recriwtio staff, tâl ac amodau - yr ydych yn gwbl ymwybodol ohonynt.  Mae Llywodraeth y DU wedi methu'n llwyr â delio â hynny.  Tybed pam ein bod yn brin o staff - mae miloedd o fylchau yn ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol a tybed pam? Maen nhw'n teimlo eu bod yn cael eu tanbrisio, maen nhw'n teimlo nad ydyn nhw'n cael eu talu'n ddigonol ac mae angen datrys hynny - nid yw wedi cael ei ddatrys hyd yma - a dyna oeddwn yn cyfeirio ato wrth sôn am eich cydweithwyr yn y blaid yn Llundain.  O ran camddefnyddio slot cwestiynau'r cyhoedd, rwy'n croesawu'n fawr gyfraniadau gan aelodau dilys o'r cyhoedd - dim ond yr wythnos diwethaf yr oedd gyda ni un yn y Cyngor.  Dyma lle mae ganddyn nhw brofiad uniongyrchol, profiad byw, lle mae rhywbeth yn effeithio arnyn nhw neu eu cymuned ac maen nhw eisiau gweld rhywbeth yn cael ei wneud.

 

Yr hyn rydyn ni'n ei weld heddiw yw 3 aelod o'r blaid Geidwadol yn lleol yn rhoi cwestiynau i mewn i gyd gyda'i gilydd.  Mae'n gwbl glir i unrhyw un weld nad cyd-ddigwyddiad yw hynny - penderfyniad wedi'i gydlynu gan y blaid Geidwadol i geisio creu platfform oherwydd eu bod wedi methu, yn llwyr, cael cefnogaeth etholiadol gan bobl Sir Gaerfyrddin.  Dwi'n gallu ei weld e, gall y Cabinet ei weld e, dwi wedi siarad â nifer o aelodau'r Cyngor yma o bob plaid, ac maen nhw i gyd yn gallu ei weld e a gall pobl Sir Gâr ei weld e.  Os oeddech chi wirioneddol eisiau gwybod beth oedd safbwynt Sir Gaerfyrddin ar yr ysbyty newydd, gallech fod wedi anfon e-bost ata i, gallech fod wedi gofyn i mi 'a ydych chi wedi gwneud sylwadau?' a gallen i fod wedi dweud 'na' wrthoch chi - ond nid dyna oeddech chi eisiau.  Roeddech chi eisiau dod yma, roeddech chi eisiau cael eich 5 munud o sylw ac roeddech chi eisiau gwneud sioe.  Os oeddech chi eisiau ateb gwirioneddol gallech chi fod wedi fy e-bostio, ond nid dyna'r bwriad a dyna sy'n codi fy ngwrychyn.  Nid cyfle i gael trafodaeth plaid-wleidyddol yw hyn.  Mr Hughes, fel y soniodd Ann Davies, gwnaethoch chi'r pwyntiau gwleidyddol hynny yn y wasg yn dilyn cyfraniad diwethaf y Cabinet a dyna pam rwy'n credu ein bod ni'n anhapus iawn â sut aeth hynny - oherwydd nid yr hyn a ddyfynnwyd gennych yn y wasg oedd yr hyn a gyflwynwyd yma yn y Cabinet”.